Fordwyaeth
Cost: Am ddim
Mae'r sesiwn hon wedi'i chynllunio i fusnesau a marchnatwyr sydd am ddatgloi potensial llawn Facebook ac Instagram.
Yn y weminar ymarferol hon, byddwn yn archwilio sut i adeiladu cymunedau â diddordeb yn eich brand, sy'n troi dilynwyr yn hyrwyddwyr ffyddlon. Dysgwch sut i greu twf organig drwy strategaethau cynnwys effeithiol sy'n ysgogi ymgysylltiad gwirioneddol.
Darganfyddwch rym hysbysebion taledig, gan gynnwys ymgyrchoedd i gynhyrchu ymholiadau dilynol sy'n denu defnyddwyr gwerthfawr posibl yn uniongyrchol o ffrydiau cymdeithasol. Byddwn hefyd yn archwilio'r arferion gorau wrth gydweithio ar bostiadau er mwyn cynyddu eich cyrhaeddiad, ynghyd a thactegau cystadlu effeithiol fydd yn dal sylw ac yn tyfu eich cynulleidfa.
Erbyn y diwedd, bydd gennych strategaethau y gellir eu gweithredu i gynyddu eich presenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol, ehangu eich cyrhaeddiad, a throi Facebook ac Instagram yn sianeli twf hanfodol.
Beth fydd cynnwys y digwyddiad?
Ar gyfer pwy mae'r gweithdy?
Mae'r gweithdy hwn yn ddelfrydol i berchnogion busnes, marchnatwyr a rheolwyr y cyfryngau cymdeithasol sydd eisiau gwella eu strategaethau Facebook ac Instagram. Mae'n berffaith i rai sy'n ceisio adeiladu cymunedau cryf, i dyfu eu brand yn organig, ac i fanteisio ar hysbysebion taledig, cydweithrediadau a chystadlaethau er mwyn ysgogi ymgysylltiad a denu dilynwyr newydd yn effeithiol.
Gweler yma i weld sut mae Busnes Cymru yn trin eich gwybodaeth . Os ydych yn archebu lle ar ddigwyddiad Busnes Cymru neu Lywodraeth Cymru , mae'n bosibl y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a rowch i gynnig gwasanaethau personol neu leol chi , i roi gwybod i chi am newidiadau i'n gwasanaeth , i ofyn eich barn ac i helpu ni i wella ein gwasanaethau .
Mae wefannau y byddwn yn cysylltu â nhw yn debygol o fod gyda Thelerau ac Amodau sy'n wahanol i'n rhai ni . Peidiwch â chymryd yn ganiataol bod ein Telerau ac Amodau yn berthnasol i wefannau eraill.
Busnes Cymru
Sarn Mynach
Llandudno Junction
Conwy
LL31 9RZ
United Kingdom: Wales