[ Neidio i Gynnwys ]

Cymorth Lleihau Carbon ar gyfer busnesau bach a chanolig a leolir yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

Bydd y sesiwn hwn yn cael ei gyflwyno yn Saesneg

Trosolwg

Cost: Am ddim

Mae Busnes Cymru, Clymblaid Hinsawdd Busnes De-ddwyrain Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn edrych ymlaen at gyflwyno'r gweithdy lleihau carbon hwn ar gyfer busnesau a leolir yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.

 

Bydd y gweithdy hwn wedi'i rannu'n dair rhan, gyda phob un yn canolbwyntio ar y canlynol:

  • Rhwydweithio a chyfle i drafod materion datgarboneiddio penodol yn eich ardal leol
  • Sut i Gyfathrebu eich Gweithredoedd Datgarboneiddio yn Llwyddiannus
  • Cyfrifiadau Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr a Chynlluniau Lleihau Carbon

Drwy fynychu'r gweithdy hwn, byddwch yn:

  • Canfod yr amrywiaeth o gymorth sydd ar gael gan Busnes  Cymru, Clymblaid Hinsawdd De-ddwyrain Cymru a'ch awdurdod lleol i'ch cynorthwyo chi ar eich taith i leihau carbon.
  • Cael mewnwelediadau ymarferol ar gyfathrebu eich nodau lleihau carbon yn effeithiol.
  • Datblygu dealltwriaeth gadarn o hanfodion adrodd allyriadau nwyon tŷ gwydr (GHG), yn cynnwys trosolwg o allyriadau Cwmpas 1, 2, a 3, a'r data sydd ei angen i gyfrifo allyriadau'n gywir.
  • Archwilio'r camau ymarferol y gallwch eu rhoi ar waith i leihau eich allyriadau GHG.
  • Dechrau cyfrifo eich allyriadau Cwmpas 1, 2 a 3 a drafftio Cynllun Lleihau Carbon cynhwysfawr.
  • Cofrestrwch ar gyfer Addewid Twf Gwyrdd Busnes Cymru

Mae'r gweithdy hwn ar gyfer busnesau bach a chanolig (o bob sector) a leolir yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. 

 

Dyddiadau a lleoliadau

1 Tachwedd 2024, 09:30 - 12:30
Penallta House, Tredomen Business Park, Ystrad Mynach, Hengoed, CF82 7PG, Ystrad Mynach, CF82 7PG

Cost: Am ddim

Gweld lleoliad

Termau

Gweler yma i weld sut mae Busnes Cymru yn trin eich gwybodaeth . Os ydych yn archebu lle ar ddigwyddiad Busnes Cymru neu Lywodraeth Cymru , mae'n bosibl y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a rowch i gynnig gwasanaethau personol neu leol chi , i roi gwybod i chi am newidiadau i'n gwasanaeth , i ofyn eich barn ac i helpu ni i wella ein gwasanaethau .

Mae wefannau y byddwn yn cysylltu â nhw yn debygol o fod gyda Thelerau ac Amodau sy'n wahanol i'n rhai ni . Peidiwch â chymryd yn ganiataol bod ein Telerau ac Amodau yn berthnasol i wefannau eraill.

Gwybodaeth Ychwanegol

Trefnydd y digwyddiad

Busnes Cymru
Sarn Mynach
Llandudno Junction
Conwy
LL31 9RZ
United Kingdom: Wales


01656868500
E-bost | Gwefan