[ Neidio i Gynnwys ]

Ail-lunio Cymorth Llywodraeth Cymru ar gyfer Cyflogadwyedd

Trosolwg

Cost: Am ddim

Mae Llywodraeth Cymru yn cychwyn ar daith uchelgeisiol i drawsnewid cymorth cyflogadwyedd ledled Cymru, ac rydym ni am i chi fod yn rhan ohono.

Rydym ni'n cynnal pedwar digwyddiad ymgysylltu rhanbarthol a fydd yn helpu i lunio Rhaglen Cymorth Cyflogadwyedd integredig newydd gan Lywodraeth Cymru sy'n gweithio i bawb yma yng Nghymru.

Pam mae'r digwyddiadau hyn yn bwysig

Rydym ni'n dod â rhanddeiliaid allweddol at ei gilydd i lunio rhaglen sy'n adeiladu ar lwyddiant mentrau cyfredol fel ReAct+, Cymunedau am Waith a Mwy, a Twf Swyddi Cymru+.

Beth i’w ddisgwyl

Yn ystod y sesiynau rhyngweithiol hyn, byddwch yn:

  • Rhannu eich arbenigedd a'ch profiadau bywyd o gyflwyno, cyrchu, neu oruchwylio rhaglenni cyflogadwyedd
  • Cyfrannu at drafodaethau ar bynciau hanfodol gan gynnwys llwybrau cyfeirio, dulliau cymorth, a mesur llwyddiant
  • Helpu i gynnig atebion arloesol ar gyfer dyfodol cymorth cyflogaeth Llywodraeth Cymru yng Nghymru
  • Rhwydweithio gyda rhanddeiliaid amrywiol o bob rhan o'r sector cyflogadwyedd

Pwy ddylai gymryd rhan?

Hoffem ddenu rhanddeiliaid sydd:

  • Yn meddu ar brofiad o ddarparu rhaglenni cyflogadwyedd - Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, awdurdod lleol er enghraifft.
  • Yn gweithio ym maes darpariaeth cyflogadwyedd ledled Cymru
  • Yn gweithio gyda grwpiau ar y cyrion sy'n chwilio am waith
  • Yn meddu ar ddealltwriaeth o anghenion cyflogaeth rhanbarthol

Manteision cymryd rhan

Drwy gymryd rhan, byddwch chi’n:

  • Dylanwadu'n uniongyrchol ar ddatblygiad Rhaglen Cymorth Cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru
  • Sicrhau bod y rhaglen newydd yn cynrychioli safbwynt eich sefydliad chi
  • Helpu i lunio rhaglen fwy effeithiol a chynhwysol
  • Cyfrannu at gyflawni gweledigaeth Cymru o economi gryfach, tecach a gwyrddach

Gwybodaeth ychwanegol

  • Rhaid cofrestru i gymryd rhan mewn digwyddiad
  • I gofrestru, rhaid cwblhau pob un o'r 4 cam yn y system archebu. Ar ôl i chi gwblhau'r camau hyn, dylech dderbyn cadarnhad awtomatig o'ch archeb. Os cewch unrhyw broblemau gydag archebu, cysylltwch ag CymorthCyflogadwyedd@llyw.cymru.
  • Bydd Llywodraeth Cymru yn adolygu pwy sy’n cymryd rhan yn y digwyddiad. Hoffem ystod eang o safbwyntiau, felly byddwn yn rheoli nifer y lleoedd fesul sefydliad a/neu sector ym mhob digwyddiad yn unol â hynny.
  • Rydym yn cadw'r hawl i wrthod cofrestru rhywun. Os gwrthodir eich cofrestriad, cewch wybod trwy e-bost.
  • Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y digwyddiad, e-bostiwch CymorthCyflogadwyedd@llyw.cymru
      

Dyddiadau a lleoliadau

29 Ebrill 2025, 10:00 - 14:00
Mercure Cardiff Holland House Hotel & Spa, Cardiff, CF24 0DD

Cost: Am ddim

Nod y digwyddiad hwn yw ceisio barn a safbwyntiau rhanddeiliaid ar faterion allweddol er mwyn helpu i lunio Rhaglen Cymorth Cyflogadwyedd newydd Llywodraeth Cymru.

