Fordwyaeth
Cost: Am ddim
Mae caethwasiaeth fodern yn her fyd-eang, ond gall pob un ohonom wneud ein rhan i fynd i'r afael â'r drosedd echrydus hon a'i hatal. Dyma eich cyfle i fod yn rhan o'r ateb drwy ddod i gynhadledd Gwrthgaethwasiaeth Cymru 2025.
Mae Gwrthgaethwasiaeth Cymru yn ddigwyddiad blynyddol sy'n dod â phartneriaid a sefydliadau ynghyd i rwydweithio a rhannu eu dysgu a’u profiadau. Yn ogystal, mae eleni yn nodi 10 mlynedd ers y Ddeddf Caethwasiaeth Fodern. Cynhelir y gynhadledd eleni ar 16 Hydref 2025.
Caiff cynhadledd Gwrthgaethwasiaeth Cymru ei chynnal mewn partneriaeth rhwng Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu’r Gogledd a Llywodraeth Cymru, yng Nghanolfan Fusnes Conwy. Am y tair blynedd diwethaf, mae Swyddfa’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu wedi cynnal cynhadledd lwyddiannus iawn Pawb yn Un o gwmpas yr un dyddiad ac yn yr un lleoliad. Bydd digwyddiad Gwrthgaethwasiaeth Cymru eleni yn parhau â thema Pawb yn Un wrth geisio ymateb amlasiantaethol i gwestiwn enfawr sy’n effeithio ar Gymru a sut y gall gwahanol randdeiliaid ddod at ei gilydd i fynd i’r afael â chaethwasiaeth fodern yn ein gwlad.
Bydd y cynhadledd yn rhoi cyfle i gynrychiolwyr glywed gan siaradwyr arbenigol, gan gynnwys:
Bydd y gynhadledd o ddiddordeb i ystod eang o bobl a sefydliadau ar draws y sector cyhoeddus, y sector preifat neu'r trydydd sector yng Nghymru. Rydym yn croesawu ac yn annog cyfranogiad gan y rhai sydd â phrofiad personol o gamfanteisio.
Gallwch ymuno â'r gynhadledd wyneb yn wyneb yng Nghanolfan Fusnes Conwy neu ymuno ar-lein trwy Microsoft Teams. Nifer gyfyngedig o docynnau wyneb yn wyneb sydd ar gael, ac felly fe'ch anogir i archebu'n gynnar.
Hysbysiad Preifatrwydd ar gyfer Cynhadledd Gwrthgaethwasiaeth Cymru 2025 Llywodraeth Cymru
Yn unol â Rheoliadau Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU) mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn ymdrin â sut y bydd Llywodraeth Cymru yn casglu ac yn defnyddio eich gwybodaeth. Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn sicrhau y bydd eich data personol yn cael eu prosesu mewn modd teg, cyfreithlon a thryloyw.
Drwy gofrestru ar gyfer y digwyddiad, rydych yn cytuno y gellir defnyddio'r data personol a gyflwynwch wrth gofrestru at y dibenion canlynol:
Os nad ydych chi am inni gysylltu â chi yn y dyfodol, rhowch wybod trwy e-bostio GwaithTeg@llyw.cymru.
Sail gyfreithlon ar gyfer prosesu
Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer y data personol a roddwch i gymryd rhan yn y digwyddiad hwn. Byddwn ni'n prosesu'r wybodaeth fel rhan o'n tasg gyhoeddus a'r awdurdod swyddogol a freiniwyd ynom i gyflawni rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru.
Pa ddata personol y byddwn yn eu casglu a'u prosesu
Diffinnir data personol o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU) fel unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â pherson y gellir ei defnyddio i adnabod y person hwnnw yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, drwy gyfeirio at ddull adnabod.
I anfon gwybodaeth atoch am y digwyddiad, byddwn yn casglu data personol gan gynnwys:
Efallai y byddwn ni'n casglu 'data categori arbennig' hefyd i sicrhau ein bod yn darparu ar gyfer unrhyw ofynion ychwanegol yn ystod y digwyddiad: Mae'r wybodaeth a roddir yn ddewisol, yn cael ei phrosesu trwy ganiatâd ac yn cael ei dileu ar ôl y digwyddiad.
Er mwyn rhwydweithio yn ystod y digwyddiad, bydd eich enw yn cael ei rannu â phobl eraill sydd wedi cofrestru ar gyfer y digwyddiad. Os hoffech i ni beidio â gwneud hyn, e-bostiwch GwaithTeg@llyw.cymru.
Yn ystod y digwyddiad, byddwn yn casglu adborth a'ch barn am y pynciau a drafodir. Ni fydd unrhyw wybodaeth bersonol yn cael ei chofnodi ar gyfer unrhyw farn neu adborth llafar a roddwch. Byddwn yn defnyddio'r sgwrs ar Microsoft Teams i gasglu adborth a barn yn ddigidol. Nid oes angen i chi ddarparu gwybodaeth bersonol i ddefnyddio Microsoft Teams, ond os byddwch chi'n dewis darparu gwybodaeth bersonol i ymuno â'r sesiwn, bydd yn cael ei phrosesu yn unol â’n polisi preifatrwydd a thelerau polisi preifatrwydd Microsoft Teams sydd ar gael trwy Data collection summary for Teams.
Byddwn yn defnyddio SmartSurvey i gasglu eich adborth ar y gynhadledd, yn ddienw, ond ni fydd unrhyw ddata personol yn cael eu casglu.
Pwy fydd yn cael gweld eich data
Bydd yr wybodaeth a gesglir ar gael i staff perthnasol Llywodraeth Cymru, Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gogledd Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a gweinyddwyr technegol North Wales Sound & Lighting a Llywodraeth Cymru sy'n cefnogi'r system TG. Ni fydd y gweinyddwyr technegol yn defnyddio'ch manylion mewn unrhyw ffordd.
Am ba hyd y cedwir eich manylion
Bydd eich manylion personol yn cael eu cadw ar systemau TG diogel Llywodraeth Cymru am hyd at 6 mis ar ôl y digwyddiad er mwyn cysylltu â chi am ddigwyddiadau Caethwasiaeth Fodern yn y dyfodol neu i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am Gaethwasiaeth Fodern. Yna bydd eich gwybodaeth yn cael ei dileu.
Eich hawliau unigol
O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:
Os bydd gennych unrhyw gwestiynau ynghylch yr hysbysiad preifatrwydd hwn cysylltwch â GwaithTeg@llyw.cymru.
I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data, cysylltwch â:
Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost : Swyddogdiogeludata@llyw.cymru
Dyma fanylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth:
Cyswllt Cwsmeriaid
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF
Rhif Ffôn: 0303 123 1113
Gwefan: www.ico.org.uk
Gweler yma i weld sut mae Llywodraeth Cymru yn trin eich gwybodaeth . Os ydych yn archebu lle ar ddigwyddiad Busnes Cymru neu Lywodraeth Cymru , mae'n bosibl y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a rowch i gynnig gwasanaethau personol neu leol chi , i roi gwybod i chi am newidiadau i'n gwasanaeth , i ofyn eich barn ac i helpu ni i wella ein gwasanaethau .
Mae wefannau y byddwn yn cysylltu â nhw yn debygol o fod gyda Thelerau ac Amodau sy'n wahanol i'n rhai ni . Peidiwch â chymryd yn ganiataol bod ein Telerau ac Amodau yn berthnasol i wefannau eraill.
EET
Swyddfeydd Llywodraeth Cymru / Welsh Government Offices
Parc Cathays / Cathays Park
Caerdydd / Cardiff
CF10 3NQ
United Kingdom: Wales