[ Neidio i Gynnwys ]

AI Ymarferol: Ffyrdd Syml o Gefnogi eich Busnes Twristiaeth

Trosolwg

Cost: Am ddim

Gweithdy ymarferol am ddim, a gyflwynir gan MWT Cymru ar ran Llywodraeth Cymru, ar gyfer busnesau twristiaeth a lletygarwch yng Nghymru.

Yn dilyn y galw aruthrol a'r adborth rhagorol a gafwyd yn y rownd gyntaf, rydyn ni wedi trefnu rhagor o weithdai i helpu hyd yn oed mwy o fusnesau i fanteisio ar bŵer AI. Dysgwch sut y gall AI eich helpu i farchnata'n well, eich gwneud yn fwy amlwg ar-lein, ac arbed eich amser prin ar dasgau pob dydd. 

Dywedodd y busnesau a fuodd yn y gweithdy o'r blaen iddyn nhw weld cynnydd o 63% ar gyfartaledd yn y traffig organig â'u gwefan, gan ddangos effaith y sesiynau ymarferol hyn yn y byd go iawn.

Os ydych wedi clywed pobl yn siarad am “AI” ac yn eddwl tybed a yw’n werth eich amser – mae’r gweithdy hwn ar eich cyfer chi.

Byddwn yn dangos ffyrdd ymarferol syml i chi ddefnyddio offer AI i greu cynnwys, cysylltu â chwsmeriaid, cryfhau eich presenoldeb ar-lein a helpu i droi ymholiadau'n archebion.

Byddwch yn dysgu sut i:

  • Creu postiadau cyfryngau cymdeithasol sy'n rhoi sylw, ymgysylltiad ac archebion heb dreulio oriau ar gynnwys.
  • Optimeiddio eich rhestrau Croeso Cymru a Google fel eu bod yn glir, yn gymhellol ac yn hawdd i gwsmeriaid ac offer chwilio AI ddod o hyd iddynt a'ch dewis chi!
  • Ymateb yn gyflym i gwestiynau cwsmeriaid gyda negeseuon cyfeillgar, proffesiynol sy'n adeiladu ymddiriedaeth ac yn rhyddhau eich amser.
  • Arbed oriau ar gynnwys, diweddariadau ac e-byst, gan roi mwy o le i chi ganolbwyntio ar redeg eich busnes yn hytrach na gweinyddu.

Pwy all fynd

Mae'r gweithdai hyn wedi'u cynllunio ar gyfer busnesau twristiaeth a lletygarwch BBaCh a micro, p'un a ydych yn hollol newydd i AI neu eisoes yn arbrofi ac eisiau mwy o strwythur, hyder a chamau nesaf ymarferol.

I ganiatáu i gymaint o fusnesau ag sy’n bosibl fynychu, mae nifer y lleoedd wedi’i chyfyngu i uchafswm o ddau ym mhob busnes/sefydliad ar draws y gyfres.  Rhaid llenwi ffurflen archebu ar wahân ar gyfer pob person.

Beth i'w ddisgwyl:    

  • Nid yw hyn yn ymwneud â thechnoleg gymhleth na geiriau poblogaidd. Mae'n ymwneud â dulliau syml, cost isel y gallwch ddechrau eu defnyddio ar unwaith, gydag arweiniad cam wrth gam, demos byw, a gweithgareddau ymarferol drwyddi draw.
  • Byddwn hefyd yn trafod sut y gall newidiadau bach fel diweddaru eich rhestrau neu addasu geiriad eich gwefan, wneud gwahaniaeth mawr wrth helpu ymwelwyr i ddod o hyd i'ch busnes ac ymddiried ynddo ar-lein.
  • Byddwch yn gadael gyda chamau clir y gallwch eu cymryd yr un diwrnod, boed hynny'n gynllunio eich ychydig bostiadau nesaf neu wneud yn siŵr bod eich busnes yn ymddangos yn y lleoedd iawn.

Eisiau help ychwanegol?

Arhoswch o gwmpas ar gyfer y sesiwn prynhawn dewisol – ein Labordy Gweithredu – lle byddwn yn gweithio gyda chi un-i-un neu mewn grwpiau bach i droi'r hyn rydych chi wedi'i ddysgu yn weithredu ymarferol ar unwaith.

Manylion y Gweithdai AI

  • 9:30 yb i ddechrau am 10:00 yb
  • 1:00 yp – 1:45 yp: Darperir cinio ysgafn
  • 2:00 yp: "Y Labordy Gweithredu" (Sesiwn prynhawn dewisol)
  • 3:30 yp tan cau

Mae'r sesiynau hyn yn cael eu cyflwyno gan gyflwynydd Saesneg ac fe'u cefnogir gan sleidiau a thaflenni cwbl ddwyieithog.  Os byddai'n well gennych fynychu sesiwn lle gallwch gymryd rhan a chyfrannu yn Gymraeg, cofrestrwch eich diddordeb yma.

Mae'r cynlluniau hyn yn cael eu hariannu'n llawn gan Lywodraeth Cymru.  Cyflwynir gweithdai gan MWT Cymru, sefydliad nid-er-elw sydd wedi bod yn helpu busnesau twristiaeth yng Nghymru ers dros 30 mlynedd. Mae MWT Cymru yn arbenigo mewn ffyrdd syml, effeithiol o roi hwb i'ch gwelededd a gwneud marchnata digidol yn llai o straen.

