[ Neidio i Gynnwys ]

Cynhadledd Gwrth-Gaethwasiaeth Cymru 2026 (yn bersonol)

Trosolwg

Cost: Am ddim

Mae Caethwasiaeth Fodern yn her fyd-eang, gyda degau o filiynau o bobl ledled y byd yn byw mewn amodau sy'n ddim llai na chaethwasiaeth fodern, gan gynnwys llafur gorfodol a phriodasau dan orfod.

Ac mae'n digwydd yma yng Nghymru. Yn 2025, nodwyd mwy na 500 o ddioddefwyr posibl caethwasiaeth fodern gan Ymatebwyr Cyntaf.

Mae Cynhadledd Gwrthgaethwasiaeth Cymru wedi dod yn ddigwyddiad blynyddol pwysig sy'n dod â phartneriaid a sefydliadau ynghyd i rwydweithio a rhannu dysgu a phrofiadau mewn ymateb i gaethwasiaeth fodern. Bydd y gynhadledd eleni yn cael ei chynnal ar 15 Hydref 2026.

Wedi'i gynnal ar y cyd gan Lywodraeth Cymru, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent a Phrifysgol De Cymru. Bydd yn digwydd ar gampws Casnewydd y Brifysgol ac ar gael ar-lein ar yr un pryd.

Bydd y gynhadledd yn gyfle i glywed gan ymarferwyr ac arbenigwyr rheng flaen a rhyngweithio â nhw, yn ogystal â siaradwyr proffil uchel gan gynnwys:

  • Sioned Williams AS, y Dirprwy Brif Weinidog a Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb
  • Jane Mudd, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent 
  • Eleanor Lyons, Comisiynydd Gwrthgaethwasiaeth Annibynnol


Gallwch ddewis ymuno â'r gynhadledd naill ai ar-lein drwy Microsoft Teams neu drwy fynychu'n bersonol yng nghampws Prifysgol De Cymru yng Nghasnewydd. Mae tocynnau personol cyfyngedig ar gael – ac felly fe'ch anogir i archebu'n gynnar.

Bydd y gynhadledd o ddiddordeb i ystod eang o bobl a sefydliadau ar draws y sector cyhoeddus, y sector preifat neu'r trydydd sector yng Nghymru. Eleni rydym yn canolbwyntio ar rôl technoleg wrth gamfanteisio ar blant, ac ar gamfanteisio sy'n gysylltiedig â thai, ac felly byddem yn annog ymarferwyr sy'n gweithio yn y sectorau tai a llywodraeth leol i ymuno â ni. Rydym hefyd yn awyddus i wahodd cyfranogiad gan y rhai sydd â phrofiad bywyd o gamfanteisio.

Cysylltwch â fairwork@gov.wales am ragor o wybodaeth ac os oes gennych unrhyw ymholiadau.

Dyddiadau a lleoliadau

15 Hydref 2026, 09:00 - 15:30
Prifysgol De Cymru, Cwmpas Casnewydd, Newport, NP20 2BP

Cost: Am ddim

Gweld lleoliad

Amodau arbennig

Hysbysiad Preifatrwydd ar gyfer Cynhadledd Gwrthgaethwasiaeth Cymru 2026 Llywodraeth Cymru

 

Yn unol â Rheoliadau Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU) mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn ymdrin â sut y bydd Llywodraeth Cymru yn casglu ac yn defnyddio eich gwybodaeth. Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn sicrhau y bydd eich data personol yn cael eu prosesu mewn modd teg, cyfreithlon a thryloyw.

Drwy gofrestru ar gyfer y digwyddiad, rydych yn cytuno y gellir defnyddio'r data personol a gyflwynwch wrth gofrestru at y dibenion canlynol:

·       Cysylltu â chi ynglŷn â'r digwyddiad

·       Anfon dogfennau adnoddau atoch

·       Anfon holiadur ar gyfer y digwyddiad

·       Anfon gwahoddiadau atoch yn y dyfodol mewn perthynas â'r drafodaeth hon

·       Anfon gwybodaeth ddilynol am y digwyddiad

 

Os nad ydych chi am inni gysylltu â chi yn y dyfodol, rhowch wybod trwy e-bostio GwaithTeg@llyw.cymru.

 

Sail gyfreithlon ar gyfer prosesu

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer y data personol a roddwch i gymryd rhan yn y digwyddiad hwn. Byddwn ni'n prosesu'r wybodaeth fel rhan o'n tasg gyhoeddus a'r awdurdod swyddogol a freiniwyd ynom i gyflawni rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru.

 

Pa ddata personol y byddwn yn eu casglu a'u prosesu

Diffinnir data personol o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU) fel unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â pherson y gellir ei defnyddio i adnabod y person hwnnw yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, drwy gyfeirio at ddull adnabod. 

