Fordwyaeth
Cost: Am ddim
Aeth Llywodraeth Cymru ati i weithio gyda phartneriaid a rhanddeiliaid i greu'r Cod Ymarfer ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi yn 2017. Ei ddiben yw diffinio camau y gall sefydliadau eu cymryd i'w diogelu rhag arferion cyflogaeth anghyfreithlon ac anfoesegol yn eu gwaith ac yn eu cadwyni cyflenwi.
Mae'r Cod yn cynnwys 12 ymrwymiad sy'n cwmpasu materion amrywiol, gan gynnwys cyflog teg, caethwasiaeth fodern, a hawliau dynol. Rydym yn diweddaru'r Cod i adlewyrchu'r hyn a ddysgwyd ers ei lansio, ac i'w gadw'n berthnasol i'r tueddiadau yr ydym yn eu gweld heddiw ac wrth edrych i'r dyfodol. Hoffem glywed eich sylwadau ar y gwaith hwn.
Pwy ddylai ymuno?
Rydym yn annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn arferion moesegol a chadwyni cyflenwi i ymuno, gan gynnwys cynrychiolwyr sefydliadau'r sector cyhoeddus, busnesau a sefydliadau'r trydydd sector. Rydym yn cynnal dau fath o sesiwn ac yn awyddus i glywed gan ystod mor amrywiol o leisiau â phosibl. Gweler isod, ac wrth gofrestru dewiswch y sesiwn orau i chi. Mae modd gwneud addasiadau rhesymol os gofynnwch, e.e. darparu dehonglwyr iaith arwyddion.
Cefndir
Anogir y rhai sydd wedi ymrwymo i'r Cod Ymarfer i weithio tuag at y deuddeg ymrwymiad, a darparu cynlluniau ac adroddiadau ar eu cynnydd. Mae'r meysydd a gwmpesir gan y Cod Ymarfer yn cynnwys atal caethwasiaeth, hunangyflogaeth ffug, hawliau dynol, y Cyflog Byw, caethwasiaeth fodern a masnachu pobl, caffael, talu prydlon, rheoli'r gadwyn gyflenwi, Undebau Llafur, hyfforddiant, a chwythu'r chwiban.
Gweler mwy: Cyflogaeth foesegol mewn cadwyni cyflenwi: cod ymarfer | LLYW.CYMRU
Ers sefydlu'r Cod, gwelwyd datblygiadau ym meysydd cyflogaeth, deddfwriaeth a thechnoleg, ac mae'r disgwyliadau ar sefydliadau a'u cadwyni cyflenwi wedi cynyddu. Mae dros 750 o sefydliadau ar draws pob sector wedi ymrwymo i'r Cod Ymarfer, ac rydym am glywed eu barn arno ac ar ein cynigion newydd.
There are no spaces left on this event but you can add yourself to the reserve list.
Hysbysiad Preifatrwydd
Llywodraeth Cymru (‘ni’) fydd y rheolydd data ar gyfer yr wybodaeth bersonol y byddwch yn ei darparu i gymryd rhan yn y digwyddiad hwn, ac fe fyddwn yn ei phrosesu i gyflawni ein tasg gyhoeddus yn unol â'r awdurdod swyddogol a roddwyd i ni i weinyddu'r digwyddiad. Byddwn yn cadw'ch data personol am 3 mis ar ôl i’r digwyddiad ddod i ben, ac yna byddwn yn eu dinistrio'n ddiogel.
Er mwyn anfon gwybodaeth atoch am y digwyddiad, byddwn yn casglu manylion personol gan gynnwys enw, cyfeiriad e-bost, teitl swydd, dewis iaith, enw ysgol/lleoliad/sefydliad, cyfeiriad ysgol/lleoliad/sefydliad, rhif ffôn ac Awdurdod Lleol. Byddwn hefyd yn casglu gwybodaeth yn ymwneud â gofynion mynediad neu ddietegol a/neu ofynion eraill i sicrhau bod unrhyw ofynion ychwanegol yn cael eu bodloni yn ystod y digwyddiad.
Er mwyn rhwydweithio yn ystod y digwyddiad, bydd eich enw yn cael ei rannu ag eraill sydd wedi cofrestru i fod yn bresennol. Os byddai'n well gennych i ni beidio â gwneud hyn, rhowch wybod i ni drwy gysylltu â Aileen.Burmeister@llyw.cymru
O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:
• i gael mynediad at y data personol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cadw amdanoch chi
• i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
• (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data
• (o dan rai amgylchiadau) i’ch data gael eu ‘dileu’
• i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (SCG), ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data
Dyma’r manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth:
Customer Contact
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Swydd Gaer SK9 5AF
Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113
Gwefan: www.ico.gov.uk
I gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau, cysylltwch â:
Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: SwyddogDiogeluData@llyw.cymru
Os oes gennych ragor o gwestiynau am sut y bydd y data a ddarperir gennych yn cael eu defnyddio gan Lywodraeth Cymru fel rhan o’r digwyddiadau hyn, neu os hoffech arfer eich hawliau gan ddefnyddio Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data, cysylltwch â Aileen.Burmeister@llyw.cymru
Gweler yma i weld sut mae Llywodraeth Cymru yn trin eich gwybodaeth . Os ydych yn archebu lle ar ddigwyddiad Busnes Cymru neu Lywodraeth Cymru , mae'n bosibl y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a rowch i gynnig gwasanaethau personol neu leol chi , i roi gwybod i chi am newidiadau i'n gwasanaeth , i ofyn eich barn ac i helpu ni i wella ein gwasanaethau .
Mae wefannau y byddwn yn cysylltu â nhw yn debygol o fod gyda Thelerau ac Amodau sy'n wahanol i'n rhai ni . Peidiwch â chymryd yn ganiataol bod ein Telerau ac Amodau yn berthnasol i wefannau eraill.
EET
Swyddfeydd Llywodraeth Cymru / Welsh Government Offices
Parc Cathays / Cathays Park
Caerdydd / Cardiff
CF10 3NQ
United Kingdom: Wales