Fordwyaeth
Mae Banc Datblygu Cymru yma i helpu busnesau i gael y cyfalaf sydd arnynt ei angen er mwyn gallu dechrau, cryfhau ac ehangu. Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, bydd y Banc Datblygu yn buddsoddi dros £400 miliwn mewn busnesau yng Nghymru yn ystod y pum mlynedd nesaf. Wrth ystyried buddsoddiadau yn y sector preifat a’r cyllid sydd ar gael i brynwyr tai drwy gynllun Cymorth i Brynu - Cymru, bydd y Banc Datblygu yn cael effaith gwerth biliwn o bunnoedd ar economi Cymru.
Mae ein neges i fusnesau yng Nghymru yn syml: cysylltwch â ni. Rydym eisiau eich helpu i gael y buddsoddiad a’r cymorth sydd eu hangen arnoch i lwyddo. Pan fydd eich busnes yn ffynnu, bydd Cymru yn ffynnu.
Ewch i bancdatblygu.cymru i ddarganfod mwy.