[ Neidio i Gynnwys ]

Cenex Expo 2025

Trosolwg

Cost: Am ddim

Mae Llywodraeth Cymru yn mynychu cynadleddau, digwyddiadau, teithiau masnach ac ymweliadau â'r farchnad allforio, yma yng Nghymru, y DU a ledled y Byd i hyrwyddo Cymru a busnesau Cymru.

Bydd hyn yn creu cyfleoedd i fusnesau yng Nghymru gymryd rhan gyda ni o dan faner Cymru. 

Cenex Expo 2025 (Saesneg yn unig)

Cenex Expo yw prif ddigwyddiad cerbydau carbon isel blynyddol y DU sy’n ymgorffori pedair elfen:

1. Arddangosfa dechnoleg - 200+ o arddangoswyr

2. Rhaglen seminar health – 200+ o siaradwyr

3. Rhwydweithio wedi'i hwyluso gyda'r gymuned carbon isel

4. Reidio a gyrru'r cerbydau prawf diweddaraf.

Mae'r digwyddiad yn gosod agenda lle mae cerbydau carbon isel a dyfeisiadau symudedd awtomataidd cysylltiedig yn cyfuno i lunio dyfodol symudedd.

Mae pafiliwn Cymru wedi ei leoli mewn man amlwg yn y sioe, ac mae ganddo le i gyd-arddangoswyr ar gost o £750 + TAW yr un.

 

PAM MYNYCHU?

Gall arddangos gyda Llywodraeth Cymru fod yn ffordd gost-effeithiol iawn o arddangos eich cwmni, ennill cysylltiadau gwerthfawr a chynyddu eich allforion yn y sector hwn.

Fel cyd-arddangoswr byddwch yn elwa o:

1.    gofod wedi'i frandio ym mhafiliwn Cymru gyda chwpwrdd cownter, cloadwy, cyflenwad pŵer a storfa

2.    defnyddio man cyfarfod ar stondin

3.    un tocyn o leiaf yn ystod y digwyddiad

4.    gael eich cynnwys mewn deunydd marchnata lle bo ar gael

5.    Cynhwysiant yng Nghymru yn y cyfryngau, marchnata a chyfleoedd cysylltiadau cyhoeddus posibl.

    6.  Mae logisteg y stondin i gyd yn cael eu gofalu gyda digwyddiadau profiadol a gweithwyr marchnata proffesiynol

Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan, cwblhewch yr adran Mynegi Diddordeb gyda chymaint o wybodaeth â phosibl

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau :

10:00, 10 mis Ebrill 2025

Dyddiadau a lleoliadau

3 Medi 2025 - 4 Medi 2025, 09:00 - 16:00
Millbrook Test Track, Bedfordshire, Bedford, MK45 2JH

Cost: Am ddim

Gweld lleoliad

Amodau arbennig

PN0000816

Cyflwyniad/Cefndir

Mae Llywodraeth Cymru yn trefnu gwahanol fathau o ddigwyddiadau er mwyn ein helpu i gyflawni ein gwaith. 

 

Mae Tîm Digwyddiadau'r Is-adran Trawsnewid Diwydiannol (ITD) yn canolbwyntio ar ddigwyddiadau busnes i fusnes, arddangosfeydd, teithiau masnach, ymweliadau â'r farchnad allforio a chynadleddau yng Nghymru, y DU, a ledled y byd, i hyrwyddo Cymru a busnesau sydd wedi’u lleoli yng Nghymru. Rydym yn cynnig cyfleoedd i fusnesau sydd wedi’u lleoli yng Nghymru gymryd rhan gyda ni o dan faner Cymru, naill ai fel arddangoswr gyda phod bach ar ein stondin, neu fel ymwelydd, a fydd yn mynychu sioe gyda ni ac yn defnyddio ein stondin fel pwynt cyswllt canolog. 

 

Nid yw pob un o'n digwyddiadau'n cael eu cynnal yn flynyddol, mae rhai bob dwy flynedd, ac rydym yn gwerthuso allbynnau gyda chi, hyd at 12 mis ar ôl i'r digwyddiad gael ei gynnal. Felly, mae angen i’r hysbysiad preifatrwydd hwn dynnu sylw at newid yn hysbysiad preifatrwydd gwreiddiol Llywodraeth Cymru.

