[ Neidio i Gynnwys ]

AI Dangos a Dweud | Abertawe | Digwyddiad Rhwydweithio gyda Rhaglen AI Busnes Cymru

Trosolwg

Cost: Am ddim

Crynodeb

Ymunwch â ni am ddigwyddiad rhwydweithio AI Show and Tell anffurfiol, wyneb yn wyneb yn Tramshed Tech Palace, Abertawe.

Mae'r sesiynau rhwydweithio hyn wedi'u cynllunio ar gyfer busnesau bach a chanolig Cymru sy'n chwilfrydig am AI ac sydd am weld sut gall fod o fudd i'w busnes, gan gwrdd â busnesau lleol eraill ar yr un daith. Nid oes angen cefndir technegol, dewch â chi eich hun a'ch cwestiynau.

Hoffech chi gymryd y llwyfan?

Rydyn ni'n chwilio am siaradwyr gwadd ar gyfer hwn, a gallech chi fod yn un ohonyn nhw.

Ydych chi'n fusnes sydd eisoes yn defnyddio AI mewn ffordd ymarferol? Yn arbenigwr â rhywbeth i'w ddysgu am AI, diogelwch, llywodraethu neu ddechrau arni? Neu'n rhywun sydd wedi adeiladu rhywbeth clyfar ac eisiau ei ddangos? Byddem wrth ein bodd yn eich cael chi.

Does dim rhaid iddo fod yn yn dechnegol. Straeon go iawn, ymarferol am yr hyn rydych chi'n ei adeiladu a ble y dechreuoch chi, dyna'n union mae ein cynulleidfa eisiau ei glywed. Boed yn slot siarad llawn neu bum munud i rannu prosiect, cysylltwch â ni ac fe gawn ni sgwrs.

Diddordeb? E-bostiwch ni ar ai@businesswales.org a dywedwch wrthon ni beth y byddech chi'n ei gyfrannu.

Mae'r llwyfan ar agor

Nid yw'r digwyddiad yn ymwneud â'n siaradwyr yn unig. Bydd y llwyfan ar agor i eraill rannu'r hyn maen nhw'n gweithio arno gydag AI, felly dewch â'ch prosiectau, eich cwestiynau, a'ch syniadau.

Beth fydd cynnwys y digwyddiad?

  1. Cyflwyniad i AI a beth mae'n ei olygu i BBaChau Cymru heddiw.
  2. Cipolwg ar y Rhaglen Ymwybyddiaeth a Mabwysiadu AI sydd wedi'i hariannu'n llawn.
  3. Enghreifftiau go iawn a demos byw, AI ar waith.
  4. Rhwydweithio a chamau nesaf: cymorth AI parhaus drwy Busnes Cymru.

Ar gyfer pwy mae'r digwyddiad?

Perchnogion busnesau bach a canolig Cymru, rheolwyr, a masnachwyr unigol sy'n chwilfrydig am AI ac sydd am ei archwilio mewn lleoliad cyfeillgar, di-bwysau.

Pwysig: Mae'r digwyddiad hwn ar gyfer busnesau bach a chanolig yng Nghymru ac mae'n gyfyngedig i ddau gynrychiolydd fesul busnes.

Caiff y digwyddiad hwn ei ddarparu gan Busnes Cymru ar ran Llywodraeth Cymru.

Dyddiadau a lleoliadau

21 Hydref 2026, 12:00 - 15:00
Palace Theatre | Address: Tramshed Tech, Palace, 156 High Street, Swansea, SA1 1NE, Swansea, SA1 1NE

Cost: Am ddim

Digwyddiad rhwydweithio anffurfiol, wyneb yn wyneb ar gyfer busnesau bach a chanolig Cymru sy'n chwilfrydig am AI, wedi'i gynnal gan dîm Ymwybyddiaeth a Mabwysiadu AI Busnes Cymru ynghyd â siaradwyr gwadd arbennig o'r diwydiant.

Hoffech chi gymryd y llwyfan?

Rydyn ni'n chwilio am siaradwyr gwadd ar gyfer hwn, a gallech chi fod yn un ohonyn nhw.

Ydych chi'n fusnes sydd eisoes yn defnyddio AI mewn ffordd ymarferol? Yn arbenigwr â rhywbeth i'w ddysgu am AI, diogelwch, llywodraethu neu ddechrau arni? Neu'n rhywun sydd wedi adeiladu rhywbeth clyfar ac eisiau ei ddangos? Byddem wrth ein bodd yn eich cael chi.

Does dim rhaid iddo fod yn slic nac yn dechnegol. Straeon go iawn, ymarferol am yr hyn rydych chi'n ei adeiladu a ble y dechreuoch chi, dyna'n union mae ein cynulleidfa eisiau ei glywed. Boed yn slot siarad llawn neu bum munud i rannu prosiect, cysylltwch â ni ac fe gawn ni sgwrs.

Diddordeb? E-bostiwch ni ar ai@businesswales.org a dywedwch wrthon ni beth y byddech chi'n ei gyfrannu.

Mae'r llwyfan ar agor

Nid yw'r digwyddiad yn ymwneud â'n siaradwyr yn unig. Bydd y llwyfan ar agor i eraill rannu'r hyn maen nhw'n gweithio arno gydag AI, felly dewch â'ch prosiectau, eich cwestiynau, a'ch syniadau.

Drwy'r sesiwn, byddwn yn trafod popeth yn ymwneud ag AI, gan gynnwys cipolwg ar y Rhaglen Ymwybyddiaeth a Mabwysiadu AI sydd wedi'i hariannu'n llawn ac a ddarperir ar ran Llywodraeth Cymru. Byddwn yn rhannu enghreifftiau go iawn, offer ymarferol, a'r gefnogaeth sydd ar gael i helpu eich busnes i ddechrau ei daith AI, yn ogystal â'r cyfle i glywed gan leisiau blaenllaw a rhwydweithio â busnesau bach a chanolig eraill.

 

Gweld lleoliad

Amodau arbennig

Mae Busnes Cymru yn wasanaeth dwyieithog ac mae ein digwyddiadau a'n gweithdai ar gael yn y Gymraeg a'r Saesneg, ar ôl cofrestru, rhowch wybod i ni beth yw eich dewisiadau iaith.

Termau

Gweler yma i weld sut mae Busnes Cymru yn trin eich gwybodaeth . Os ydych yn archebu lle ar ddigwyddiad Busnes Cymru neu Lywodraeth Cymru , mae'n bosibl y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a rowch i gynnig gwasanaethau personol neu leol chi , i roi gwybod i chi am newidiadau i'n gwasanaeth , i ofyn eich barn ac i helpu ni i wella ein gwasanaethau .

Mae wefannau y byddwn yn cysylltu â nhw yn debygol o fod gyda Thelerau ac Amodau sy'n wahanol i'n rhai ni . Peidiwch â chymryd yn ganiataol bod ein Telerau ac Amodau yn berthnasol i wefannau eraill.

Bydd y wybodaeth a ddarparwch fel rhan o'r archeb yn cael ei chadw am hyd at 7 diwrnod ar ôl i'r digwyddiad ddod i ben.

Gwybodaeth Ychwanegol

Trefnydd y digwyddiad

Busnes Cymru
Sarn Mynach
Llandudno Junction
Conwy
LL31 9RZ
United Kingdom: Wales


03000 6 03000
E-bost | Gwefan