Fordwyaeth
Cost: Am ddim
Mae’r Cynllun Adnoddau Naturiol Integredig yn gynllun cydweithredol sy’n galluogi ffermwyr, coedwigwyr, rheolwyr tir ac eraill i gydweithio ar lefel tirwedd, dalgylch neu Gymru Gyfan. Bydd yr INRS yn rhoi atebion yn seiliedig ar natur ar waith ar y raddfa briodol, gan dargedu camau gweithredu ac ymyriadau i wella a rheoli ein hadnoddau naturiol yn gynaliadwy.
Gallai hyn fod trwy wella ein priddoedd carbon-gyfoethog fel mawndiroedd, creu coetir a’i reoli, gweithredu rheolaeth naturiol ar berygl llifogydd, gwella mynediad ac ymgysylltiad cyhoeddus, gwarchod nodweddion tirwedd a hanesyddol. Cyflawni camau gweithredu i wella cynefinoedd â blaenoriaeth a chynefinoedd lled-naturiol, gwella cysylltedd, maint, gallu i addasu, neu amrywiaeth cynefinoedd lled-naturiol a’n nodweddion naturiol neu gryfhau cydnerthedd rhwydwaith Cymru o safleoedd gwarchodedig drwy weithio ar raddfa tirwedd i wella cysylltedd a chyflwr.
Cynllun trosiannol yw INRS a gynlluniwyd i helpu cyfranogwyr i ddatblygu ffyrdd newydd o weithio ar eu taith i Gynllun Ffermio Cynaliadwy y dyfodol.
Bydd y ffenest yn agor ar gyfer ceisiadau dydd Iau 22 Awst ar gyfer y cyfnod datblygu. Mae’r weminar hon yn rhoi’r cyfle i fynychwyr gwrdd â rheolwyr y cynllun, dysgu mwy am y cynllun a gofyn cwestiynau.
Bydd y weminar yn ymdrin â:
Cyflwyniad i'r cynllun
Pwy all wneud cais a sut.
Yr hyn y gellir ei ariannu
Amserlenni a phrosesau'r cynllun
Bydd hefyd sesiwn holi ac ateb lle gallwch gyflwyno cwestiynau i'r tîm eu hateb
Telerau Busnes
Mae eich preifatrwydd yn bwysig i Cyswllt Ffermio ac yn unol â'r rheoliad diogelu data cyffredinol (GDPR), mae hysbysiad preifatrwydd digwyddiadau yn rhoi gwybod i chi pam ein bod yn casglu, defnyddio a phrosesu eich gwybodaeth a phwy fydd yn cael mynediad iddi. Drwy archebu lle ar gwrs neu ddigwyddiad Cyswllt Ffermio, rydych yn derbyn y telerau a'r amodau hyn.
Drwy drefnu lle yn un o ddigwyddiadau/cyrsiau Cyswllt Ffermio neu Lywodraeth Cymru, rydych yn derbyn telerau ac amodau cyffredinol defnyddio gwasanaethau ar-lein Llywodraeth Cymru, ac yn derbyn Hysbysiad Prosesu Teg Cyswllt Ffermio.
Gallwn hefyd ddefnyddio'r wybodaeth rydych yn ei rhoi i gynnig gwasanaethau personol neu leol i chi, rhoi gwybod i chi am newidiadau i'n gwasanaeth, holi eich barn a'n helpu i wella ein gwasanaethau.
Mae'n debygol y bydd gan wefannau rydym yn rhoi dolen iddynt Delerau ac Amodau sy'n wahanol i'n rhai ni. Peidiwch â thybio bod ein Telerau ac Amodau yn berthnasol i wefannau eraill.
Mae cynrychiolwyr yn cydnabod bod deunyddiau cyrsiau a rhaglenni neu gopïau ohonynt yn eiddo i ddarparwyr hyfforddiant ac y gallant fod yn destun hawlfraint. Cytunir na fydd cynrychiolydd na'i gorff noddi yn copïo'r deunyddiau hynny, yn llawn neu'n rhannol, heb gael caniatâd ysgrifenedig darparwr yr hyfforddiant.
Rydym yn cadw'r hawl i ganslo neu ddiwygio amser y sesiynau hyn unrhyw bryd hyd at amser dechrau'r sesiwn; rhoddir gwybodaeth unigol am bob cwrs.
Gall cynrychiolwyr hefyd ganslo eu lle unrhyw bryd drwy ddilyn y ddolen yn yr e-bost a gawsant fel cadarnhad neu drwy gysylltu â'r Ganolfan Gwasanaethau.
Mae Canolfan Gwasanaethau Cyswllt Ffermio ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 08:00 a 17:00 ac eithrio Gwyliau Cyhoeddus.
I gael rhagor o wybodaeth am Gyswllt Ffermio, ewch i'n gwefan neu ffoniwch ni ar 03456 000 813.
Mae'r cyfeiriadur yn cynnwys gwybodaeth am ddigwyddiadau sy'n cael eu cynnig gan Gyswllt Ffermio, Llywodraeth Cymru a darparwyr eraill yn y sector cyhoeddus a phreifat. Nid ydym yn gyfrifol am wybodaeth am ddigwyddiadau sy'n cael eu cynnig gan ddarparwyr eraill ac ni allwn gymryd cyfrifoldeb am yr hyn a allai ddigwydd pe baech yn gweithredu ar yr wybodaeth honno.
Farming Connect
Farming Connect
Unit 3, Science Park
Aberystwyth
SY23 3AH
United Kingdom: Wales