Fordwyaeth
Cost: Am ddim
Mae Trefi Smart Cymru yn rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru sy’n cefnogi busnesau, trefi a chynghorau i harneisio pŵer data a thechnoleg i helpu i adfywio eu strydoedd mawr. Bydd y sesiwn hon yn rhoi dealltwriaeth gynhwysfawr o'r hyn y mae'n ei olygu i fod yn dref Smart, y manteision i'ch cymuned, a chamau ymarferol i symud ymlaen.
Y rhan orau? Nid oes angen i chi fod yn arbenigwr technoleg i gael effaith ystyrlon. Mae technoleg smart yn cynnig atebion ymarferol i heriau bob dydd, gan helpu eich cymuned i ffynnu.
Byddwn yn eich tywys trwy gelfyddyd y posibiliad, gan gadw siarad technoleg i’r lleiafswm, gan ganolbwyntio ar ganlyniadau i arbed amser ac arian, a helpu strydoedd mawr Cymru i ffynnu’n gynaliadwy.
Bydd y gweithdy hwn yn cynnig cyflwyniad i Drefi Smart, gan amlygu technolegau allweddol sy’n gwneud trefi smart yn bosibl. Byddwn yn trafod achosion defnydd allweddol a sut mae technolegau ar hyn o bryd o fudd i drefi Smart Cymru drwy fynd i’r afael â materion fel ymddygiad gwrthgymdeithasol, effeithlonrwydd adnoddau, cynaliadwyedd, ac adfywio’r stryd fawr.
Mae’r sesiwn hon ar gyfer rhanddeiliaid tref, y rhai sy’n gwneud penderfyniadau ac unrhyw un sydd â meddwl agored a diddordeb mewn gwella eu stryd fawr. Nid oes rhaid i chi fod yn berson technolegol i weld manteision Trefi Smart, ac nid ydym yn tybio eich bod gennych unrhyw wybodaeth technegol o flaen llaw.
Bydd y sesiynau hyn yn cael eu cyflwyno yn Saesneg. Os hoffech fynegi diddordeb mewn sesiwn Gymraeg, e-bostiwch smarttowns@mentermon.com. Bydd sesiwn Gymraeg yn cael ei threfnu unwaith y bydd 5 neu fwy o bobl wedi mynegi diddordeb.
Dewch i gwrdd â Kiki Rees-Stavros, un o’r prif ysgogwyr y tu ôl i brosiect Trefi Smart Cymru. Fel Rheolwr Prosiect, mae Kiki yn cydweithio’n agos gyda busnesau, cymunedau, a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau, gan eu cefnogi i ddefnyddio data a thechnoleg i adfywio eu strydoedd mawr.
Gyda chefndir mewn addysgu iaith a phrofiad helaeth mewn rhedeg busnes llwyddiannus, mae ffocws Kiki yn benodol ar y buddion go iawn y gall busnesau a chymunedau gyflawni. Mae hi'n canolbwyntio ar gwneud pethau'n ymarferol ac yn ddealladwy, gan gadw'n glir o jargon a geirfa thechnolegol.
Gweler yma i weld sut mae Busnes Cymru yn trin eich gwybodaeth . Os ydych yn archebu lle ar ddigwyddiad Busnes Cymru neu Lywodraeth Cymru , mae'n bosibl y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a rowch i gynnig gwasanaethau personol neu leol chi , i roi gwybod i chi am newidiadau i'n gwasanaeth , i ofyn eich barn ac i helpu ni i wella ein gwasanaethau .
Mae wefannau y byddwn yn cysylltu â nhw yn debygol o fod gyda Thelerau ac Amodau sy'n wahanol i'n rhai ni . Peidiwch â chymryd yn ganiataol bod ein Telerau ac Amodau yn berthnasol i wefannau eraill.
Busnes Cymru
Sarn Mynach
Llandudno Junction
Conwy
LL31 9RZ
United Kingdom: Wales