Fordwyaeth
Cost: Am ddim
Bwriad y Cynadleddau i Arweinwyr 14-16 yw darparu cefnogaeth i arweinwyr ysgolion i ddeall dysgu 14-16 yng nghyd-destun y Cwricwlwm i Gymru 3-16, a'i arwyddocâd wrth gefnogi pob dysgwr i drosglwyddo'n effeithiol i ôl-16.
Bydd y digwyddiadau yn cael eu harwain a’u hwyluso gan Lywodraeth Cymru ac yn darparu cyfle i drafod, er enghraifft:
Mae'r digwyddiadau yn agored i bob uwch arweinydd ysgolion uwchradd, ysgolion pob oed, ysgolion arbennig ac unedau cyfeirio disgyblion, a bydd yn rhedeg o 09.00-13.00 gyda cyfleoedd i rwydweithio yn ystod y prynhawn.
Dewiswch pa un o'r digwyddiadau isod yr hoffech fynd iddo.
(*Byddem yn disgwyl i arweinwyr ysgolion fynd i'r digwyddiad yn eu hardal leol ar y diwrnod HMS dynodedig. Fodd bynnag, o dan rai amgylchiadau eithriadol, os na allwch fynd i'r digwyddiad yn ardal eich awdurdod lleol penodol, dewiswch leoliad/dyddiad arall.)
Yn dangos 1 - 10 o 12 Gweld pob
Hysbysiad Preifatrwydd
Llywodraeth Cymru (‘ni’) fydd y rheolydd data ar gyfer yr wybodaeth bersonol y byddwch yn ei darparu i gymryd rhan yn y digwyddiad hwn, ac fe fyddwn yn ei phrosesu i gyflawni ein tasg gyhoeddus yn unol â'r awdurdod swyddogol a roddwyd i ni i weinyddu'r digwyddiad. Byddwn yn cadw'ch data personol am 3 mis ar ôl i’r digwyddiad ddod i ben, ac yna byddwn yn eu dinistrio'n ddiogel.
Er mwyn anfon gwybodaeth atoch am y digwyddiad, byddwn yn casglu manylion personol gan gynnwys enw, cyfeiriad e-bost, teitl swydd, dewis iaith, enw ysgol/lleoliad/sefydliad, cyfeiriad ysgol/lleoliad/sefydliad, rhif ffôn ac Awdurdod Lleol. Byddwn hefyd yn casglu gwybodaeth yn ymwneud â gofynion mynediad neu ddietegol a/neu ofynion eraill i sicrhau bod unrhyw ofynion ychwanegol yn cael eu bodloni yn ystod y digwyddiad.
Er mwyn rhwydweithio yn ystod y digwyddiad, bydd eich enw yn cael ei rannu ag eraill sydd wedi cofrestru i fod yn bresennol. Os byddai'n well gennych i ni beidio â gwneud hyn, rhowch wybod i ni drwy gysylltu â dysgu.14-16.learning@llyw.cymru
O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:
• i gael mynediad at y data personol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cadw amdanoch chi
• i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
• (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data
• (o dan rai amgylchiadau) i’ch data gael eu ‘dileu’
• i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (SCG), ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data
Dyma’r manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth:
Customer Contact
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Swydd Gaer SK9 5AF
Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113
Gwefan: www.ico.gov.uk
I gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau, cysylltwch â:
Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: SwyddogDiogeluData@llyw.cymru
Os oes gennych ragor o gwestiynau am sut y bydd y data a ddarperir gennych yn cael eu defnyddio gan Lywodraeth Cymru fel rhan o’r digwyddiadau hyn, neu os hoffech arfer eich hawliau gan ddefnyddio Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data, cysylltwch â dysgu.14-16.learning@llyw.cymru
Gweler yma i weld sut mae Llywodraeth Cymru yn trin eich gwybodaeth . Os ydych yn archebu lle ar ddigwyddiad Busnes Cymru neu Lywodraeth Cymru , mae'n bosibl y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a rowch i gynnig gwasanaethau personol neu leol chi , i roi gwybod i chi am newidiadau i'n gwasanaeth , i ofyn eich barn ac i helpu ni i wella ein gwasanaethau .
Mae wefannau y byddwn yn cysylltu â nhw yn debygol o fod gyda Thelerau ac Amodau sy'n wahanol i'n rhai ni . Peidiwch â chymryd yn ganiataol bod ein Telerau ac Amodau yn berthnasol i wefannau eraill.
ECWL
Swyddfeydd Llywodraeth Cymru / Welsh Government Offices
Parc Cathays / Cathays Park
Caerdydd / Cardiff
CF10 3NQ
United Kingdom: Wales