[ Neidio i Gynnwys ]

Cadwyni Cyflenwi Bwyd Sector Cyhoeddus Cymru

Trosolwg

Cost: Am ddim

Busnes Cymru yn cynnal cyfres o weithdai a fydd yn canolbwyntio ar dri fframwaith caffael a ddefnyddir gan y sector cyhoeddus yng Nghymru ar gyfer cyflenwi bwyd a diod. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • 19 Tachwedd - Fframwaith TUCO a chaffael mewnol
  • 21 Tachwedd - Grŵp Bwyd Cydweithredol Sector Cyhoeddus Cymru (dan arweiniad Cyngor Caerffili)
  • 28 Ionawr - Cadwyn gyflenwi’r GIG

Nod y sesiynau yw rhoi’r wybodaeth a’r mewnwelediad angenrheidiol i’r cyfranogwyr er mwyn iddynt allu deall a llywio’r fframweithiau hyn yn effeithiol. Hefyd, nodir prosesau a chyfleoedd ar gyfer cynnwys ychwaneg o fwydydd a diodydd Cymreig oddi mewn i amserlenni’r fframweithiau.

Beth fydd cynnwys y cwrs? 

Bydd pob sesiwn yn canolbwyntio ar y canlynol:

  • Cyflwyniad i’r fframwaith: Bydd y tri gweithdy’n rhoi trosolwg i’r cyfranogwyr o’r fframwaith dan sylw, yn cynnwys amcanion, cwmpas a nodweddion allweddol y fframwaith.
  • Llywio’r fframwaith: Bydd y cyfranogwyr yn cael arweiniad ar y broses gaffael sy’n gysylltiedig â phob fframwaith. Bydd hyn yn cynnwys trosolwg o ofynion achredu, gweithdrefnau tendro a gofynion cydymffurfio.
  • Profiadau rhanddeiliaid: Bydd cynrychiolwyr â phrofiad o’r fframweithiau’n cael eu gwahodd i rannu eu profiadau a’u mewnwelediadau. Y nod fydd cyflwyno enghreifftiau o astudiaethau achos arferion gorau i gyfranogwyr y gweithdy er mwyn tynnu sylw at y modd y cyflwynwyd cynhyrchion i fwydlenni’r sector cyhoeddus.
  • Trafodaeth ryngweithiol: Cynhelir sesiwn Holi ac Ateb ar ddiwedd y gweithdy i hwyluso’r arfer o rannu gwybodaeth.

Ar gyfer pwy mae'r digwyddiad?

Anelir y sesiynau hyn at swyddogion caffael, arlwyo a charbon, yn ogystal â chyflenwyr a dosbarthwyr a allai fod yn awyddus i gyflenwi’r sector cyhoeddus yng Nghymru.

Dyddiadau

28 Ionawr 2025, 11:00 - 12:30
Digwyddiad ar-lein

Cost: Am ddim

Amodau arbennig

Mae Busnes Cymru yn wasanaeth dwyieithog ac mae ein digwyddiadau a'n gweithdai ar gael yn y Gymraeg a'r Saesneg, ar ôl cofrestru, rhowch wybod i ni beth yw eich dewisiadau iaith.

Termau

Gweler yma i weld sut mae Busnes Cymru yn trin eich gwybodaeth . Os ydych yn archebu lle ar ddigwyddiad Busnes Cymru neu Lywodraeth Cymru , mae'n bosibl y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a rowch i gynnig gwasanaethau personol neu leol chi , i roi gwybod i chi am newidiadau i'n gwasanaeth , i ofyn eich barn ac i helpu ni i wella ein gwasanaethau .

Mae wefannau y byddwn yn cysylltu â nhw yn debygol o fod gyda Thelerau ac Amodau sy'n wahanol i'n rhai ni . Peidiwch â chymryd yn ganiataol bod ein Telerau ac Amodau yn berthnasol i wefannau eraill.

Gwybodaeth Ychwanegol

Trefnydd y digwyddiad

Busnes Cymru
Sarn Mynach
Llandudno Junction
Conwy
LL31 9RZ
United Kingdom: Wales


01656 868 500
E-bost | Gwefan