Cyflymu Cymru i Fusnesau – Gwerthwch Fwy Drwy Ddefnyddio'r Cyfryngau Cymdeithasol
Trosolwg
Cost: Am ddim
Mae 90% o fusnesau yn codi ymwybyddiaeth brand gyda’r cyfryngau cymdeithasol. Mae’n ffordd hawdd iawn i godi’ch proffil, denu cwsmeriaid newydd ac ennill busnes newydd. Dangoswn i chi sut i fanteisio ar y cyfryngau cymdeithasol yn ein gweithdy a ariennir yn llawn.
Byddwch chi’n dysgu:
- Sut i ysgrifennu postiadau mwy dengar
- Sut i greu strategaeth cyfryngau cymdeithasol llwyddiannus i ennill busnes
- Awgrymiadau i ddysgu pa ddulliau sy’n gweithio a pha rai nad ydynt yn gweithio
- Llwyfannau cyfryngau cymdeithasol yn gynnwys Facebook, Twitter, Instagram, Pinterest, a LinkedIn
- Defnyddio byrddau cyfryngau cymdeithasol fel Hootsuite a Buffer
Diolch am alw heibio. A yw’ch busnes yn BBaCh yng Nghymru, sy’n masnachu ar hyn o bryd ac wedi cofrestru gyda Companies House neu CThEM? Os felly, darllenwch ymlaen neu sgroliwch i lawr i archebu lle ar ddigwyddiad yn eich ardal chi:
Beth fyddwn ni'n ei ddarparu?
- Gweithdai busnes am ddim: dysgwch ffyrdd ymarferol o wneud y gorau o offer a thechnolegau ar-lein ar gyfer llwyddiannau cyflym a gwelliannau mawr.
- Cymorth 1:1 wedi’i deilwra: cael sesiwn gyngor un-i-un gydag Ymgynghorydd Busnes Digidol i drafod anghenion eich busnes a chael cynllun wedi’i deilwra.
- Adolygiad gwefan: cael adolygiad o'ch gwefan am ddim i ddod o hyd i feysydd y gallech eu gwella i gynyddu eich amlygrwydd ar-lein ac ymwybyddiaeth cwsmeriaid.
Cofrestrwch ar gyfer y digwyddiad rhad ac am ddim hwn nawr!
Neu cadwch le drwy ffonio 03332 408329.
Dyddiadau a lleoliadau
Amodau arbennig
Ydych chi'n gymwys i dderbyn ein cymorth? Gallwch wirio yma neu gadarnhau ar 03332 408329 neu superfast@businesswales.org.uk
Beth fydd angen i chi ei wybod?
Rydyn ni awyddus cael cymaint o gwmnïau â phosibl yng Nghymru i ddysgu sut y gall technoleg ar-lein eu helpu i gryfhau eu busnes. Felly, mae angen inni fod yn deg a chyfyngu ar nifer y digwyddiadau Cyflymu Cymru i Fusnesau y gallwch chi ac un cydweithiwr arall mynychu i un. Peidiwch â phoeni os oes ystod o bynciau yr hoffech wybod amdanynt gan y bydd eich cynghorydd busnes yn gallu ymdrin â'r rhain. Unwaith y byddwch chi wedi cofrestru'ch diddordeb, bydd Ymgynghorydd Ar-lein yn eich ffonio i gadarnhau eich lle yn y digwyddiad.
Os nad ydych chi’n masnachu ar hyn o bryd neu'n methu â bodloni lefel meini prawf y gwasanaeth, mae croeso i chi ddarllen ein hastudiaethau achos, canllawiau; neu beth am ddefnyddio ein dulliau e-ddysgu yma neu ewch i Busnes Cymru i archwilio cymorth arall allai fod ar gael i chi.
Termau
Gweler yma i weld sut mae Busnes Cymru yn trin eich gwybodaeth . Os ydych yn archebu lle ar ddigwyddiad Busnes Cymru neu Lywodraeth Cymru , mae'n bosibl y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a rowch i gynnig gwasanaethau personol neu leol chi , i roi gwybod i chi am newidiadau i'n gwasanaeth , i ofyn eich barn ac i helpu ni i wella ein gwasanaethau .
Mae wefannau y byddwn yn cysylltu â nhw yn debygol o fod gyda Thelerau ac Amodau sy'n wahanol i'n rhai ni . Peidiwch â chymryd yn ganiataol bod ein Telerau ac Amodau yn berthnasol i wefannau eraill.
Trefnydd y digwyddiad

Busnes Cymru
Welsh Government
Sarn Mynach
Llandudno Junction
Conwy
LL31 9RZ
United Kingdom