[ Neidio i Gynnwys ]

Cwrdd â’r Prynwr - Cyngor Sir Powys: Darparu cyfleoedd dydd allanol i Oedolion ag Anabledd Dysgu

Bydd y sesiwn hwn yn cael ei gyflwyno yn Saesneg

Trosolwg

Cost: Am ddim

Crynodeb

Cyngor Sir Powys - Ein gweledigaeth

“Mae Powys yn lle sy’n cefnogi pobl i adeiladu bywydau iach a boddhaus, gyda chyfranogiad ym mhob agwedd o’r gymuned a chymdeithas. Bydd cyfleoedd dydd yn diwallu anghenion unigol a chanlyniadau personol drwy ystod eang o gyfleoedd cymdeithasol, gwaith a hamdden, gan gefnogi pobl i ddefnyddio eu hasedau eu hunain a rhai’r gymuned, gyda ffocws ar annog iechyd, llesiant, byw’n annibynnol, a seibiant i ofalwyr.”

Ar hyn o bryd, mae dau ddarparwr allanol yn darparu gwasanaethau Cyfleoedd Dydd ar draws gogledd a de Powys. Mae’r gwasanaethau hyn yn gweithredu o dan fanylebau gwasanaeth gwahanol, sydd wedi arwain at amrywiadau mewn darpariaeth, cysondeb, a dull cyffredinol ar draws y sir. Mae angen cydnabyddedig i alinio’r manylebau hyn er mwyn sicrhau tegwch, cysondeb, ac eglurder i ddarparwyr a defnyddwyr gwasanaeth fel ei gilydd.

Yn y blynyddoedd diwethaf, mae’r Cyngor wedi datblygu ac wedi dechrau gweithredu model newydd ar gyfer Cyfleoedd Dydd, wedi’i gynllunio i foderneiddio darpariaeth ac i adlewyrchu’n well anghenion, dewisiadau a dyheadau pobl ag anabledd dysgu. Fel rhan o’r trawsnewidiad hwn, mae angen ailgomisiynu gwasanaethau Cyfleoedd Dydd a ddarperir yn allanol i sicrhau eu bod yn gwbl gyson â’r model newydd a’r cyfeiriad strategol.

Nod y broses ailgomisiynu hon yw creu system ddarpariaeth gynaliadwy a theg ar draws Powys. Y nod yw cefnogi unigolion i fyw bywydau iach, boddhaus a gwerth chweil, fel aelodau gwerthfawr o’u cymunedau, gyda chyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n bwysig iddynt. Mae’r model hefyd yn cydnabod rôl hanfodol gofalwyr di-dâl, ac yn ceisio sicrhau bod gwasanaethau’n cefnogi eu llesiant a’u gallu i gynnal eu rôl ofalu.

Bydd y fanyleb gwasanaeth hon yn galluogi pobl i brofi cyfleoedd dydd gyda ffocws ar gynnydd, gan arwain at fwy o reolaeth gan unigolion dros eu bywydau. Pwrpas y fanyleb hon yw contractio gyda darparwr a fydd yn canolbwyntio’n llwyr ar ddarparu’r ymateb cywir ar yr amser cywir, yn y lle cywir, ar y cais cyntaf, a dim ond gwneud y pethau sy’n bwysig i’r unigolyn hwnnw. Bydd hyn yn helpu oedolion ag anableddau i fyw eu bywydau yn eu ffordd eu hunain ac i gyfrannu’n ystyrlon at gyflawni boddhad.

Bydd dau wasanaeth allanol yn cael eu darparu yng ngogledd a de Sir Powys. Bydd cyfle i ddarparwyr gwahanol ddarparu’r ddau wasanaeth.

 

Beth fydd cynnwys y cwrs?

Ein gweledigaeth ar gyfer darparu cyfleoedd dydd

Y model newydd sydd wedi’i weithredu

Dangosyddion perfformiad allweddol o’r fanyleb gwasanaeth

Disgrifiad o’r gwasanaeth

Gwerthoedd y gwasanaeth

Lleoliadau / Safleoedd

 

Ar gyfer pwy mae'r digwyddiad?

Darparwyr presennol cyfleoedd dydd

Darparwyr byw â chymorth

Sefydliadau’r trydydd sector

 

Pwysig - Mae'r digwyddiad hwn ar gyfer busnesau bach a chanolig eu maint yng nghymru ac mae wedi'i gyfyngu i ddau gynrychiolydd o bob busnes.

 

Caiff y digwyddiad hwn ei gyflwyno gan Busnes Cymru ar ran Llywodraeth Cymru.

 

 

Dyddiadau

14 Gorffennaf 2026, 14:00 - 15:00
Digwyddiad ar-lein

Cost: Am ddim

Amodau arbennig

Hysbysiad Diogelu Data a Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR):

Bydd manlion eich archeb yn cael ei rhanu gyda’ prynwr at ddibenion cydlynu digwyddiadau a chaffael. Drwy archebu, rydych yn rhoi eich caniatâd i rhannu'r data hwn.

Termau

Gweler yma i weld sut mae Busnes Cymru yn trin eich gwybodaeth . Os ydych yn archebu lle ar ddigwyddiad Busnes Cymru neu Lywodraeth Cymru , mae'n bosibl y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a rowch i gynnig gwasanaethau personol neu leol chi , i roi gwybod i chi am newidiadau i'n gwasanaeth , i ofyn eich barn ac i helpu ni i wella ein gwasanaethau .

Mae wefannau y byddwn yn cysylltu â nhw yn debygol o fod gyda Thelerau ac Amodau sy'n wahanol i'n rhai ni . Peidiwch â chymryd yn ganiataol bod ein Telerau ac Amodau yn berthnasol i wefannau eraill.

Bydd y wybodaeth a ddarparwch fel rhan o'r archeb yn cael ei chadw am hyd at 7 diwrnod ar ôl i'r digwyddiad ddod i ben.

Gwybodaeth Ychwanegol

Trefnydd y digwyddiad

Busnes Cymru
Sarn Mynach
Llandudno Junction
Conwy
LL31 9RZ
United Kingdom: Wales


03000 6 03000
E-bost | Gwefan