Fordwyaeth
Cost: Am ddim
Amrywiol siaradwyr a gweithdai gan sefydliadau sy'n gweithio i ddarparu nwyddau i deuluoedd incwm isel ac i roi arian mewn pocedi, er mwyn dysgu sut it ofalu bod pob cysylltiad yn cyfrif a helpu teuluoedd i gael mynediad at eu hawliau ariannol yn llawn.
Mae lleoedd yn y digwyddiad yn gyfyngedig. Mae'n rhaid i chi gofrestru i sicrhau eich lle. Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru ydi 7 Hydref 2024.
Bydd yr Agenda a gwybodaeth bellach am y Gynhadledd yn cael ei ychwanegu yn agosach i y digwyddiad.
Byddwn yn dyrannu ystafelloedd penodol ar gyfer y sesiynau ymneilltuo ar y dydd.
Mae mwy o fanylion am y Strategaeth Tlodi Plant ar gael yn Strategaeth Tlodi Plant Cymru 2024 | LLYW.CYMRU
Mae'r digwyddiad hwn yn llawn.
Mae cofrestru yn hanfodol.
Llywodraeth Cymru ('ni') fydd y Rheolydd Data ar gyfer y data personol a ddarparwch er mwyn cymryd rhan yn y digwyddiad hwn. Rydym yn gwneud hyn yn unol â'n Tasg Gyhoeddus – mae angen prosesu data er mwyn cyflawni tasg a wneir er budd y cyhoedd neu wrth arfer yr awdurdod swyddogol a roddir i'r rheolydd. Bydd y mathau o ddata a gesglir yn cynnwys:
· New
· Cyfeiriad
· Cyfeiriad e-bost
· Cyfyngiadau dietegol (at ddibenion arlwyo)
· Ymlyniadau (cwmni, sefydliad, aelodaeth)
· Gofynion o safbwynt hygyrchedd
Dim ond at ddibenion y digwyddiad y byddwn yn defnyddio eich data personol. Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu eich preifatrwydd, ac rydym eisiau sicrhau eich bod yn ymwybodol o'r ffordd y gall eich gwybodaeth bersonol gael ei defnyddio.
Byddwn bob amser yn ymdrechu i gasglu cyn lleied o ddata ag sy'n angenrheidiol i gynnal y digwyddiad yn unig.
Byddwn yn casglu gwybodaeth am ofynion dietegol neu hygyrchedd (a ystyrir yn ddata categorïau arbennig o dan Erthygl 9(2)(a)) dim ond pan fo angen hynny i fodloni eich anghenion a chydymffurfio â rhwymedigaethau cyfreithiol. Byddwn yn prosesu'r wybodaeth hon yn ddiogel ac yn gyfrinachol.
Os hoffech inni gysylltu â chi ynglŷn â digwyddiadau yn y dyfodol, byddwn yn cadw eich data personol am flwyddyn. Os na, byddwn yn dileu eich data o fewn tri mis i'r digwyddiad ddod i ben.
Bydd ffotograffau yn cael eu tynnu a fideos yn cael eu recordio yn y digwyddiad ac mae'n bosibl y cânt eu defnyddio at y dibenion canlynol:
· I hyrwyddo'r digwyddiad ar y cyfryngau cymdeithasol, yn ein cylchlythyr ac mewn deunyddiau marchnata eraill.
· I greu cofnod o'r digwyddiad at ddibenion hanesyddol.
Os nad ydych yn dymuno cael eich ffilmio neu i'ch llun gael ei dynnu, cysylltwch â tacklingpovertyandsupportingfamilies@gov.wales o leiaf 24 awr cyn y digwyddiad.
Bydd ardal yn cael ei neilltuo ar gyfer y rhai sydd wedi dweud nad ydynt yn dymuno cael tynnu eu lluniau na'u ffilmio, lle na fydd hynny'n digwydd.
O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl i wneud y canlynol:
· gweld y data personol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cadw amdanoch
· ei gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
· gwrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data (o dan rai amgylchiadau)
· i’ch data gael eu ‘dileu’ (o dan rai amgylchiadau)
· cyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (SCG), ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.
Drwy gofrestru ar gyfer y digwyddiad, rydych yn cytuno y gellir defnyddio'r data personol a gyflwynwch wrth gofrestru fel a ganlyn:
· i gyfathrebu â chi ynglŷn â'r digwyddiad rydych wedi cofrestru ar ei gyfer.
· i'w rhannu â Chanolfan yr URDD, Caerdydd (y lleoliad) at ddibenion iechyd a diogelwch ac i drefnu a chydgysylltu'r digwyddiad.
I gael help gydag unrhyw un o'r hawliau uchod, cysylltwch â tacklingpovertyandsupportingfamilies@gov.wales
Os oes angen gwybodaeth ychwanegol arnoch am eich hawliau ynghylch gwybodaeth neu os oes gennych bryderon am y ffordd y caiff eich gwybodaeth bersonol ei defnyddio, yna cysylltwch â:
Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: SwyddogDiogeluData@llyw.cymru
Os ydych yn anfodlon â'r ffordd rydym wedi defnyddio eich data, mae gennych yr opsiwn i gyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth. Dyma fanylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth:
Customer Contact
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire SK9 5AF
Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113
Gwefan: www.ico.gov.uk
Gweler yma i weld sut mae Llywodraeth Cymru yn trin eich gwybodaeth . Os ydych yn archebu lle ar ddigwyddiad Busnes Cymru neu Lywodraeth Cymru , mae'n bosibl y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a rowch i gynnig gwasanaethau personol neu leol chi , i roi gwybod i chi am newidiadau i'n gwasanaeth , i ofyn eich barn ac i helpu ni i wella ein gwasanaethau .
Mae wefannau y byddwn yn cysylltu â nhw yn debygol o fod gyda Thelerau ac Amodau sy'n wahanol i'n rhai ni . Peidiwch â chymryd yn ganiataol bod ein Telerau ac Amodau yn berthnasol i wefannau eraill.
Llywodraeth Cymru
Swyddfeydd Llywodraeth Cymru / Welsh Government Offices
Parc Cathays / Cathays Park
Caerdydd / Cardiff
CF10 3NQ
United Kingdom