[ Neidio i Gynnwys ]

Adeiladu Brand fydd Pobl yn ei Gofio

Bydd y sesiwn hwn yn cael ei gyflwyno yn Saesneg

Trosolwg

Cost: Am ddim

Anaml mae pobl yn cofio nodweddion neu wasanaethau. Maent yn cofio straeon, personoliaethau a negeseuon clir. Mae brand cofiadwy’n meithrin ymddiriedaeth, yn cynyddu atgyfeiriadau ac yn gwneud marchnata’n fwy effeithiol.

Prif Bwyntiau a Drafodir:

· Beth sy’n gwneud rhai brandiau’n gofiadwy a rhai eraill nid felly

· Creu stori sylfaenydd ddifyr

· Datblygu negeseuon allweddol y bydd cwsmeriaid yn eu cofio

· Diffinio tôn llais cyson

· Cyfathrebu eich gwerth yn hyderus

· Rhoi eich negeseuon ar draws gwefannau, cyfryngau cymdeithasol a rhwydweithio

Bydd cyfranogwyr yn gadael gyda:

· Stori sylfaenydd syml

· Crynodeb perswadiol

· Tair neges brand craidd

· Tôn llais wedi’i ddiffinio

· Negeseuon ymarferol y gallant eu defnyddio ar-lein ac all-lein yn syth

Bio’r Cyflwynydd –

Olu yw cyd-sylfaenydd Tropic, asiantaeth ddigidol sy’n gweithio gyda busnesau sy’n chwarae rhan allweddol mewn cymdeithas. Cyn sefydlu Tropic, arweiniodd raglenni Cyflymydd yn llwyddiannus ac mae wedi mentora rhai o’r busnesau newydd sydd â’r twf mwyaf yn y DU. Bellach yn gyfarwyddwr strategol yn Tropic, mae ei gleientiaid yn cael cyfuniad perffaith o gipolygon strategol a chanlyniadau creadigol, gan eu helpu nhw i lwyddo yn eu busnes.

Mae’r digwyddiad yma yn cael ei gynnal gan Busnes Cymru ar ran Llywodraeth Cymru.

Dyddiadau

8 Hydref 2026, 11:00 - 13:00
Digwyddiad ar-lein

Cost: Am ddim

Amodau arbennig

Mae Busnes Cymru yn wasanaeth dwyieithog ac mae ein digwyddiadau a'n gweithdai ar gael yn y Gymraeg a'r Saesneg, ar ôl cofrestru, rhowch wybod i ni beth yw eich dewisiadau iaith.

Termau

Gweler yma i weld sut mae Busnes Cymru yn trin eich gwybodaeth . Os ydych yn archebu lle ar ddigwyddiad Busnes Cymru neu Lywodraeth Cymru , mae'n bosibl y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a rowch i gynnig gwasanaethau personol neu leol chi , i roi gwybod i chi am newidiadau i'n gwasanaeth , i ofyn eich barn ac i helpu ni i wella ein gwasanaethau .

Mae wefannau y byddwn yn cysylltu â nhw yn debygol o fod gyda Thelerau ac Amodau sy'n wahanol i'n rhai ni . Peidiwch â chymryd yn ganiataol bod ein Telerau ac Amodau yn berthnasol i wefannau eraill.

Bydd y wybodaeth a ddarparwch fel rhan o'r archeb yn cael ei chadw am hyd at 7 diwrnod ar ôl i'r digwyddiad ddod i ben.

Trefnydd y digwyddiad

Busnes Cymru
Welsh Government
Sarn Mynach
Llandudno Junction
Conwy
LL31 9RZ
United Kingdom


03000 6 03000
E-bost | Gwefan