[ Neidio i Gynnwys ]

Cynhadledd Ystadau Cymru 2024 - 'Rheoli risg ar draws yr ystad gyhoeddus'

Bydd y sesiwn hwn yn cael ei gyflwyno yn Saesneg

Trosolwg

Cost: Am ddim

Mae Cynhadledd Ystadau Cymru 2024 yn annog rhagoriaeth o ran rheoli ystadau sector cyhoeddus Cymru yn strategol drwy hyrwyddo cydweithio ac arferion da.

Eleni, ein thema fydd "Rheoli risg ar draws yr ystad gyhoeddus"

Bydd y gynhadledd yn dathlu prosiectau cydweithredol eithriadol a bydd Gwobrau Ystadau Cymru 2024 yn cael eu cyflwyno.

Bydd agenda lawn yn cael ei rhyddhau'n agosach at yr amser a bydd yn cynnwys amrywiaeth o gyflwyniadau, gan gynnwys:

·       Sesiynau astudiaeth achos.

·       Diogelwch Adeiladau

·       Newid yn yr hinsawdd, datgarboneiddio ac addasu.

·       Risgiau adnoddau corfforaethol.

Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal trwy Microsoft Teams a bydd yn cynnwys sesiynau cyflwyno yn y bore a'r gwobrau yn gynnar yn y prynhawn. Bydd dolen ar gyfer y cyfarfod yn cael ei hanfon yn nes at yr amser.

Dyddiadau

28 Tachwedd 2024, 10:00 - 14:00
Digwyddiad ar-lein

Cost: Am ddim

Mae'r digwyddiad ar-lein hwn ar gyfer y rhai sy'n ymwneud naill ai'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol â rheoli asedau yn y sector cyhoeddus. Bydd y gynhadledd yn archwilio risg mewn perthynas â diogelwch adeiladau, datgarboneiddio a llai o adnoddau.  Mae'n gyfle i rannu arferion gorau, dathlu ein cyflawniadau ac archwilio ffyrdd gwahanol o weithio. Byddai partneriaid yn y sector gwirfoddol a'r trydydd sector hefyd yn elwa o'r digwyddiad hwn.

Amodau arbennig

Hysbysiad Preifatrwydd – Cynhadledd Ystadau Cymru 2024

 

Cefndir

 

Mae Ystadau Cymru yn rhan o Is-adran Tir Llywodraeth Cymru ac  mae'n rhoi'r cyfle ar gyfer cydweithio, rhwydwaith i rannu syniadau, profiadau, arferion da a mynediad at gyfarfodydd a digwyddiadau.

 

Rheolydd data 

 

 

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperir gennych er mwyn cymryd rhan yn y digwyddiad hwn. Byddwn yn prosesu'r data fel rhan o'n tasg gyhoeddus ac o dan yr awdurdod swyddogol a roddwyd i ni.

Y sail gyfreithlon dros gasglu'r wybodaeth hon o dan Erthygl 6(1) o Reoliadau Diogelu Data Cyffredinol y DU yw Erthygl 6(1)(e) – tasg er budd y cyhoedd.

 

Beth ydyn ni'n ei wneud gyda'ch gwybodaeth?

Byddwn yn gofyn am yr wybodaeth ganlynol fel y gall cynrychiolwyr gofrestru ar gyfer y digwyddiad. Bydd y mathau o ddata personol a gesglir ar y ffurflen gofrestru yn cynnwys:

  • Eich enw
  • Teitl eich swydd
  • Eich sefydliad
  • Eich cyfeiriad e-bost gwaith
  • Gofynion hygyrchedd

Byddwn yn cyfathrebu drwy e-bost unrhyw wybodaeth mewn perthynas â'r digwyddiad ac i ddosbarthu holiadur adborth ar ôl y digwyddiad. Bydd unrhyw adborth a roddir yn cael ei anonymeiddio.

 phwy ydyn ni'n rhannu'ch gwybodaeth?

Dim ond aelodau o staff awdurdodedig yn nhîm Ystadau Cymru Llywodraeth Cymru sy'n cael mynediad at yr wybodaeth a gedwir.

 

Caiff unrhyw wybodaeth a ddarperir ei storio mewn man gwarchodedig yn iShare (system fewnol ar gyfer rheoli dogfennau) sydd ond yn cael ei defnyddio gan staff awdurdodedig.

 

Am ba hyd y byddwn yn cadw'r wybodaeth?

Dim ond at ddibenion cynnal y digwyddiad y byddwn yn defnyddio eich data personol.

Eich hawliau mewn perthynas â'ch gwybodaeth

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych chi'r hawl:

  • i wybod am y data personol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cadw amdanoch, a’u gweld
  • i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
  • (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu prosesu neu gyfyngu ar brosesu
  • i’ch data gael eu ‘dileu’ (o dan rai amgylchiadau)
  • (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

Cysylltu

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac yn ei defnyddio, neu os hoffech arfer eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, cysylltwch â:

Y Swyddog Diogelu Data

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD
CF10 3NQ

E-bost:   Swyddogdiogeludata@llyw.cymru

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg / We welcome correspondence in Welsh.

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Rhif ffôn:  0303 123 1113

 

Termau

Gweler yma i weld sut mae Llywodraeth Cymru yn trin eich gwybodaeth . Os ydych yn archebu lle ar ddigwyddiad Busnes Cymru neu Lywodraeth Cymru , mae'n bosibl y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a rowch i gynnig gwasanaethau personol neu leol chi , i roi gwybod i chi am newidiadau i'n gwasanaeth , i ofyn eich barn ac i helpu ni i wella ein gwasanaethau .

Mae wefannau y byddwn yn cysylltu â nhw yn debygol o fod gyda Thelerau ac Amodau sy'n wahanol i'n rhai ni . Peidiwch â chymryd yn ganiataol bod ein Telerau ac Amodau yn berthnasol i wefannau eraill.

Trefnydd y digwyddiad

LGHCCRA
Swyddfeydd Llywodraeth Cymru / Welsh Government Offices
Parc Cathays / Cathays Park
Caerdydd / Cardiff
CF10 3NQ
United Kingdom: Wales


03000 6 03000
E-bost | Gwefan