[ Neidio i Gynnwys ]

Cefnogi busnesau'r stryd fawr

Bydd y sesiwn hwn yn cael ei gyflwyno yn Saesneg

Trosolwg

Cost: Am ddim

Trosolwg o'r sesiwn

Bydd y sesiwn hon yn gyfle i ddysgu gan reolwr canolfan siopa profiadol a fydd yn cymryd gwersi bywyd go iawn o’u portffolio helaeth i ddangos sut y gall busnesau ddefnyddio data i wneud penderfyniadau strategol ar gyfer eu busnes.

Cyflwyno'r siaradwr

Medi Parry-Williams yw sylfaenydd MPW Making Places Work ac mae ganddi 15 'mlynedd o brofiad mewn adfywio canolfannau siopa a chanol trefi. Mae Medi wedi gweithio fel Cyfarwyddwr Gweithrediadau ar gyfer 7 canolfan siopa ar draws y DU gan weithio i bob pwrpas gyda dros 300 o fusnesau cenedlaethol ac annibynnol a’u cefnogi yn ogystal â bod yn Gyfarwyddwr Anweithredol gyda dau gwmni ar wahân. Ochr yn ochr â’i phrofiad rhyngwladol mae Medi hefyd wedi gweithio gydag Adran Datblygu Economaidd Cyngor Sir Ynys Môn ac mae hi'n angerddol iawn dros gefnogi busnesau Cymreig.

Beth fydd y digwyddiad yn ei gwmpasu?

  • Gwneud y mwyaf o effeithlonrwydd i leihau costau gweithredu llawn.
  • Strategaethau marchnata a digwyddiadau effeithiol i ysgogi nifer yr ymwelwyr a chynyddu amser aros.
  • Cyflwyno strategaeth creu lleoedd i greu effaith uniongyrchol.
  • Ysgogi masnacheiddio i gynyddu elw canolfannau.
  • Ymgysylltu â'r gymuned a chydweithio â rhanddeiliaid ar gyfer twf hirdymor.
  • Rhannu canlyniadau ac effaith.
  • Cwestiynau ac atebion

Yn dilyn llwyddiant yr astudiaeth achos hon, byddwn hefyd yn trafod prosesau a gweithdrefnau tebyg a ddefnyddiodd Medi ar gyfer chwe cynllun datblygu arall yn y DU.

Ar gyfer pwy mae'r gweithdy hwn?

Mae’r sesiwn hon yn rhan o gyfres ‘Trefi Smartar gyfer Busnes Smart’ ond bydd hefyd yn werthfawr fel sesiwn ar ben ei hun. Mae’r sesiwn wedi’i hanelu at berchnogion a rheolwyr busnesau’r stryd fawr sydd am dyfu a gwneud y gorau o’u busnes gan ddefnyddio data ond bydd hefyd yn ddefnyddiol i reolwyr canolfannau siopa neu ganol tref sydd am gefnogi eu busnesau.Rhagdybiwn nad oes unrhyw wybodaeth dechnegol flaenorol ac fe fydden yn cadw’n glir o jargon technoleg, gan ganolbwyntio ar y canlyniadau cadarnhaol i’ch busnes.

Dyddiadau

24 Hydref 2024, 14:00 - 15:00
Digwyddiad ar-lein

Cost: Am ddim

Termau

Gweler yma i weld sut mae Busnes Cymru yn trin eich gwybodaeth . Os ydych yn archebu lle ar ddigwyddiad Busnes Cymru neu Lywodraeth Cymru , mae'n bosibl y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a rowch i gynnig gwasanaethau personol neu leol chi , i roi gwybod i chi am newidiadau i'n gwasanaeth , i ofyn eich barn ac i helpu ni i wella ein gwasanaethau .

Mae wefannau y byddwn yn cysylltu â nhw yn debygol o fod gyda Thelerau ac Amodau sy'n wahanol i'n rhai ni . Peidiwch â chymryd yn ganiataol bod ein Telerau ac Amodau yn berthnasol i wefannau eraill.

Trefnydd y digwyddiad

Busnes Cymru
Sarn Mynach
Llandudno Junction
Conwy
LL31 9RZ
United Kingdom: Wales


03000 6 03000
E-bost | Gwefan