Codau nwyddau a Thariffau Masnach y DU
Trosolwg
Cost: Am ddim
Mae tîm masnach Llywodraeth Cymru’n cynnal gweminar ryngweithiol ar godau nwyddau a Thariffau Masnach y DU
Mae Codau Nwyddau’n rhan hanfodol o’r system dollau. Mae’n bwysig iawn bod pawb sy’n masnachu dramor yn deall y pwnc hanfodol hwn.
Bydd y weminar yn trafod y canlynol:
- Codau nwyddau sy’n categoreiddio nwyddau ar gyfer eu mewnforio neu eu hallforio er mwyn i swyddogion y tollau allu rhoi’r tollau cywir ac unrhyw gymorth allai fod ar gael.
- Deall codau nwyddau, eu pwrpas a sut i gategoreiddio nwyddau.
- Edrych ar Dariffau Masnach y DU a sut orau i ddelio â nhw, a sut i gael hyd i’r tollau a’r cwotâu sy’n effeithio ar eich nwyddau chi, a’u deall.
Dyddiadau
Amodau arbennig
Yn agored i bob busnes o Gymru sydd am dyfu’n rhyngwladol. Nid ar gyfer canolwyr na chyflenwyr gwasanaethau masnachu rhyngwladol.
Termau
Gweler yma i weld sut mae Llywodraeth Cymru yn trin eich gwybodaeth . Os ydych yn archebu lle ar ddigwyddiad Busnes Cymru neu Lywodraeth Cymru , mae'n bosibl y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a rowch i gynnig gwasanaethau personol neu leol chi , i roi gwybod i chi am newidiadau i'n gwasanaeth , i ofyn eich barn ac i helpu ni i wella ein gwasanaethau .
Mae wefannau y byddwn yn cysylltu â nhw yn debygol o fod gyda Thelerau ac Amodau sy'n wahanol i'n rhai ni . Peidiwch â chymryd yn ganiataol bod ein Telerau ac Amodau yn berthnasol i wefannau eraill.
Trefnydd y digwyddiad
Llywodraeth Cymru
Sarn Mynach
Llandudno Junction
Conwy
LL31 9RZ
United Kingdom