[ Neidio i Gynnwys ]

Archwiliad Dwfn Digidol - Doeth ynghylch chwilio gydag SEO

Bydd y sesiwn hwn yn cael ei gyflwyno yn Saesneg

Trosolwg

Cost: Am ddim

Yn barod i dyfu eich busnes drwy ysgogi mwy o draffig organig? Ymunwch â ni yn y weminar manwl ar feistroli strategaethau SEO i roi hwb i'ch amlygrwydd yng nghanlyniadau peiriannau chwilio a denu cysylltiadau dilynol o ansawdd uchel. Bydd y sesiwn hon sydd wedi'i chynllunio ar gyfer perchnogion busnes, marchnatwyr ac entrepreneuriaid, yn eich tywys drwy hanfodion Optimeiddio Peiriannau Chwilio (SEO) i sicrhau bod eich gwefan yn ymddangos ar safle uwch, yn cyrraedd y gynulleidfa gywir, ac yn hybu twf hirdymor. Byddwn yn ymdrin â thactegau ymchwil allweddair, optimeiddio ar y dudalen ac oddi ar y dudalen, ac arferion gorau ar gyfer creu cynnwys y mae peiriannau chwilio a chwsmeriaid yn ei ffafrio. Darganfyddwch sut i fanteisio ar ddadansoddeg i fesur perfformiad, mireinio strategaethau ac ymaddasu i newidiadau algorithm. Os ydych chi'n newydd i SEO neu eisiau ychwanegu at yr wybodaeth sydd gennych eisoes, byddwch yn cael mewnwelediadau y gallwch weithredu yn eu sgil i droi SEO yn erfyn pwerus sy'n ysgogi twf i'ch busnes.

Beth fydd cynnwys y digwyddiad?

  • Hanfodion SEO a sut mae'n helpu i dyfu eich busnes
  • Sut i ganfod yr allweddeiriau cywir i gyrraedd eich cynulleidfa
  • Awgrymiadau ar gyfer optimeiddio'ch gwefan i gyrraedd safle uwch mewn canlyniadau chwilio
  • Defnyddio tactegau SEO oddi ar y dudalen i gynyddu eich hygrededd
  • Creu cynnwys y mae peiriannau chwilio a chwsmeriaid yn ei ffafrio
  • Defnyddio dadansoddeg i olrhain a gwella canlyniadau SEO
  • Addasu i newidiadau yn algorithmau peiriannau chwilio
  • Ffyrdd hawdd o wneud SEO yn rhan barhaol o'ch strategaeth twf

Ar gyfer pwy mae'r gweithdy?

Mae'r gweithdy hwn yn ddelfrydol ar gyfer perchnogion busnes, marchnatwyr, ac entrepreneuriaid sy'n awyddus i roi hwb i'w presenoldeb ar-lein drwy SEO. Mae'r sesiwn yn berffaith i rai sy'n newydd i SEO neu sydd am fireinio'u sgiliau. Bydd yn rhoi strategaethau ymarferol ichi gynyddu amlygrwydd eich gwefan, denu'r gynulleidfa gywir ac ysgogi twf busnes.

Dyddiadau

20 Chwefror 2025, 13:30 - 14:45
Digwyddiad ar-lein

Cost: Am ddim

Termau

Gweler yma i weld sut mae Busnes Cymru yn trin eich gwybodaeth . Os ydych yn archebu lle ar ddigwyddiad Busnes Cymru neu Lywodraeth Cymru , mae'n bosibl y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a rowch i gynnig gwasanaethau personol neu leol chi , i roi gwybod i chi am newidiadau i'n gwasanaeth , i ofyn eich barn ac i helpu ni i wella ein gwasanaethau .

Mae wefannau y byddwn yn cysylltu â nhw yn debygol o fod gyda Thelerau ac Amodau sy'n wahanol i'n rhai ni . Peidiwch â chymryd yn ganiataol bod ein Telerau ac Amodau yn berthnasol i wefannau eraill.

Gwybodaeth Ychwanegol

Trefnydd y digwyddiad

Busnes Cymru
Sarn Mynach
Llandudno Junction
Conwy
LL31 9RZ
United Kingdom: Wales


01656 868 500
E-bost | Gwefan