Creu sylfaen ariannol gref ar gyfer eich cwmni cyfyngedig newydd.
Dyluniwyd y sesiwn hon ar gyfer entrepreneuriaid ar ddechrau eu taith fusnes, sef rhai sy’n awyddus i ddeall hanfodion rheoli cyllid eu cwmni cyfyngedig newydd ac sydd am wneud penderfyniadau gwybodus a hyderus. Byddwn yn edrych ar ddatganiadau ariannol, rhagolygon llif arian, a sut i baratoi ar gyfer ‘Troi Treth yn Ddigidol’ (MTD ar gyfer TAW/Treth Gorfforaethol).