Fordwyaeth
Cost: Am ddim
Ble Cynhelir y Digwyddiad?
Cynhelir y digwyddiad yn NatWest Accelerator Hub, 1 Kingsway, Caerdydd. Wedi'i leoli yng nghanol Caerdydd, sy'n hawdd ei gyrraedd mewn car, bws, beic a thrên.
Bydd y sesiwn hon yn cwmpasu popeth sy'n ymwneud ag AI, gan gynnwys:
Sesiwn 1: Beth, Pam, Sut?
Canlyniad: Dealltwriaeth o hanfodion AI a'r hyn y byddem yn ei alw'n "Tirwedd AI".
Sesiwn 2: Gan Bwyll!
Canlyniad: Dealltwriaeth ar sut i ddefnyddio AI yn gyfrifol. Pwysigrwydd diogelu data eich busnes, Ystyriaethau allweddol sydd eu hangen i feithrin ymddiriedaeth a hyder wrth fabwysiadu AI.
Sesiwn 3: Gweithio'n Glyfrach (nid yn galetach!)
Canlyniad: Dealltwriaeth o sut i nodi heriau cynhyrchiant o fewn eich busnes, mapio cyfleoedd ar gyfer gwelliant, a chydnabod ble y gallai AI gefnogi effeithlonrwydd yn y dyfodol.
Sesiwn 4: Eich Busnes DA
Canlyniad: Nodi cyfleoedd lle gall AI ychwanegu gwerth i'ch busnes, dewis offer AI addas ar gyfer eich anghenion, a chreu syniad clir ar gyfer eich cam cyntaf tuag at fabwysiadu AI.
Sesiwn 5: Y Data Tu Ôl
Canlyniad: Dealltwriaeth o bwysigrwydd parodrwydd data, sut i adolygu risgiau sy'n ymwneud ag AI ac ystyriaethau GDPR, a nodi'r camau nesaf sydd eu hangen i baratoi eich busnes ar gyfer mabwysiadu AI yn ddiogel.
Sesiwn 6: Adeiladu'r Peilot
Canlyniad: Cael profiad ymarferol o ddefnyddio offeryn AI, deall sut i greu prompts effeithiol, a nodi sut y gellir integreiddio AI i'ch busnes eich hun.
Sesiwn 7: Cyfrwch y Credydau
Canlyniad: Deall sut mae credydau AI yn gweithio, sut i reoli defnydd yn effeithiol, a sut i gael y gwerth gorau o offer AI ar gyfer eich busnes.
Sesiwn 8: Camau Nesa
Amcanion Craidd:
Ar gyfer pwy mae'r digwyddiad?
Perchnogion, rheolwyr a masnachwyr unigol BBaChau Cymru sy'n barod i ymrwymo dau ddiwrnod llawn i fabwysiadu AI ymarferol, gyda chymorth arbenigol 1:1.
Yn ddelfrydol i'r rhai sydd am symud y tu hwnt i ymwybyddiaeth a gadael gyda chynllun peilot gweithredol a chynllun gweithredu ar gyfer eu busnes eu hunain.
Nid oes angen cefndir technegol, dim ond dewch â chi'ch hun, gliniadur, a'ch cwestiynau.
Pwysig
Mae'r digwyddiad hwn ar gyfer busnesau bach a chanolig sydd wedi'u lleoli yng Nghymru ac mae'n gyfyngedig i ddau gynrychiolydd fesul busnes.
Wedi'i gyflwyno fel rhan o'r Rhaglen Ymwybyddiaeth a Mabwysiadu AI a ariannwyd yn llawn gan Busnes Cymru.
Mae Busnes Cymru yn wasanaeth dwyieithog ac mae ein digwyddiadau a'n gweithdai ar gael yn y Gymraeg a'r Saesneg, ar ôl cofrestru, rhowch wybod i ni beth yw eich dewisiadau iaith.
Gweler yma i weld sut mae Busnes Cymru yn trin eich gwybodaeth . Os ydych yn archebu lle ar ddigwyddiad Busnes Cymru neu Lywodraeth Cymru , mae'n bosibl y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a rowch i gynnig gwasanaethau personol neu leol chi , i roi gwybod i chi am newidiadau i'n gwasanaeth , i ofyn eich barn ac i helpu ni i wella ein gwasanaethau .
Mae wefannau y byddwn yn cysylltu â nhw yn debygol o fod gyda Thelerau ac Amodau sy'n wahanol i'n rhai ni . Peidiwch â chymryd yn ganiataol bod ein Telerau ac Amodau yn berthnasol i wefannau eraill.
Bydd y wybodaeth a ddarparwch fel rhan o'r archeb yn cael ei chadw am hyd at 7 diwrnod ar ôl i'r digwyddiad ddod i ben.
Busnes Cymru
Sarn Mynach
Llandudno Junction
Conwy
LL31 9RZ
United Kingdom: Wales