Cyflymu Cymru i Fusnesau - Cyfres Gweminar
Trosolwg
Cost: Am ddim
Mae gennym ni amrywiaeth o weminrau am ddimi fusnesau mae Covid-19 yn effeithio arnyn nhw. Bydd y rhain yn eich helpu chi i wneud elfennau digidol yn rhan greiddiol o’ch busnes er mwyn sicrhau bod eich cwsmeriaid yn gallu dod o hyd i chi yn y byd ar-lein sy’n mynd yn fwyfwy cystadleuol.
P’un ai a ydych chi’n gobeithio mynd ar-lein i greu safle ‘busnes fel arfer’ newydd neu gynnal eich brand yn lleol ar gyfer pan fydd pethau’n mynd yn ôl i drefn, mae gennym ni gyrsiau sy’n addas ar gyfer busnesau o bob gallu sydd â phob math o anghenion.
- Gweithio'n Gallach, Gweithio'n Fwy Diogel - Lefel Sylfaenol: y triciau a'r offer ar-lein i chi a fydd yn eich helpu i wneud mwy gyda llai
- Gweithio'n Gallach, Gweithio'n Fwy Diogel - Lefel Uwch: offer ar-lein sydd ar gael i'ch helpu i arbed amser, trosoli adnoddau a meithrin cydnerthedd
- Cadw’n Ddiogel Ar-lein: ffyrdd hawdd o warchod eich hun rhag seiberdroseddwyr
- Y Swyddfa Ar-lein Microsoft 365: Darganfod triciau digidol sy’n eich galluogi i weithio ac i gadw’n ddiogel ar yr un pryd
- Cyfryngau Cymdeithasol – Lefel Sylfaenol: codi’ch proffil, ac ymgysylltu â’ch cymuned leol
- Cyfryngau Cymdeithasol – Lefel Uwch: arallgyfeirio'ch busnes er mwyn creu math newydd o ‘fusnes fel arfer’
- Darparu Cyrsiau Ar-lein a Gwasanaethau Rhithwir: darparu'ch gwasanaeth wyneb yn wyneb o bell
- Marchnata Digidol – Lefel Sylfaenol: triciau SEO i helpu cwsmeriaid posib i ddod o hyd i chi ar-lein
- Sicrhau Bod Pobl Yn Gallu Dod O Hyd I Chi Ar-Lein: ennyn teyrngarwch cwsmeriaid a sicrhau eu bod yn dod yn ôl atoch
- Gwefannau: sicrhau bod gennych chi wefan broffesiynol sy’n denu cwsmeriaid newydd
- Gwerthu Ar-lein (E-Fasnach) Lefel Sylfaenol: gyfrinachau gwerthu drwy eich gwefan a’r cyfryngau cymdeithasol
- Gwerthu Ar-lein (E-Fasnach) - Lefel Uwch: mynd â'ch busnes E-Fasnach i'r lefel nesaf
- Marchnata Digidol – Lefel Uwch: strategaethau fforddiadwy i ddenu cwsmeriaid a gwerthiannau
Dyddiadau a lleoliadau
Termau
Gweler yma i weld sut mae Busnes Cymru yn trin eich gwybodaeth . Os ydych yn archebu lle ar ddigwyddiad Busnes Cymru neu Lywodraeth Cymru , mae'n bosibl y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a rowch i gynnig gwasanaethau personol neu leol chi , i roi gwybod i chi am newidiadau i'n gwasanaeth , i ofyn eich barn ac i helpu ni i wella ein gwasanaethau .
Mae wefannau y byddwn yn cysylltu â nhw yn debygol o fod gyda Thelerau ac Amodau sy'n wahanol i'n rhai ni . Peidiwch â chymryd yn ganiataol bod ein Telerau ac Amodau yn berthnasol i wefannau eraill.
Trefnydd y digwyddiad

Busnes Cymru
Welsh Government
Sarn Mynach
Llandudno Junction
Conwy
LL31 9RZ
United Kingdom