[ Neidio i Gynnwys ]

Cyfleoedd Allforio yn India

Bydd y sesiwn hwn yn cael ei gyflwyno yn Saesneg

Trosolwg

Cost: Am ddim

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal gweminar i gwmnïau o Gymru sydd â diddordeb allforio i'r India. Bydd y sesiwn yn rhoi trosolwg o'r cyfleoedd a'r ystyriaethau allweddol yn India i fusnesau Cymru.

Mae India yn farchnad fawr sy'n tyfu gyda chyfleoedd amrywiol ar draws nifer fawr o sectorau.

Mae gan India Farchnad Defnyddwyr sy'n tyfu'n gyflym ac yn gynyddol gefnog sydd ag awydd am gynhyrchion a gwasanaethau premiwm.

Mae India yn economi drawsnewidiol hefyd sy'n cynnig cyfleoedd sy'n tyfu'n gyflym i fusnesau, yn enwedig ym meysydd technoleg, technoleg ariannol a moduro. Mae India hefyd yn buddsoddi'n helaeth mewn seilwaith a digideiddio.

Cewch glywed gan gynrychiolydd yn y farchnad a fydd yn mynd drwy fanteision allforio a gwneud busnes yn yr ardal yn ogystal â darparu dadansoddiad o'r cyfleoedd allforio i'r sector yn y rhanbarth.

Dyddiadau

9 Hydref 2024, 10:00 - 11:00
Digwyddiad ar-lein

Cost: Am ddim

Darganfod cyfleoedd allforio i'ch busnes yn India.

Amodau arbennig

Mae'n agored i bob busnes yng Nghymru sydd ag uchelgais i ddatblygu’n rhyngwladol. Nid yw’n berthnasol i ganolwyr na chyflenwyr gwasanaethau masnach ryngwladol

Termau

Gweler yma i weld sut mae Llywodraeth Cymru yn trin eich gwybodaeth . Os ydych yn archebu lle ar ddigwyddiad Busnes Cymru neu Lywodraeth Cymru , mae'n bosibl y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a rowch i gynnig gwasanaethau personol neu leol chi , i roi gwybod i chi am newidiadau i'n gwasanaeth , i ofyn eich barn ac i helpu ni i wella ein gwasanaethau .

Mae wefannau y byddwn yn cysylltu â nhw yn debygol o fod gyda Thelerau ac Amodau sy'n wahanol i'n rhai ni . Peidiwch â chymryd yn ganiataol bod ein Telerau ac Amodau yn berthnasol i wefannau eraill.

Trefnydd y digwyddiad

Llywodraeth Cymru
Swyddfeydd Llywodraeth Cymru / Welsh Government Offices
Parc Cathays / Cathays Park
Caerdydd / Cardiff
CF10 3NQ
United Kingdom


07837590633
E-bost | Gwefan