Gweld lleoliad

8 Mai 2025, 10:00 - 14:00
The Kinmel Hotel & Kinspa, Conwy, LL22 9AS

Cost: Am ddim

Nod y digwyddiad hwn yw ceisio barn a safbwyntiau rhanddeiliaid ar faterion allweddol er mwyn helpu i lunio Rhaglen Cymorth Cyflogadwyedd newydd Llywodraeth Cymru.

Gweld lleoliad

22 Mai 2025, 10:00 - 14:00
The Metropole Hotel & Spa, Powys, LD1 5DY

Cost: Am ddim

Nod y digwyddiad hwn yw ceisio barn a safbwyntiau rhanddeiliaid ar faterion allweddol er mwyn helpu i lunio Rhaglen Cymorth Cyflogadwyedd newydd Llywodraeth Cymru.

Gweld lleoliad

4 Mehefin 2025, 10:00 - 14:00
Parc y Scarlets, Llanelli, SA14 9UZ

Cost: Am ddim

Nod y digwyddiad hwn yw ceisio barn a safbwyntiau rhanddeiliaid ar faterion allweddol er mwyn helpu i lunio Rhaglen Cymorth Cyflogadwyedd newydd Llywodraeth Cymru.

Gweld lleoliad

Amodau arbennig

Yn unol â Rheoliadau Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU), mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn nodi sut bydd Llywodraeth Cymru yn casglu a phrosesu eich data personol mewn modd teg a chyfreithlon.

Drwy gofrestru ar gyfer y digwyddiad, rydych chi'n cytuno y gellir defnyddio'r data personol a gyflwynwch fel rhan o'ch cofrestriad er mwyn:

  • Cysylltu â chi ynglŷn â'r digwyddiad rydych chi wedi cofrestru ar ei gyfer
  • Anfon dogfennau adnoddau atoch
  • Anfon holiadur ar gyfer y digwyddiad
  • Anfon gwybodaeth ddilynol am gyfrannu at y Rhaglen Cymorth Cyflogadwyedd

Os nad ydych chi am inni gysylltu â chi yn y dyfodol, rhowch wybod trwy e-bostio CymorthCyflogadwyedd@llyw.cymru  

Sail gyfreithlon ar gyfer prosesu

Is-adran Cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru ('ni') fydd y rheolydd data ar gyfer y data personol a roddwch i gymryd rhan yn y digwyddiad hwn. Byddwn ni'n prosesu'r wybodaeth fel rhan o'n tasg gyhoeddus a'r awdurdod swyddogol a freiniwyd ynom i gyflawni rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru.

Pa ddata personol fyddwn ni'n ei gasglu a'i brosesu

Diffinnir data personol o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR y DU) fel unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â pherson adnabyddadwy y gellir ei adnabod yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol drwy gyfeirio at ddynodwr.

I anfon gwybodaeth atoch am y digwyddiad, byddwn yn casglu data personol gan gynnwys:

  • Enw
  • Cyfeiriad e-bost
  • Rhif ffôn
  • Enw'r sefydliad
  • Cyfeiriad y sefydliad 
  • Swydd 
  • Awdurdod lleol
  • Dewis iaith 

Efallai y byddwn ni'n casglu 'data categori arbennig' hefyd i sicrhau ein bod yn darparu ar gyfer unrhyw ofynion ychwanegol yn ystod y digwyddiad:

  • Gofynion hygyrchedd
  • Gofynion deietegol

Mae'r wybodaeth hon yn ddewisol, yn cael ei phrosesu trwy ganiatâd a bydd yn cael ei dileu ar ôl y digwyddiad.