I anfon gwybodaeth atoch am y digwyddiad, byddwn yn casglu data personol gan gynnwys:

  • ·       Enw
  • ·       Cyfeiriad e-bost
  • ·       Enw’r sefydliad
  • ·       Dewis iaith (Cymraeg neu Saesneg)

 

Efallai y byddwn ni'n casglu 'data categori arbennig' hefyd i sicrhau ein bod yn darparu ar gyfer unrhyw ofynion ychwanegol yn ystod y digwyddiad: Mae'r wybodaeth a roddir yn ddewisol, yn cael ei phrosesu trwy ganiatâd ac yn cael ei dileu ar ôl y digwyddiad.

  • ·    Gofynion hygyrchedd
  • ·    Gofynion deietegol

 

Er mwyn rhwydweithio yn ystod y digwyddiad, bydd eich enw yn cael ei rannu â phobl eraill sydd wedi cofrestru ar gyfer y digwyddiad. Os hoffech i ni beidio â gwneud hyn, e-bostiwch GwaithTeg@llyw.cymru.

Yn ystod y digwyddiad, byddwn yn casglu adborth a'ch barn am y pynciau a drafodir. Ni fydd unrhyw wybodaeth bersonol yn cael ei chofnodi ar gyfer unrhyw farn neu adborth llafar a roddwch. Byddwn yn defnyddio'r sgwrs ar Microsoft Teams i gasglu adborth a barn yn ddigidol. Nid oes angen i chi ddarparu gwybodaeth bersonol i ddefnyddio Microsoft Teams, ond os byddwch chi'n dewis darparu gwybodaeth bersonol i ymuno â'r sesiwn, bydd yn cael ei phrosesu yn unol â’n polisi preifatrwydd a thelerau polisi preifatrwydd Microsoft Teams sydd ar gael trwy Data collection summary for Teams.

Byddwn yn defnyddio SmartSurvey i gasglu eich adborth ar y gynhadledd, yn ddienw, ond ni fydd unrhyw ddata personol yn cael eu casglu.

 

Pwy fydd yn cael gweld eich data

Bydd yr wybodaeth a gesglir ar gael i staff perthnasol Llywodraeth Cymru, Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent a Phrifysgol De Cymru.   

 

Am ba hyd y cedwir eich manylion

Bydd eich manylion personol yn cael eu cadw ar systemau TG diogel Llywodraeth Cymru am hyd at 6 mis ar ôl y digwyddiad er mwyn cysylltu â chi am ddigwyddiadau Caethwasiaeth Fodern yn y dyfodol neu i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am Gaethwasiaeth Fodern. Yna bydd eich gwybodaeth yn cael ei dileu.

 

Eich hawliau unigol

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

·   i wybod am y data personol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cadw amdanoch, a’u gweld

·   i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny

·   i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data (o dan rai amgylchiadau)

·   i ofyn (o dan rai amgylchiadau) inni 'ddileu' eich data

·   i gludadwyedd data (mewn rhai amgylchiadau)

·   i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

 

Os bydd gennych unrhyw gwestiynau ynghylch yr hysbysiad preifatrwydd hwn cysylltwch â GwaithTeg@llyw.cymru.

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data, cysylltwch â:

Swyddog Diogelu Data

Llywodraeth Cymru

Parc Cathays

Caerdydd

CF10 3NQ

E-bost : Swyddogdiogeludata@llyw.cymru

 

Dyma fanylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth:

Cyswllt Cwsmeriaid

Wycliffe House

Water Lane

Wilmslow

Cheshire

SK9 5AF

Rhif Ffôn: 0303 123 1113

Gwefan: www.ico.org.uk

Termau

Gweler yma i weld sut mae Llywodraeth Cymru yn trin eich gwybodaeth . Os ydych yn archebu lle ar ddigwyddiad Busnes Cymru neu Lywodraeth Cymru , mae'n bosibl y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a rowch i gynnig gwasanaethau personol neu leol chi , i roi gwybod i chi am newidiadau i'n gwasanaeth , i ofyn eich barn ac i helpu ni i wella ein gwasanaethau .

Mae wefannau y byddwn yn cysylltu â nhw yn debygol o fod gyda Thelerau ac Amodau sy'n wahanol i'n rhai ni . Peidiwch â chymryd yn ganiataol bod ein Telerau ac Amodau yn berthnasol i wefannau eraill.

Bydd y wybodaeth a ddarparwch fel rhan o'r archeb yn cael ei chadw am hyd at 7 diwrnod ar ôl i'r digwyddiad ddod i ben.

Trefnydd y digwyddiad

ECE
Swyddfeydd Llywodraeth Cymru / Welsh Government Offices
Parc Cathays / Cathays Park
Caerdydd / Cardiff
CF10 3NQ
United Kingdom: Wales


03000 6 03000
E-bost | Gwefan