Cyflwyno Cydweithredol: Dysgwch sut y mae Cynnig ar y Cyd yn gweithio yn y Sector Digidol Creadigol

Trosolwg

Cost: Am ddim

Crynodeb

 

Dysgwch sut y gall cyflwyno cydweithredol helpu busnesau creadigol a digidol i gystadlu am gontractau mwy, comisiynau a chyfleoedd ariannu a all fod yn anodd eu sicrhau ar eich pen eich hun. 

 

Beth fydd cynnwys y digwyddiad?

 

Bydd y digwyddiad ymarferol hwn, gan Busnes Cymru, yn ystyried y camau hanfodol y tu ôl i gynnig ar y cyd llwyddiannus. Caiff ei gefnogi gan astudiaethau achos go iawn gan sefydliadau sydd wedi cyflawni prosiectau cydweithredol. Yn cynnwys Stephen Edwards - Cread Cyf, Rob Light -Colab Cymru a rhagor.

 

Cewch glywed am gyfleoedd sydd ar ddod gan y BBC ac S4C, wrth ennill rhagor o hyder o ran meithrin consortiwm, rolau partneriaid arweiniol, prisio, risg, eiddo deallusol a chyfrifoldebau cyflawni. 

 

Cewch hefyd gwrdd â chyflenwyr lleol, gweithwyr llawrydd a phartneriaid posibl, gan nodi sgiliau ategol a dechrau meithrin partneriaethau cryfach, y gellir eu hailadrodd a llwybrau i'r farchnad drwy rwydweithio pwrpasol.

 

Ar gyfer pwy mae'r digwyddiad?

 

Mae’r digwyddiad wedi’i anelu at fusnesau a gweithwyr llawrydd sy’n gweithio ym meysydd:


•    Teledu, ffilm a darlledu

•    Cynhyrchu fideo a sain

•    Cyfryngau digidol a chreu cynnwys

•    Animeiddio, gemau a thechnoleg ymdrochol

•    Dylunio graffeg, brandio a hysbysebu

•    Datblygu’r we, meddalwedd a datrysiadau digidol

•    Ffotograffiaeth a’r celfyddydau gweledol

•    Marchnata, cyfathrebu a chysylltiadau cyhoeddus

•    Cynhyrchu creadigol drwy gyfrwng y Gymraeg

 

Pwysig: Mae'r digwyddiad hwn ar gyfer busnesau bach a chanolig yng Nghymru ac mae'n gyfyngedig i ddau gynrychiolydd fesul busnes.

 

Dyddiadau a lleoliadau

Amodau arbennig

Mae Busnes Cymru yn wasanaeth dwyieithog ac mae ein digwyddiadau a'n gweithdai ar gael yn y Gymraeg a'r Saesneg, ar ôl cofrestru, rhowch wybod i ni beth yw eich dewisiadau iaith.

Termau

Gweler yma i weld sut mae Busnes Cymru yn trin eich gwybodaeth . Os ydych yn archebu lle ar ddigwyddiad Busnes Cymru neu Lywodraeth Cymru , mae'n bosibl y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a rowch i gynnig gwasanaethau personol neu leol chi , i roi gwybod i chi am newidiadau i'n gwasanaeth , i ofyn eich barn ac i helpu ni i wella ein gwasanaethau .

Mae wefannau y byddwn yn cysylltu â nhw yn debygol o fod gyda Thelerau ac Amodau sy'n wahanol i'n rhai ni . Peidiwch â chymryd yn ganiataol bod ein Telerau ac Amodau yn berthnasol i wefannau eraill.

Bydd y wybodaeth a ddarparwch fel rhan o'r archeb yn cael ei chadw am hyd at 7 diwrnod ar ôl i'r digwyddiad ddod i ben.

Gwybodaeth Ychwanegol

Trefnydd y digwyddiad

Busnes Cymru
Sarn Mynach
Llandudno Junction
Conwy
LL31 9RZ
United Kingdom: Wales


03000 6 03000
E-bost | Gwefan