Cyflwyniad i Optimeiddio Peiriannau Chwilio [SEO] - CCIF (Gweminar)
Trosolwg
Cost: Am ddim
Mae gennym amrywiaeth o bynciau i helpu busnesau mae CV-19 wedi effeithio arnynt. Mae'r cwrs ar-lein hwn yn esbonio sut i sicrhau y gall cwsmeriaid ddod o hyd i chi ar-lein gan fod pawb yn cystadlu am le ar hyn o bryd. Byddwn yn trafod:
- Sut mae peiriannau chwilio’n rhoi safle i’ch gwefan
- Monitro a gwella gweithgareddau SEO
- Nodi geiriau/ymadroddion allweddol ar gyfer eich busnes
- Awgrymiadau ar gyfer mesur/gwella perfformiad
Diolch am alw heibio. A yw’ch busnes yn BBaCh yng Nghymru, sy’n masnachu ar hyn o bryd ac wedi cofrestru gyda Companies House neu CThEM? Os felly, darllenwch ymlaen neu sgroliwch i lawr i archebu lle ar ddigwyddiad yn eich ardal chi:
Beth fyddwn ni'n ei ddarparu?
- Gweithdai busnes am ddim: dysgwch ffyrdd ymarferol o wneud y gorau o offer a thechnolegau ar-lein ar gyfer llwyddiannau cyflym a gwelliannau mawr.
- Cymorth 1:1 wedi’i deilwra: cael sesiwn gyngor un-i-un gydag Ymgynghorydd Busnes Digidol i drafod anghenion eich busnes a chael cynllun wedi’i deilwra.
- Adolygiad gwefan: cael adolygiad o'ch gwefan am ddim i ddod o hyd i feysydd y gallech eu gwella i gynyddu eich amlygrwydd ar-lein ac ymwybyddiaeth cwsmeriaid.
Cofrestrwch ar gyfer y digwyddiad rhad ac am ddim hwn nawr!
Neu cadwch le drwy ffonio 03332 408329.
Dyddiadau a lleoliadau
Termau
Gweler yma i weld sut mae Busnes Cymru yn trin eich gwybodaeth . Os ydych yn archebu lle ar ddigwyddiad Busnes Cymru neu Lywodraeth Cymru , mae'n bosibl y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a rowch i gynnig gwasanaethau personol neu leol chi , i roi gwybod i chi am newidiadau i'n gwasanaeth , i ofyn eich barn ac i helpu ni i wella ein gwasanaethau .
Mae wefannau y byddwn yn cysylltu â nhw yn debygol o fod gyda Thelerau ac Amodau sy'n wahanol i'n rhai ni . Peidiwch â chymryd yn ganiataol bod ein Telerau ac Amodau yn berthnasol i wefannau eraill.
Trefnydd y digwyddiad

Busnes Cymru
Welsh Government
Sarn Mynach
Llandudno Junction
Conwy
LL31 9RZ
United Kingdom