Fordwyaeth
Cost: Am ddim
Bydd Cenex Expo 2026 yn cyflwyno arddangosfa fwyaf dylanwadol y DU o drafnidiaeth sero-net, arloesi carbon isel a symudedd awtomataidd cysylltiedig — sydd bellach yn dod i Gymru am y tro cyntaf. Gan adeiladu ar lwyddiant enfawr
Cenex Expo 2025, bydd y digwyddiad eleni yn dod â chymuned fwy byth o arloeswyr, arweinwyr polisi, gweithgynhyrchwyr ac ymchwilwyr at ei gilydd.
Gosododd Cenex Expo 2025 feincnodau newydd ar gyfer maint ac effaith:
4,500+ o fynychwyr – y nifer uchaf o weithwyr proffesiynol i ddod ynghyd ym maes symudedd carbon isel yn y DU.
200+ o arddangoswyr yn cyflwyno atebion arloesol ym meysydd trydaneiddio, hydrogen, CAM, systemau ynni a seilwaith.
220+ o siaradwyr a phanelwyr, gan gynnwys llunwyr polisi ac arweinwyr diwydiant sy'n llunio dyfodol trafnidiaeth.
Parth Teithio a Gyrru poblogaidd iawn, sy'n eich galluogi i dreialu cerbydau trydan cenhedlaeth nesaf , cerbydau hydrogen, platfformau awtomataidd, fflydoedd masnachol, a phrototeipiau yn y byd go iawn.
Mae arddangos gyda Llywodraeth Cymru yn cynnig ffordd gost-effeithiol o arddangos eich cwmni, meithrin cysylltiadau gwerthfawr ac archwilio cyfleoedd busnes newydd yn y sector hwn. Gyda Cenex yn dewis Cymru ar gyfer y stop cyntaf ar eu taith, mae hwn yn adeg ddelfrydol i hyrwyddo eich sefydliad i'r gadwyn gyflenwi leol. Mae gan Bafiliwn Cymru le amlwg yn y sioe, gyda mannau i gyd-arddangoswyr ar gael am £750 + TAW yr un.
Fel cydarddangoswr byddwch yn elwa ar:
1. gofod wedi'i frandio ar bafiliwn Cymru gyda chownter, cwpwrdd y gellir ei gloi, cyflenwad pŵer a lle storio
2. man cyfarfod i'w ddefnyddio ar stondin
3. Un tocyn arddangoswr am hyd y digwyddiad a hyd at dri thocyn ymwelwyr bob dydd
4. eich cynnwys mewn deunyddiau marchnata pan fyddan nhw ar gael
5. eich cynnwys yng nghyfryngau a marchnata Cymru, a chyfleoedd cysylltiadau cyhoeddus posibl.
6. bydd logisted y stondin o dan ofal gweithwyr proffesiynol sydd â phrofiad o ddigwyddiadau a marchnata
Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan, cwblhewch yr adran Mynegi Diddordeb gan roi cymaint o wybodaeth â phosibl.
Terfyn amser ar gyfer ceisiadau - 15 Mehefin 2026.
Gweler yma i weld sut mae Llywodraeth Cymru yn trin eich gwybodaeth . Os ydych yn archebu lle ar ddigwyddiad Busnes Cymru neu Lywodraeth Cymru , mae'n bosibl y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a rowch i gynnig gwasanaethau personol neu leol chi , i roi gwybod i chi am newidiadau i'n gwasanaeth , i ofyn eich barn ac i helpu ni i wella ein gwasanaethau .
Mae wefannau y byddwn yn cysylltu â nhw yn debygol o fod gyda Thelerau ac Amodau sy'n wahanol i'n rhai ni . Peidiwch â chymryd yn ganiataol bod ein Telerau ac Amodau yn berthnasol i wefannau eraill.
Bydd y wybodaeth a ddarparwch fel rhan o'r archeb yn cael ei chadw am hyd at 7 diwrnod ar ôl i'r digwyddiad ddod i ben.
EET
Swyddfeydd Llywodraeth Cymru / Welsh Government Offices
Parc Cathays / Cathays Park
Caerdydd / Cardiff
CF10 3NQ
United Kingdom: Wales