[ Neidio i Gynnwys ]

Archwiliad Dwfn Digidol - Defnyddio Shopify ar gyfer E-fasnach

Bydd y sesiwn hwn yn cael ei gyflwyno yn Saesneg

Trosolwg

Cost: Am ddim

Yn y weminar gynhwysfawr hon, byddwn yn cynnal archwiliad manwl o'r hanfodion er mwyn adeiladu ac optimeiddio siop e-fasnach lwyddiannus drwy Shopify. 

Bydd y sesiwn hon yn eich arwain drwy'r broses o greu profiad siopa ar-lein ddidrafferth sy'n ysgogi trosiadau a bodlonrwydd cwsmeriaid. 

Cewch ddysgu sut i sefydlu eich siop, dylunio blaen siop deniadol, a dewis yr offer a'r ategion cywir i'w wneud yn rhwydd i'w ddefnyddio. 

Byddwn yn ymdrin â strategaethau ar gyfer optimeiddio tudalennau cynnyrch, gweithredu arferion SEO effeithiol, a rheoli rhestrau stoc yn effeithlon. 

Cewch ddarganfod sut i fanteisio ar ddadansoddeg bwerus Shopify i olrhain perfformiad, deall ymddygiad cwsmeriaid, a gwneud penderfyniadau wedi'u hysgogi gan ddata. 

Yn ogystal â hyn, byddwn yn archwilio elfennau i'w cynnwys wrth farchnata a fydd yn ei gwneud hi'n hawdd cyrraedd eich cynulleidfa drwy ymgyrchoedd e-bost, y cyfryngau cymdeithasol a hysbysebu taledig.

Erbyn y diwedd, bydd gennych becyn  o strategaethau i wneud y mwyaf o botensial Shopify, fydd yn troi'r platfform yn gaffaeliad pwerus i'ch busnes e-fasnach

Beth fydd cynnwys y digwyddiad?

  •        Sefydlu ac addasu eich siop Shopify
  •        Dylunio blaen siop deniadol a hawdd ei ddefnyddio
  •        Dewis offer ac ategion i wneud y siop yn fwy ymarferol
  •        Optimeiddio tudalennau cynnyrch ar gyfer trosiadau ac SEO
  •        Rheoli'r rhestr stoc i symleiddio gweithrediadau
  •        Defnyddio dadansoddeg Shopify i olrhain perfformiad ac ymddygiad cwsmeriaid
  •        Gweithredu elfennau marchnata integredig fel e-bost, y cyfryngau cymdeithasol, a hysbysebion taledig
  •        Strategaethau i gynyddu trosiadau a bodlonrwydd cwsmeriaid hyd yr eithaf

Ar gyfer pwy mae’r gweithdy?

Dyma weminar perffaith i berchnogion busnesau sy'n seiliedig ar gynnyrch, entrepreneuriaid, a rheolwyr gwerthiant sydd eisiau troi eu llwyfan werthu'n ddigidol, ac ehangu eu cyrhaeddiad e-fasnach drwy ddefnyddio Shopify. Mae'n ddelfrydol i'r rhai sy'n ceisio creu siop ar-lein sy'n gweithredu ar ei gorau, i symleiddio gwerthiant cynnyrch, ac i harneisio offer digidol i roi hwb i drosiannau ac ysgogi twf busnes.

Dyddiadau

5 Chwefror 2025, 10:00 - 11:15
Digwyddiad ar-lein

Cost: Am ddim

Termau

Gweler yma i weld sut mae Busnes Cymru yn trin eich gwybodaeth . Os ydych yn archebu lle ar ddigwyddiad Busnes Cymru neu Lywodraeth Cymru , mae'n bosibl y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a rowch i gynnig gwasanaethau personol neu leol chi , i roi gwybod i chi am newidiadau i'n gwasanaeth , i ofyn eich barn ac i helpu ni i wella ein gwasanaethau .

Mae wefannau y byddwn yn cysylltu â nhw yn debygol o fod gyda Thelerau ac Amodau sy'n wahanol i'n rhai ni . Peidiwch â chymryd yn ganiataol bod ein Telerau ac Amodau yn berthnasol i wefannau eraill.

Gwybodaeth Ychwanegol

Trefnydd y digwyddiad

Busnes Cymru
Sarn Mynach
Llandudno Junction
Conwy
LL31 9RZ
United Kingdom: Wales


01656 868 500
E-bost | Gwefan