[ Neidio i Gynnwys ]

Canllaw gyflawn i wndwn llysieuol: cynllunio, sefydlu a rheoli

Trosolwg

Cost: Am ddim

Fydd y gweithdy hwn ar Gwndwn Llysieuol yn sicrhau bod gan y rhai sy’n cymryd rhan y wybodaeth sydd eu hangen arnynt i sefydlu a rheoli gwndwn llysieuol yn llwyddiannus er budd da byw, iechyd y pridd a’r amgylchedd ac y byddant yn gallu:

  • Trafod manteision gwndwn llysieuol o ran y pridd, yr amgylchedd ac iechyd anifeiliaid, adnoddau er lles cadwraeth, a gwella bioamrywiaeth.
  • Cynnal asesiadau iechyd y pridd gweledol i bennu'r ffactorau sy'n cyfyngu ar gynhyrchiant ac asesu'r potensial i ddefnyddio rhywogaethau amrywiol i wella cynhyrchiant.
  • Deall yr ystyriaethau ar gyfer cynllunio system gwndwn llysieuol sy'n briodol ar gyfer gweithrediad eich fferm gan gynnwys sefydlu.
  • Deall manteision gwahanol rywogaethau gan gynnwys glaswellt, codlysiau a pherlysiau.
  • Darparu strategaethau rheoli pori i gael y perfformiad gorau posibl gan anifeiliaid a hirhoedledd planhigion

Er mwyn mynychu’r digwyddiad hwn, cofrestrwch isod erbyn 3yh ar 01/07/24 neu am ragor o wybodaeth cysylltwch â Menna Willaims at menna.williams@menterabusnes.co.uk / 07399 849 148

*Sicrhewch eich bod yn cwblhau pob cam yn y broses o 1 i 4 er mwyn archebu eich lle. Byddwch yn gweld neges “Diolch” unwaith y bydd pob cam wedi’i gwblhau.*

Dyddiadau a lleoliadau

3 Hydref 2024, 10:00 - 15:00
Anglesey Showground, Holyhead, LL65 4RW

Cost: Am ddim

Gweld lleoliad

Termau

Telerau Busnes

Mae eich preifatrwydd yn bwysig i Cyswllt Ffermio ac yn unol â'r rheoliad diogelu data cyffredinol (GDPR), mae hysbysiad preifatrwydd digwyddiadau yn rhoi gwybod i chi pam ein bod yn casglu, defnyddio a phrosesu eich gwybodaeth a phwy fydd yn cael mynediad iddi. Drwy archebu lle ar gwrs neu ddigwyddiad Cyswllt Ffermio, rydych yn derbyn y telerau a'r amodau hyn.

Drwy drefnu lle yn un o ddigwyddiadau/cyrsiau Cyswllt Ffermio neu Lywodraeth Cymru, rydych yn derbyn telerau ac amodau cyffredinol defnyddio gwasanaethau ar-lein Llywodraeth Cymru, ac yn derbyn Hysbysiad Prosesu Teg Cyswllt Ffermio.
Gallwn hefyd ddefnyddio'r wybodaeth rydych yn ei rhoi i gynnig gwasanaethau personol neu leol i chi, rhoi gwybod i chi am newidiadau i'n gwasanaeth, holi eich barn a'n helpu i wella ein gwasanaethau.
Mae'n debygol y bydd gan wefannau rydym yn rhoi dolen iddynt Delerau ac Amodau sy'n wahanol i'n rhai ni. Peidiwch â thybio bod ein Telerau ac Amodau yn berthnasol i wefannau eraill.
Mae cynrychiolwyr yn cydnabod bod deunyddiau cyrsiau a rhaglenni neu gopïau ohonynt yn eiddo i ddarparwyr hyfforddiant ac y gallant fod yn destun hawlfraint. Cytunir na fydd cynrychiolydd na'i gorff noddi yn copïo'r deunyddiau hynny, yn llawn neu'n rhannol, heb gael caniatâd ysgrifenedig darparwr yr hyfforddiant.
Rydym yn cadw'r hawl i ganslo neu ddiwygio amser y sesiynau hyn unrhyw bryd hyd at amser dechrau'r sesiwn; rhoddir gwybodaeth unigol am bob cwrs.
Gall cynrychiolwyr hefyd ganslo eu lle unrhyw bryd drwy ddilyn y ddolen yn yr e-bost a gawsant fel cadarnhad neu drwy gysylltu â'r Ganolfan Gwasanaethau.
Mae Canolfan Gwasanaethau Cyswllt Ffermio ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 08:00 a 17:00 ac eithrio Gwyliau Cyhoeddus.
I gael rhagor o wybodaeth am Gyswllt Ffermio, ewch i'n gwefan neu ffoniwch ni ar 03456 000 813.
Mae'r cyfeiriadur yn cynnwys gwybodaeth am ddigwyddiadau sy'n cael eu cynnig gan Gyswllt Ffermio, Llywodraeth Cymru a darparwyr eraill yn y sector cyhoeddus a phreifat. Nid ydym yn gyfrifol am wybodaeth am ddigwyddiadau sy'n cael eu cynnig gan ddarparwyr eraill ac ni allwn gymryd cyfrifoldeb am yr hyn a allai ddigwydd pe baech yn gweithredu ar yr wybodaeth honno.

Trefnydd y digwyddiad

Farming Connect
Farming Connect
Unit 3, Science Park
Aberystwyth
SY23 3AH
United Kingdom: Wales


03456 000 813
E-bost | Gwefan