[ Neidio i Gynnwys ]

Copa AI 2026 - AI Summit 2026

Bydd y sesiwn hwn yn cael ei gyflwyno yn Saesneg

Trosolwg

Cost: Am ddim

 Crynodeb

Mae Copa AI 2026 – AI Summit 2026 yn ddigwyddiad diwrnod llawn i fusnesau yng Nghymru, a gynhelir ar ddydd Mercher 15 Gorffennaf 2026 yn AberInnovation, Aberystwyth.

 

Mae rhaglen AI Busnes Cymru wedi’i chynllunio i gael gwared ar rwystrau i fusnesau bach a chanolig (BBaCh) yng Nghymru fabwysiadu AI, gan ddarparu cymorth ymarferol, dibynadwy a hygyrch.

 

Ymunwch â ni yn Copa AI am brif areithiau, arddangosiadau AI byw, trafodaethau panel, gweithdai ymarferol, sgyrsiau byr (“lightning talks”) a chyfleoedd rhwydweithio. Bydd y sesiynau’n cwmpasu offer AI ymarferol, diogelwch AI, moeseg ac AI cyfrifol, yn ogystal â thechnegau ysgrifennu awgrymiadau ymarferol.

 

Mae’r digwyddiad hwn wedi’i ariannu’n llawn ac yn agored i BBaChau a microfusnesau yng Nghymru ar draws pob sector. Mae wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru ac yn cael ei ddarparu gan Busnes Cymru.

 

Disgrifiad

Copa AI 2026 – Uwchgynhadledd AI 2026

Mae AI yn sbardun allweddol ar gyfer cynhyrchiant, cystadleurwydd a gwydnwch busnes, ac rydym am i fusnesau yng Nghymru ffynnu drwy gofleidio ei botensial.

Mae ein siaradwyr a’n cyfranwyr yn cynnwys Evan Davies (Google Cloud), yr Athro Steve Whittaker (Prifysgol California Santa Cruz), Mark Price (Pugh Computers), Ighodalo Uyi Ebhodaghe (Prifysgol Bangor), Gary Cheers (Wingenious), ac Aled Parry (Tinopolis Cymru).

Bydd busnesau hefyd yn dod i’r llwyfan i rannu eu profiadau go iawn o fabwysiadu AI.

Amserlen yr Uwchgynhadledd AI

Amser Sesiwn Siaradwr
09:30 – 10:00 Cyrraedd, Cofrestru a Lluniaeth
10:00 – 10:05 Croeso Jordan Eardley, Arweinydd Prosiect Mabwysiadu ac Ymwybyddiaeth AI, Busnes Cymru
10:10 – 10:30 Trafodaeth Banel: Arwyr AI Hwylusydd: Kirsty Robson-Davies (Cynghorydd AI, Busnes Cymru); Gyda: Andrew Craig (TroCymru), Daniel Parry Evans (Vedri Studio) - Catrin Donnelly (Building with AI)
10:30 – 11:00 Prif Siaradwr: Google Gemini ar gyfer Busnesau yng Nghymru Evan Davies, Gweithredwr – Busnesau Newydd a Graddfa, Google Cloud
11:05 – 11:15 AI a Phensaernïaeth Amelia Hunter, WM Designs
11:20 – 11:40 AI, Diogelwch a Microsoft Copilot Mark Price, Cyfarwyddwr Datblygu Busnes, Pugh Computers
11:45 – 12:15 Sgyrsiau Mellt Aled Rees (Teithiau Patagonia), Andrew Craig (TroCymru), Daniel Parry Evans (Vedri Studio), Phil Sanders (instro.ai) 
12:20 – 13:20 Cinio a Rhwydweithio
13:20 – 13:30 Arddangosfa Offer AI Owain Stead, Cynghorydd AI, Busnes Cymru
13:40 – 14:00 Moeseg ac AI Cyfrifol Ighodalo Uyi Ebhodaghe, Darlithydd, Prifysgol Bangor
14:05 – 14:25 Gweithdy Ymarferol: Ysgrifennwch Fel Eich Busnes, Nid Fel Robot Gary Cheers, Sefydlwr, Wingenious
14:30 – 15:00 Prif Araith: Pam Mae Camau Bach yn Gwneud Gwahaniaeth Mawr Steve Whittaker, Cyfarwyddwr Rhaglen, MIT Corporate Relations | Industrial Liaison Program and Startup Exchange
15:05 – 15:25 Arddangosiad AI Creadigol Byw Aled Parry
15:30 – 15:40 Sylwadau Cloi Jordan Eardley, Arweinydd Prosiect Mabwysiadu ac Ymwybyddiaeth AI, Busnes Cymru
15:40 >  Rhwydweithio

Dyddiadau a lleoliadau

15 Gorffennaf 2026, 09:00 - 16:00
Aberystwyth Innovation and Enterprise Campus, Ceredigion, SY23 3EE

Cost: Am ddim

Gweld lleoliad

Mae archebu lle ar gyfer y digwyddiad hwn ar gau erbyn hyn.

Amodau arbennig

Mae Busnes Cymru yn wasanaeth dwyieithog ac mae ein digwyddiadau a'n gweithdai ar gael yn y Gymraeg a'r Saesneg, ar ôl cofrestru, rhowch wybod i ni beth yw eich dewisiadau iaith.

Termau

Gweler yma i weld sut mae Busnes Cymru yn trin eich gwybodaeth . Os ydych yn archebu lle ar ddigwyddiad Busnes Cymru neu Lywodraeth Cymru , mae'n bosibl y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a rowch i gynnig gwasanaethau personol neu leol chi , i roi gwybod i chi am newidiadau i'n gwasanaeth , i ofyn eich barn ac i helpu ni i wella ein gwasanaethau .

Mae wefannau y byddwn yn cysylltu â nhw yn debygol o fod gyda Thelerau ac Amodau sy'n wahanol i'n rhai ni . Peidiwch â chymryd yn ganiataol bod ein Telerau ac Amodau yn berthnasol i wefannau eraill.

Bydd y wybodaeth a ddarparwch fel rhan o'r archeb yn cael ei chadw am hyd at 7 diwrnod ar ôl i'r digwyddiad ddod i ben.

Gwybodaeth Ychwanegol

Trefnydd y digwyddiad

Busnes Cymru
Sarn Mynach
Llandudno Junction
Conwy
LL31 9RZ
United Kingdom: Wales


03000 6 03000
E-bost | Gwefan