Er mwyn rhwydweithio yn ystod y digwyddiad, bydd eich enw, enw'ch sefydliad a'ch swydd yn cael eu rhannu â mynychwyr cofrestredig eraill. Os nad ydych chi am inni wneud hyn, rhowch wybod drwy e-bostio CymorthCyflogadwyedd@llyw.cymru

Yn ystod y digwyddiad, byddwn yn casglu adborth a'ch barn am y pynciau a drafodir. Ni fydd unrhyw wybodaeth bersonol yn cael ei chofnodi ar gyfer unrhyw farn neu adborth llafar a roddwch. Byddwn yn defnyddio'r platfform rhyngweithiol Slido ( www.slido.com ) i gasglu adborth a barn yn ddigidol. Does dim angen i chi ddarparu gwybodaeth bersonol i ddefnyddio Slido, ond os byddwch chi'n dewis darparu gwybodaeth bersonol i ymuno â'n sesiwn digwyddiad Slido, bydd yn cael ei phrosesu fel rhan o'n polisi preifatrwydd a thelerau polisi preifatrwydd Slido sydd ar gael trwy https://slido.com/terms#gdpr     

Efallai y byddwn ni’n tynnu lluniau yn y digwyddiad ac yn eu defnyddio er mwyn:

  • Cofnodi'r digwyddiad
  • Hyrwyddo'r digwyddiad ar gyfryngau cymdeithasol ac mewn cylchlythyrau.

Os nad ydych am inni dynnu'ch llun a/neu ei gyhoeddi, nodwch hynny drwy e-bostio CymorthCyflogadwyedd@llyw.cymru.  Gallwch hefyd ein hysbysu ar y diwrnod wrth gofrestru os nad ydych am inni dynnu'ch llun.

Pwy fydd yn cael gweld a defnyddio'ch data

Bydd y wybodaeth a gesglir ar gael i Lywodraeth Cymru a thimau cymorth dan gontract a'i gweinyddwyr technegol systemau sy'n cefnogi'r system TG. Ni fydd gweinyddwyr technegol systemau yn defnyddio'ch manylion mewn unrhyw ffordd.

Am ba hyd rydyn ni'n cadw'ch manylion

Bydd eich data personol yn cael ei gadw ar systemau TG diogel Llywodraeth Cymru am hyd at 7 mlynedd yn unol â pholisi cadw Llywodraeth Cymru, ac yn cael ei ddinistrio'n ddiogel wedi hynny. Efallai y byddwn ni'n dileu'r wybodaeth yn gynt os nad yw'n cael ei defnyddio mwyach.

Eich hawliau unigol

O dan ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych chi'r hawliau canlynol:

  • Cael gwybod am y data personol sydd gan Lywodraeth Cymru amdanoch chi a’i weld
  • Gofyn inni gywiro unrhyw ddata anghywir
  • Gwrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu (o dan rai amgylchiadau)
  • Gofyn am ddileu eich data (o dan rai amgylchiadau)
  • Cludadwyedd data (o dan rai amgylchiadau)
  • Cyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am yr hysbysiad preifatrwydd hwn, e-bostiwch CymorthCyflogadwyedd@llyw.cymru.

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw a'r defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau GDPR y DU, cysylltwch â:

Manylion cyswllt y Swyddfa Comisiynydd Gwybodaeth:

  • Customer Contact, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF, Ffôn: 0303 123 1113, Gwefan: www.ico.org.uk

 

Termau

Gweler yma i weld sut mae Llywodraeth Cymru yn trin eich gwybodaeth . Os ydych yn archebu lle ar ddigwyddiad Busnes Cymru neu Lywodraeth Cymru , mae'n bosibl y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a rowch i gynnig gwasanaethau personol neu leol chi , i roi gwybod i chi am newidiadau i'n gwasanaeth , i ofyn eich barn ac i helpu ni i wella ein gwasanaethau .

Mae wefannau y byddwn yn cysylltu â nhw yn debygol o fod gyda Thelerau ac Amodau sy'n wahanol i'n rhai ni . Peidiwch â chymryd yn ganiataol bod ein Telerau ac Amodau yn berthnasol i wefannau eraill.

Trefnydd y digwyddiad

EET
Swyddfeydd Llywodraeth Cymru / Welsh Government Offices
Parc Cathays / Cathays Park
Caerdydd / Cardiff
CF10 3NQ
United Kingdom: Wales


03000 6 03000
E-bost | Gwefan