[ Neidio i Gynnwys ]

AI Dangos a Dweud - Digwyddiad Rhwydweithio gyda Rhaglen AI Busnes Cymru

Trosolwg

Cost: Am ddim

Crynodeb 

Ymunwch â ni am ddigwyddiad rhwydweithio AI Show and Tell anffurfiol, wyneb yn wyneb yn un o'r lleoliadau canlynol;

M-SParc, Ynys Môn

Mae'r sesiynau rhwydweithio hyn wedi'u cynllunio ar gyfer SMEs Cymru sy'n chwilfrydig am AI ac sydd am weld sut gall fod o fudd i'w busnes, gan gwrdd â busnesau lleol eraill ar yr un daith.

Bydd y sesiynau hyn yn trafod popeth yn ymwneud ag AI, gan gynnwys cipolwg ar y Rhaglen Ymwybyddiaeth a Mabwysiadu AI.

Beth fydd cynnwys y cwrs?

(1) Cyflwyniad i AI a beth mae'n ei olygu i BBaChau Cymru heddiw.

(2) Cipolwg ar y Rhaglen Ymwybyddiaeth a Mabwysiadu AI.

(3) Enghreifftiau go iawn a demos byw - AI ar waith..

(4) Rhwydweithio a chamau nesaf: cymorth AI parhaus drwy Busnes Cymru.

Ar gyfer pwy mae'r digwyddiad?

Perchnogion BBaChau Cymru, rheolwyr, a masnachwyr unigol sy'n chwilfrydig am AI ac sydd am ei archwilio mewn lleoliad cyfeillgar, di-bwysau.

 Nid oes angen cefndir technegol - dewch â chi eich hun a'ch cwestiynau.

Pwysig - Mae'r digwyddiad hwn ar gyfer busnesau bach a chanolig yng Nghymru ac mae'n gyfyngedig i ddau gynrychiolydd fesul busnes.

Caiff y digwyddiad hwn ei ddarparu gan Busnes Cymru ar ran Llywodraeth Cymru.

Dyddiadau

3 Medi 2026, 12:00 - 14:00
Digwyddiad ar-lein

Cost: Am ddim

Gweminar ymarferol wedi'i chynllunio ar gyfer BBaChau Cymru sydd yn barod i ddechrau rhoi AI ar waith.


Bydd y weminar hon yn cael ei chyflwyno gan siaradwyr gwadd Klaire Tanner o CreuTech / Cymru AI.


Bydd y weminar yn trafod sut i ddilysu eich syniad busnes gydag AI, offer rhad ac am ddim sydd eu hangen ar bob sylfaenydd newydd, a sut i ysgrifennu pitshis a chopi marchnata gan ddefnyddio AI.


Byddwn yn edrych ar enghreifftiau go iawn o fusnesau newydd Cymru, mabwysiadu AI yn foesegol, a chamau nesaf ar gyfer eich taith busnes.


Caiff y digwyddiad hwn ei ddarparu gan Busnes Cymru ar ran Llywodraeth Cymru.

Amodau arbennig

Mae Busnes Cymru yn wasanaeth dwyieithog ac mae ein digwyddiadau a'n gweithdai ar gael yn y Gymraeg a'r Saesneg, ar ôl cofrestru, rhowch wybod i ni beth yw eich dewisiadau iaith.

Termau

Gweler yma i weld sut mae Busnes Cymru yn trin eich gwybodaeth . Os ydych yn archebu lle ar ddigwyddiad Busnes Cymru neu Lywodraeth Cymru , mae'n bosibl y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a rowch i gynnig gwasanaethau personol neu leol chi , i roi gwybod i chi am newidiadau i'n gwasanaeth , i ofyn eich barn ac i helpu ni i wella ein gwasanaethau .

Mae wefannau y byddwn yn cysylltu â nhw yn debygol o fod gyda Thelerau ac Amodau sy'n wahanol i'n rhai ni . Peidiwch â chymryd yn ganiataol bod ein Telerau ac Amodau yn berthnasol i wefannau eraill.

Bydd y wybodaeth a ddarparwch fel rhan o'r archeb yn cael ei chadw am hyd at 7 diwrnod ar ôl i'r digwyddiad ddod i ben.

Gwybodaeth Ychwanegol

Trefnydd y digwyddiad

Busnes Cymru
Sarn Mynach
Llandudno Junction
Conwy
LL31 9RZ
United Kingdom: Wales


03000 6 03000
E-bost | Gwefan