Pam bod angen i ni brosesu eich data personol?

Os hoffech gymryd rhan mewn digwyddiadau ITD fel y nodir uchod, o adeg y cais cyntaf, mae'n ofynnol i ni brosesu data personol amdanoch chi a'ch busnes.  Bydd Llywodraeth Cymru yn rheolydd data ar gyfer yr wybodaeth rydych chi'n ei rhannu.

 

Beth yw'r Sail Gyfreithlon ar gyfer prosesu?

Caiff eich data personol eu prosesu fel rhan o dasg gyhoeddus Llywodraeth Cymru; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru.  Mewn rhai achosion, byddwn yn prosesu data categori arbennig amdanoch chi, (e.e. hygyrchedd, gofynion dietegol etc). Rydym yn gwneud hyn er budd sylweddol y cyhoedd er mwyn sicrhau bod ein digwyddiadau'n cynnwys gofynion penodol pawb sy'n bresennol.

Pa wybodaeth bersonol sydd angen i ni ei phrosesu?

 

Os byddwch yn gwneud cais i arddangos gydag ITD, neu'n mynychu'r digwyddiad hwnnw fel rhan o becyn ymwelwyr, bydd angen i chi lenwi ffurflen mynegiant o ddiddordeb, a fydd yn cael ei chadw ar ein system fewnol, ddiogel.  Byddwn yn gofyn am y canlynol:

·         Enw'r cwmni, prif gyswllt, cyfeiriad, rhif ffôn, cyfeiriad e-bost a gwefan

·         Trosolwg o weithgareddau busnes yng Nghymru

·         Amlinelliad o sut mae’r digwyddiad hwn yn cyd-fynd yn strategol â'ch amcanion busnes

·         Sut rydych chi'n bwriadu manteisio i'r eithaf ar y cyfle hwn

·         Pa dargedau ydych chi'n eu gosod i fesur llwyddiant y digwyddiad ar gyfer eich busnes?

·         A ydych wedi mynychu'r digwyddiad hwn gyda Llywodraeth Cymru yn flaenorol, a'ch caniatâd i gymryd rhan mewn cysylltiadau cyhoeddus priodol os dymunwch wneud hynny.

 

Caiff eich ffurflen gais ei chadw am dair blynedd. Yna byddwn yn creu taenlen o gynrychiolwyr a fydd yn cynnwys eich manylion cyswllt a chyfeiriad eich gwefan yn unig. Caiff y daenlen ei choladu at sawl defnydd logisteg. Gallai hyn fod i'ch cofrestru ar gyfer proffil arddangoswr ar-lein, tocynnau neu basys i arddangoswyr, a gall gynnwys eich enw, manylion cyswllt y cwmni, ac, os yw'r lleoliad yn cynnwys parcio mynediad dan reolaeth, gwneuthuriad, model a rhif cofrestru eich car. 

 

Efallai y bydd angen i chi roi gwybod i ni am ddata categori arbennig sy’n gallu bod yn  fwy personol neu sensitif. Gallai hyn fod yn ofynion symudedd i wneud teithio’n fwy cyfforddus, cyflyrau corfforol neu iechyd meddwl, gofynion dietegol etc.

Weithiau, gall gweinidogion, diplomyddion neu urddasolion ymweld â'n stondin, ac mae'n ofynnol i ni eu briffio ymlaen llaw am eich cwmni. Efallai y byddwn hefyd yn darparu bywgraffiad byr a llun, ond byddwn yn gofyn am eich caniatâd i wneud hynny. 

 

Efallai y bydd angen i ni rannu eich gwybodaeth bersonol gyda lleoliadau, sefydliadau partner a/neu gyflenwyr trydydd parti, ond dim ond at ddibenion sy'n benodol i'r digwyddiad. Wrth drefnu digwyddiadau tramor, weithiau mae angen defnyddio trydydd parti i drefnu’r dulliau teithio a’r llety, neu i reoli ein stondin.  Mae contractau Llywodraeth Cymru gyda nhw yn nodi gofynion llym ar gyfer prosesu a chadw data personol yn ddiogel.

