Fordwyaeth
Cost: Am ddim
Bydd y gweithdy’n cynnig trosolwg o gyfleoedd ac ystyriaethau’n ymwneud â cheisiadau ar y cyd gan fusnesau ar gyfer contractau bwyd a diod y sector cyhoeddus.
Beth fydd cynnwys y cwrs?
Cyflwyniad i Geisiadau ar y Cyd: Bydd Larder Cymru yn cynnig trosolwg o gyfleoedd, canfyddiadau ymchwil ac awgrymiadau ynglŷn â phwysigrwydd ceisiadau ar y cyd ar gyfer contractau’r sector cyhoeddus i BBaCh yng Nghymru – er mwyn ysgogi cynnydd mewn cynhyrchion Cymreig a gaiff eu caffael gan sefydliadau’r sector cyhoeddus yng Nghymru.
Profiadau rhanddeiliaid:
Bydd cynrychiolwyr â phrofiad o lunio ceisiadau ar y cyd yng Nghymru yn cael eu gwahodd i rannu eu profiadau a’u mewnwelediadau. Y nod fydd cyflwyno enghreifftiau o astudiaethau achos arferion gorau i gyfranogwyr y gweithdy er mwyn tynnu sylw at dendro ar y cyd ar gyfer contractau’r sector cyhoeddus yng Nghymru.
Sesiwn Drafod: Cynhelir sesiwn Holi ac Ateb ar ddiwedd y gweithdy, fel y gellir rhannu rhagor o wybodaeth.
Ar gyfer pwy mae'r digwyddiad?
Bydd y gweithdy hwn yn cael ei gynnal ar gyfer busnesau/cyflenwyr bwyd o Gymru, a thimau arlwyo’r sector cyhoeddus.
Mae Busnes Cymru yn wasanaeth dwyieithog ac mae ein digwyddiadau a'n gweithdai ar gael yn y Gymraeg a'r Saesneg, ar ôl cofrestru, rhowch wybod i ni beth yw eich dewisiadau iaith.
Gweler yma i weld sut mae Busnes Cymru yn trin eich gwybodaeth . Os ydych yn archebu lle ar ddigwyddiad Busnes Cymru neu Lywodraeth Cymru , mae'n bosibl y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a rowch i gynnig gwasanaethau personol neu leol chi , i roi gwybod i chi am newidiadau i'n gwasanaeth , i ofyn eich barn ac i helpu ni i wella ein gwasanaethau .
Mae wefannau y byddwn yn cysylltu â nhw yn debygol o fod gyda Thelerau ac Amodau sy'n wahanol i'n rhai ni . Peidiwch â chymryd yn ganiataol bod ein Telerau ac Amodau yn berthnasol i wefannau eraill.
Busnes Cymru
Sarn Mynach
Llandudno Junction
Conwy
LL31 9RZ
United Kingdom: Wales