[ Neidio i Gynnwys ]

Cwrdd â'r Prynwr – Darpariaeth hyfforddiant, dysgu a datblygu ym maes gofal cymdeithasol

Trosolwg

Cost: Am ddim

Crynodeb

Mae Cyngor Sir Powys am dendro a chomisiynu rhaglen hyfforddi ddynodedig ar gyfer gwasanaethau Oedolion a Phlant wedi’i hariannu gan grant Rhaglen Datblygu Gweithlu Gofal Cymdeithasol Cymru - RhDGGCC.  Gwneir cais am y grant blynyddol hwn ym mis Chwefror.  Un o ofynion y grant yw bod rhaglen hyfforddi ar waith erbyn 1 Ebrill 2027.

Beth fydd y cynnwys y cwrs?

Ffocws y grant hwn yw cefnogi uchelgais Strategaeth y Gweithlu Iechyd a Gofal Cymdeithasol, parhau i weithredu Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 yn ogystal â rhoi cyfle i fynd i'r afael â blaenoriaethau'r gweithlu rhanbarthol a lleol a nodwyd i gefnogi gwella gofal a chymorth ar draws yr holl ddarparwyr a sefydliadau gofal cymdeithasol.

Mae'r grant yn blaenoriaethu'r themâu a'r camau gweithredu canlynol:

•        Adeiladu gweithlu sy'n barod yn ddigidol (camau gweithredu 15-17)

•        Addysg a dysgu rhagorol (camau gweithredu 18 -24)

•        Darparu hyfforddiant gwaith cymdeithasol cymwys ac ôl-gymhwyso

•        Arweinyddiaeth ac olyniaeth (camau gweithredu 25-27)

•        Llunio a chyflenwi'r gweithlu (camau gweithredu 28-32)

 

Ar gyfer pwy mae'r digwyddiad?

Darparwyr hyfforddiant, dysgu a datblygiad gofal cymdeithasol.

 

BBaCh o Gymru. Uchafswm o 2 gynrychiolydd fesul busnes - yn amodol ar Gofrestru'n Llwyddiannus â Busnes Cymru.

Caiff y digwyddiad hwn ei gyflwyno gan Busnes Cymru ar ran Llywodraeth Cymru.

 

Hysbysiad Diogelu Data a Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR):

Bydd manlion eich archeb yn cael ei rhanu gyda’ prynwr at ddibenion cydlynu digwyddiadau a chaffael. Drwy archebu, rydych yn rhoi eich caniatâd i rhannu'r data hwn.

 

Dyddiadau

14 Gorffennaf 2026, 10:00 - 11:00
Digwyddiad ar-lein

Cost: Am ddim

Termau

Gweler yma i weld sut mae Busnes Cymru yn trin eich gwybodaeth . Os ydych yn archebu lle ar ddigwyddiad Busnes Cymru neu Lywodraeth Cymru , mae'n bosibl y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a rowch i gynnig gwasanaethau personol neu leol chi , i roi gwybod i chi am newidiadau i'n gwasanaeth , i ofyn eich barn ac i helpu ni i wella ein gwasanaethau .

Mae wefannau y byddwn yn cysylltu â nhw yn debygol o fod gyda Thelerau ac Amodau sy'n wahanol i'n rhai ni . Peidiwch â chymryd yn ganiataol bod ein Telerau ac Amodau yn berthnasol i wefannau eraill.

Bydd y wybodaeth a ddarparwch fel rhan o'r archeb yn cael ei chadw am hyd at 7 diwrnod ar ôl i'r digwyddiad ddod i ben.

Gwybodaeth Ychwanegol

Trefnydd y digwyddiad

Busnes Cymru
Sarn Mynach
Llandudno Junction
Conwy
LL31 9RZ
United Kingdom: Wales


03000 6 03000
E-bost | Gwefan