Fordwyaeth
Cost: Am ddim
Crynodeb
Gweithdy ymarferol ar sut i ddefnyddio AI i hwyluso darnau mwyaf diflas eich diwrnod gwaith !
Cawn edrych ar ddelio ag ymholiadau a llenwi ffurflenni i gymryd nodiadau a diweddaru taenlenni, yn brosesau glanach y gellir eu hailadrodd sy'n rhoi eich amser yn ôl i chi.
Wedi'i ariannu'n llawn gan Lywodraeth Cymru drwy Fusnes Cymru.
Beth fydd cynnwys y digwyddiad?
Gweithdy ymarferol ar sut i ddefnyddio AI i hwyluso darnau mwyaf diflas eich diwrnod gwaith! Cawn edrych ar ddelio ag ymholiadau a llenwi ffurflenni i gymryd nodiadau a diweddaru taenlenni, yn brosesau glanach y gellir eu hailadrodd sy'n rhoi eich amser yn ôl i chi. Wedi'i ariannu'n llawn gan Lywodraeth Cymru drwy Fusnes Cymru.
Sut i adnabod y tasgau sy'n ail adrodd yn eich wythnos chi sy'n werth eu trosglwyddo i AI, a faint o amser sy'n realistig i'w arbed mewn gwirionedd?
Y llifoedd gwaith sydd eisoes yn cael eu defnyddio i godi'r gwaith diflas oddi ar ysgwyddau pobl, o ddrafftio ymatebion i ymholiadau anodd gan gwsmeriaid i ddod o hyd i slot yn y dyddiadur neu lunio adroddiad rheolaidd.
Cynllunio sut y byddwch chi a'r AI yn cydweithio, sy'n bwysicach na dysgu sut i ysgrifennu anogiadau yn unig: cysylltu cymwysiadau â'ch offer AI, trefnu tasgau, a chadw goruchwyliaeth effeithiol.
Cynghorion ymarferol ar gyfer gweithredu'r newidiadau, gan leihau'r drafferth a gwneud y gorau o'r amser rydych yn ei dreulio'n goruchwylio'r AI.
Wedi'i gyflwyno fel rhan o'r Rhaglen Ymwybyddiaeth a Mabwysiadu AI a ariannwyd yn llawn
Ar gyfer pwy mae'r digwyddiad?
Perchnogion , rheolwyr a gweithwyr BBaChau Cymru sy'n colli gormod o'r wythnos i waith gweinyddol ailadroddus ac sydd eisiau ffyrdd glanach a chyflymach o ymdrin ag ef .
Nid oes angen profiad blaenorol o offer AI, er bod rhywfaint o ddefnydd blaenorol yn ddefnyddiol .
Nid oes angen cefndir technegol .
Pwysig: Mae'r digwyddiad hwn ar gyfer busnesau bach a chanolig yng Nghymru ac mae'n gyfyngedig i ddau gynrychiolydd fesul busnes.
Caiff y digwyddiad hwn ei ddarparu gan Busnes Cymru ar ran Llywodraeth Cymru.
Mae Busnes Cymru yn wasanaeth dwyieithog ac mae ein digwyddiadau a'n gweithdai ar gael yn y Gymraeg a'r Saesneg, ar ôl cofrestru, rhowch wybod i ni beth yw eich dewisiadau iaith.
Gweler yma i weld sut mae Busnes Cymru yn trin eich gwybodaeth . Os ydych yn archebu lle ar ddigwyddiad Busnes Cymru neu Lywodraeth Cymru , mae'n bosibl y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a rowch i gynnig gwasanaethau personol neu leol chi , i roi gwybod i chi am newidiadau i'n gwasanaeth , i ofyn eich barn ac i helpu ni i wella ein gwasanaethau .
Mae wefannau y byddwn yn cysylltu â nhw yn debygol o fod gyda Thelerau ac Amodau sy'n wahanol i'n rhai ni . Peidiwch â chymryd yn ganiataol bod ein Telerau ac Amodau yn berthnasol i wefannau eraill.
Bydd y wybodaeth a ddarparwch fel rhan o'r archeb yn cael ei chadw am hyd at 7 diwrnod ar ôl i'r digwyddiad ddod i ben.
Busnes Cymru
Sarn Mynach
Llandudno Junction
Conwy
LL31 9RZ
United Kingdom: Wales