 

Byddwn yn cadw eich gwybodaeth ar ffeil am dair blynedd ar ôl unrhyw ddigwyddiad y byddwch yn ei fynychu, ac ni fyddwn yn ei rhannu'n allanol at unrhyw ddibenion marchnata. Bydd hyn yn cynnwys eich ffurflen gais wreiddiol . 

 

Os caiff y digwyddiad ei gynnal mewn un o swyddfeydd Llywodraeth Cymru, gallwch gael rhagor o wybodaeth amdano yn hysbysiad preifatrwydd ehangach Llywodraeth Cymru. 

 

Os byddwch yn gwneud ymholiad gyda ni mewn digwyddiad:

Os byddwch wedi gwneud ymholiad busnes gyda ni mewn digwyddiad, byddwn yn cymryd y manylion cyswllt rydych yn eu rhannu a chrynodeb o'ch ymholiad. Caiff hyn ei fewnbynnu i daenlen ymholiadau a’u cadw am dair blynedd. Caiff eich gwybodaeth ei rhannu’n fewnol â Llywodraeth fewnol Cymru neu un o'n fforymau sy'n benodol i'r diwydiant cysylltiedig, er mwyn gweithredu neu gysylltu â chi i'ch cynorthwyo ymhellach. Mae contractau Llywodraeth Cymru gyda nhw yn nodi gofynion llym ar gyfer prosesu a chadw data personol yn ddiogel. 

 

Os oes angen cymryd camau dilynol manylach i ymdrin â’ch ymholiad, caiff eich manylion eu cofnodi ar system rheoli perthnasau â chwsmeriaid sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru o'r enw BAS. Rydym yn argymell eich bod yn ymgyfarwyddo â'r polisïau defnyddwyr penodol ar y system BAS. 

 

A fydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei rhannu?

Gall gwybodaeth bersonol a gedwir gan Lywodraeth Cymru gael ei rhannu â thrydydd partïon o dan gontract yn unig er mwyn hwyluso nodau Llywodraeth Cymru o ran datblygiadau economaidd.

Eich hawliau:

O dan GDPR y DU mae gennych yr hawliau canlynol;

  • Cael gafael ar gopi o'ch data eich hun;
  • Gofyn i ni gywiro gwallau yn y data hynny;
  • Gwrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu (mewn rhai amgylchiadau);
  • Gofyn i'ch data gael eu 'dileu' (mewn rhai amgylchiadau); a
  • Chyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

Gwybodaeth Gyswllt

Os hoffech drafod rhagor o fanylion am yr wybodaeth sydd gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â'r digwyddiadau hyn, e-bostiwch ITD.Events@llyw.cymru a bydd aelod o'r tîm Digwyddiadau yn cysylltu â chi. 

 

Os hoffech arfer eich hawliau o dan y GDPR, gweler y manylion cyswllt isod:

Swyddog Diogelu Data, Llywodraeth Cymru

Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ

E-bost: DataProtectionOfficer@llyw.cymru

 

Dyma fanylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth:

Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF

Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113

Gwefan: www.ico.org.uk

Termau

Gweler yma i weld sut mae Llywodraeth Cymru yn trin eich gwybodaeth . Os ydych yn archebu lle ar ddigwyddiad Busnes Cymru neu Lywodraeth Cymru , mae'n bosibl y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a rowch i gynnig gwasanaethau personol neu leol chi , i roi gwybod i chi am newidiadau i'n gwasanaeth , i ofyn eich barn ac i helpu ni i wella ein gwasanaethau .

Mae wefannau y byddwn yn cysylltu â nhw yn debygol o fod gyda Thelerau ac Amodau sy'n wahanol i'n rhai ni . Peidiwch â chymryd yn ganiataol bod ein Telerau ac Amodau yn berthnasol i wefannau eraill.

Trefnydd y digwyddiad

EET
Swyddfeydd Llywodraeth Cymru / Welsh Government Offices
Parc Cathays / Cathays Park
Caerdydd / Cardiff
CF10 3NQ
United Kingdom: Wales


07867 138140
E-bost | Gwefan