Gwybodaeth archebu

Er bod y sesiynau hyn yn rhad ac am ddim, mae lleoedd yn gyfyngedig ac mae galw mawr amdanynt. Archebwch dim ond os ydych chi wedi ymrwymo i fynd.

Pwysig: rhaid i chi glicio'r botwm 'Book' ar y ffurflen gofrestru i archebu lle. Yna cewch e-bost cadarnhau awtomatig gyda rhif cyfeirnod. Os na fyddwch wedi cael e-bost, ni fydd lle wedi'i gadw i chi.

Os nad yw unrhyw un o'r gweithdai sydd wedi'i drefnu yn gyfleus i chi, nodwch y lleoliad y byddai'n well gennych ar gyfer sesiynau posibl yn y dyfodol yma.

Dyddiadau a lleoliadau

Yn dangos 1 - 10 o 11 Gweld pob

28 Gorffennaf 2026, 09:30 - 15:30
The Barn @ Brynich, Brecon, LD3 7SH

Cost: Am ddim

Gweld lleoliad

There are no spaces left on this event but you can add yourself to the reserve list.

29 Gorffennaf 2026, 09:30 - 15:30
Swyddfa Llywodraeth Cymru, Swansea, SA4 9NX

Cost: Am ddim

Gweld lleoliad

11 Awst 2026, 09:30 - 15:30
Prifysgol Wrecsam, Wrexham, LL11 2AW

Cost: Am ddim

Gweld lleoliad

Dim ond 2 lleoedd ar ôl ar y digwyddiad hwn.

Archebwch nawr i osgoi cael eich siomi

12 Awst 2026, 09:30 - 15:30
Swyddfa Llywodraeth Cymru, Llandudno Junction, LL31 9RZ

Cost: Am ddim

Gweld lleoliad

There are no spaces left on this event but you can add yourself to the reserve list.

8 Medi 2026, 09:30 - 15:30
Lamphey Court Hotel & Spa, Near Tenby, SA71 5NT

Cost: Am ddim

Gweld lleoliad

9 Medi 2026, 09:30 - 15:30
Swyddfa Llywodraeth Cymru, Carmarthen, SA31 3BT

Cost: Am ddim

Gweld lleoliad

10 Medi 2026, 09:30 - 15:30
Moody Meadows (Bargoed Farm), Aberaeron, SA46 0HL

Cost: Am ddim

Gweld lleoliad

7 Hydref 2026, 09:30 - 15:30
Y Cwt, Longacre Farm, Pendoylan, CF71 7UG

Cost: Am ddim

Gweld lleoliad

8 Hydref 2026, 09:30 - 15:30
Mercure, Casnewydd, Newport, NP20 1DW

Cost: Am ddim

Gweld lleoliad

13 Hydref 2026, 09:30 - 15:30
Ty Newydd Country Hotel, Nr Aberdare, CF44 9SX

Cost: Am ddim

Gweld lleoliad

Amodau arbennig

Pwysig: bydd y gweithdai AI hyn yn cael eu cyflwyno yn Saesneg, gyda sleidiau dwyieithog.

I ganiatáu i gymaint o fusnesau ag sy’n bosibl fynychu, mae nifer y lleoedd wedi’i chyfyngu i uchafswm o ddau ym mhob busnes/sefydliad ar draws y gyfres. Rhaid llenwi ffurflen archebu ar wahân ar gyfer pob person.

Er bod y sesiynau hyn yn rhad ac am ddim, mae lleoedd yn gyfyngedig ac mae galw mawr amdanynt. Archebwch dim ond os ydych chi wedi ymrwymo i fynd.

Darllenwch yr hysbysiad preifatrwydd Llywodraeth Cymru sydd yn dweud wrthych beth i'w ddisgwyl pan fyddant yn ein rhoi eich gwybodaeth bersonol.

Termau

Gweler yma i weld sut mae Busnes Cymru yn trin eich gwybodaeth . Os ydych yn archebu lle ar ddigwyddiad Busnes Cymru neu Lywodraeth Cymru , mae'n bosibl y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a rowch i gynnig gwasanaethau personol neu leol chi , i roi gwybod i chi am newidiadau i'n gwasanaeth , i ofyn eich barn ac i helpu ni i wella ein gwasanaethau .

Mae wefannau y byddwn yn cysylltu â nhw yn debygol o fod gyda Thelerau ac Amodau sy'n wahanol i'n rhai ni . Peidiwch â chymryd yn ganiataol bod ein Telerau ac Amodau yn berthnasol i wefannau eraill.

Bydd y wybodaeth a ddarparwch fel rhan o'r archeb yn cael ei chadw am hyd at 0 diwrnod ar ôl i'r digwyddiad ddod i ben.

Trefnydd y digwyddiad

Croeso Cymru
Welsh Government/Llywodraeth Cymru
Sarn Mynach
Llandudno Junction/Cyffordd Llandudno
Conwy
L31 9RZ
United Kingdom


0300 062 2418
E-bost | Gwefan