[ Neidio i Gynnwys ]

Compostio Garddwriaethol ar gyfer iechyd y pridd cynaliadwy

Bydd y sesiwn hwn yn cael ei gyflwyno yn Saesneg

Trosolwg

Cost: Am ddim

Mae compostio yn arfer hanfodol wrth gynnal iechyd y pridd, gan gynnig ffordd gynaliadwy i dyfwyr ailgylchu gwastraff organig, gwella strwythur y pridd, a gwella argaeledd maetholion. Yn y gweithdy hwn, bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn dysgu am wyddor a chymwysiadau ymarferol compostio, gan gynnwys creu a rheoli tomennydd compost, cynnwys maetholion, a datblygu cynlluniau rheoli maetholion effeithiol. Bydd y diwrnod yn cyrraedd uchafbwynt gyda thaith o amgylch fferm biodynamig, lle gall y rhai sy’n cymryd rhan weld yr egwyddorion hyn ar waith ar fferm sy'n tyfu amrywiaeth o ffrwythau a llysiau meddal.

Prif Amcanion Dysgu:

Iechyd y Pridd: Deall rôl compost yn iechyd y pridd, gan gynnwys gwella strwythur y pridd, cadw dŵr, a hygyrchedd gwreiddiau.

Lleihau Gwastraff: Edrych ar sut y gall compostio helpu i leihau gwastraff trwy droi deunyddiau organig fel gwastraff gwyrdd, tail anifeiliaid a charbon yn welliannau pridd gwerthfawr.

Rheoli a Chynllunio Maetholion: Dysgu am gynnwys maetholion compost a sut i ddatblygu cynlluniau rheoli maetholion i sicrhau ffrwythlondeb pridd cytbwys.

Gwneud a Rheoli Compost : Ennill sgiliau ymarferol wrth greu a rheoli tomennydd compost. Bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn dysgu'r amodau delfrydol ar gyfer dadelfennu, sut i gynnal pentwr compost iach, a datrys problemau cyffredin.

Defnyddiau Compost: Darganfod y gwahanol ddefnyddiau o gompost, ar gyfer cyfoethogi’r pridd ac fel cyfrwng tyfu, a deall ei botensial masnachol i'w werthu i dyfwyr neu hobïwyr eraill.

 

Fformat y Sesiwn:

Trafodaethau Rhyngweithiol: Cymryd rhan mewn trafodaethau am dechnegau compostio, heriau cyffredin, ac arferion gorau. Anogir rhannu gwybodaeth rhwng cyfoedion i hyrwyddo profiad dysgu cydweithredol.

Arddangosiadau: Byddwch yn clywed gan Liz ac Oliver a fydd yn arddangos y grefft o wneud a rheoli tomennydd compost ar y safle.

Taith o amgylch Fferm: Bydd taith dywys o amgylch y fferm biodynamig yn dangos y defnydd o gompost mewn systemau ffermio go iawn, gan roi dealltwriaeth ddyfnach o sut mae compost yn cyfrannu at iechyd a chynhyrchiant cyffredinol y fferm.

 

Er mwyn mynychu’r digwyddiad hwn, cofrestrwch isod erbyn 5.00yp ar 15/07/25 neu cysylltwch â horticulture@lantra.co.uk / 01982 552 646.

*Sicrhewch eich bod yn cwblhau pob cam yn y broses o 1 i 4 er mwyn archebu eich lle. Byddwch yn gweld neges “Diolch” unwaith y bydd pob cam wedi’i gwblhau.*

Dyddiadau a lleoliadau

30 Gorffennaf 2025, 14:00 - 17:00
Nantclyd, Aberystwyth, SY23 4SL

Cost: Am ddim

Gweld lleoliad

Termau

Telerau Busnes

Mae eich preifatrwydd yn bwysig i Cyswllt Ffermio ac yn unol â'r rheoliad diogelu data cyffredinol (GDPR), mae hysbysiad preifatrwydd digwyddiadau yn rhoi gwybod i chi pam ein bod yn casglu, defnyddio a phrosesu eich gwybodaeth a phwy fydd yn cael mynediad iddi. Drwy archebu lle ar gwrs neu ddigwyddiad Cyswllt Ffermio, rydych yn derbyn y telerau a'r amodau hyn.

Drwy drefnu lle yn un o ddigwyddiadau/cyrsiau Cyswllt Ffermio neu Lywodraeth Cymru, rydych yn derbyn telerau ac amodau cyffredinol defnyddio gwasanaethau ar-lein Llywodraeth Cymru, ac yn derbyn Hysbysiad Prosesu Teg Cyswllt Ffermio.
Gallwn hefyd ddefnyddio'r wybodaeth rydych yn ei rhoi i gynnig gwasanaethau personol neu leol i chi, rhoi gwybod i chi am newidiadau i'n gwasanaeth, holi eich barn a'n helpu i wella ein gwasanaethau.
Mae'n debygol y bydd gan wefannau rydym yn rhoi dolen iddynt Delerau ac Amodau sy'n wahanol i'n rhai ni. Peidiwch â thybio bod ein Telerau ac Amodau yn berthnasol i wefannau eraill.
Mae cynrychiolwyr yn cydnabod bod deunyddiau cyrsiau a rhaglenni neu gopïau ohonynt yn eiddo i ddarparwyr hyfforddiant ac y gallant fod yn destun hawlfraint. Cytunir na fydd cynrychiolydd na'i gorff noddi yn copïo'r deunyddiau hynny, yn llawn neu'n rhannol, heb gael caniatâd ysgrifenedig darparwr yr hyfforddiant.
Rydym yn cadw'r hawl i ganslo neu ddiwygio amser y sesiynau hyn unrhyw bryd hyd at amser dechrau'r sesiwn; rhoddir gwybodaeth unigol am bob cwrs.
Gall cynrychiolwyr hefyd ganslo eu lle unrhyw bryd drwy ddilyn y ddolen yn yr e-bost a gawsant fel cadarnhad neu drwy gysylltu â'r Ganolfan Gwasanaethau.
Mae Canolfan Gwasanaethau Cyswllt Ffermio ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 08:00 a 17:00 ac eithrio Gwyliau Cyhoeddus.
I gael rhagor o wybodaeth am Gyswllt Ffermio, ewch i'n gwefan neu ffoniwch ni ar 03456 000 813.
Mae'r cyfeiriadur yn cynnwys gwybodaeth am ddigwyddiadau sy'n cael eu cynnig gan Gyswllt Ffermio, Llywodraeth Cymru a darparwyr eraill yn y sector cyhoeddus a phreifat. Nid ydym yn gyfrifol am wybodaeth am ddigwyddiadau sy'n cael eu cynnig gan ddarparwyr eraill ac ni allwn gymryd cyfrifoldeb am yr hyn a allai ddigwydd pe baech yn gweithredu ar yr wybodaeth honno.

Trefnydd y digwyddiad

Farming Connect
Farming Connect
Unit 3, Science Park
Aberystwyth
SY23 3AH
United Kingdom: Wales


03456 000 813
E-bost | Gwefan