[ Neidio i Gynnwys ]

Bwrdd Iechyd Addysgu Powys a Cyngor Sir Powys Digwyddiadau Cwrdd â'r Prynwr

Bydd y sesiwn hwn yn cael ei gyflwyno yn Saesneg

Trosolwg

Cost: Am ddim

Ar ôl cynnal digwyddiadau llwyddiannus dros y blynyddoedd blaenorol, mae Adran Ystadau ac Eiddo ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys a Chyngor Sir Powys yn cynnal gweithdy galw heibio anffurfiol ar y cyd ar gyfer contractwyr ac ymgynghorwyr, un yng Ngogledd y Sir ac un yn y De.

 Mae digwyddiadau Cwrdd â'r Prynwr yn gyfle i gyflenwyr gyflwyno eu hunain i brynwyr sector cyhoeddus a dysgu am brosiectau, contractau, fframweithiau a chyfleoedd cadwyn gyflenwi newydd. I brynwyr, mae'r digwyddiadau hyn yn eu galluogi i gynyddu eu cronfa o gyflenwyr posibl ac ehangu eu cadwyni cyflenwi. Beth bynnag yw maint y busnes, mae'r digwyddiadau hyn yn ddefnyddiol i'w mynychu wrth ystyried bidio am gyfleoedd contractio yn y dyfodol, gan eu bod wedi'u cynllunio'n benodol i helpu cyflenwyr gyda'r broses dendro. Fel prynwyr, gallwn helpu cyflenwyr a darparwyr i ddeall yr hyn yr ydym yn chwilio amdano a gallwn roi cipolwg ar gynigion a sut y byddant yn cael eu gwerthuso o safbwynt caffael.

Bydd y timau canlynol ar gael ar y diwrnod, ymunwch â ni i 'gwrdd â'r timau', cael coffi a rhwydweithio:

  • Ystadau & Cyfalaf BIAP
  • Rheolwyr Prosiectau
  • Caffael GIG Cymru
  • Eiddo BIAP
  • Yr Amglylchedd BIAP
  • Priffyrdd & Thrafnidiaeth CSP
  • Dyluniad peirianneg CSP
  • Gwasanaethau Masnachol
  • Dyluniad Adeiladau
  • Tai CSP

De Powys

Pryd: Dydd Mercher 16eg Hydref 2024 10:00-15:00.

Ble: The Barn at Brynich Brynich ABERHONDDU, Powys, LD3 7SH

Gogledd Powys

Pryd: Dydd Mercher 23ain Hydref 2024 10:00-15:00.

Ble: Theatr Hafren, Campws y Drenewydd, Ffordd Llanidloes, Y DRENEWYDD SY16 4HU

Am holl ymholiadau: Admin.Estates.Powys@wales.nhs.uk /  01874 712679

commercialservices@powys.gov.uk /  01597 827686

Dyddiadau a lleoliadau

16 Hydref 2024, 10:00 - 15:00
The Barn at Brynich, BRECON,, LD3 7SH

Cost: Am ddim

Gweld lleoliad

23 Hydref 2024, 10:00 - 15:00
Theatr Hafren,, Newtown, SY16 4HU

Cost: Am ddim

Gweld lleoliad

Termau

Gweler yma i weld sut mae Busnes Cymru yn trin eich gwybodaeth . Os ydych yn archebu lle ar ddigwyddiad Busnes Cymru neu Lywodraeth Cymru , mae'n bosibl y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a rowch i gynnig gwasanaethau personol neu leol chi , i roi gwybod i chi am newidiadau i'n gwasanaeth , i ofyn eich barn ac i helpu ni i wella ein gwasanaethau .

Mae wefannau y byddwn yn cysylltu â nhw yn debygol o fod gyda Thelerau ac Amodau sy'n wahanol i'n rhai ni . Peidiwch â chymryd yn ganiataol bod ein Telerau ac Amodau yn berthnasol i wefannau eraill.

Trefnydd y digwyddiad

Busnes Cymru
Welsh Government
Sarn Mynach
Llandudno Junction
Conwy
LL31 9RZ
United Kingdom


03000 6 03000
E-bost | Gwefan