Fordwyaeth
Cost: Am ddim
Ydych chi’n barod i gymryd y cam nesaf ar eich taith Hyderus o ran Anabledd?
Ymunwch â ni ar gyfer y weminar ymarferol a defnyddiol a grëwyd i gefnogi cyflogwyr sydd ar Lefel 1 ar y funud ac yn awyddus i symud ymlaen i Lefel 2 y Cynllun Hyderus o ran Anabledd.
Bydd y sesiwn hon yn eich arwain chi drwy’r hyn y mae’n ei olygu i fod yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd (Lefel 2) ac yn amlinellu’r gefnogaeth sydd ar gael i helpu’ch busnes dyfu wrth ddod yn fwy cynhwysol a hygyrch.
Beth i'w Ddisgwyl
Cewch glywed gan siaradwyr arbenigol o:
• DWP (Adran Gwaith a Phensiynau)
• Rhaglen Cyflogaeth Pobl Anabl Busnes Cymru
• Hyrwyddwyr Cyflogaeth Pobl Anabl Llywodraeth Cymru
• Cymru’n Gweithio
Byddant yn darparu enghreifftiau bywyd go iawn, adnoddau a chyngor ymarferol i’ch helpu chi i:
• Gwblhau’r broses ymgeisio ar gyfer lefel 2 y Cynllun Hyderus o ran Anabledd
• Recriwtio talent anabl a’i gadw
• Deall a chael mynediad at gymhelliad cyflog a chyllid ar gyfer gweithwyr Anabl
• Creu diwylliant gweithle a phroses recriwtio gynhwysol
Mae lefel 2 y cynllun yn dangos eich bod, nid yn unig wedi ymrwymo i gynhwysiant anabledd, ond eich bod yn arwain yn weithredol drwy esiampl. Mae’n gwella eich brand cyflogwr, yn cryfhau ceisiadau tendr, ac yn arddangos cyfraniad gwirioneddol i werth cymdeithasol.
P’un a yw’n cynnig profiad gwaith, interniaethau, neu gyfleoedd gwaith i bobl anabl, bydd y weminar hon yn rhoi syniadau newydd i chi, a’r hyder i symud ymlaen.
Mae’r digwyddiad yn cynnwys sesiwn Holi ac Ateb fyw a rhwydweithio ar-lein, gan roi’r cyfle i chi ymgysylltu’n uniongyrchol ag arbenigwyr a chyflogwyr o’r un anian.
Beth fydd cynnwys y cwrs?
Cynllun Hyderus o ran Anabledd yn symud i fyny i lefel 2 gyda chymhelliant cyflog a recriwtio.
Ar gyfer pwy mae'r digwyddiad?
BBaCh o Gymru sy’n barod am y camau nesaf yn y cynllun Hyderus o ran Anabledd.
Caiff y digwyddiad hwn ei gyflwyno gan Busnes Cymru ar ran Llywodraeth Cymru.
Mae Busnes Cymru yn wasanaeth dwyieithog ac mae ein digwyddiadau a'n gweithdai ar gael yn y Gymraeg a'r Saesneg, ar ôl cofrestru, rhowch wybod i ni beth yw eich dewisiadau iaith.
Gweler yma i weld sut mae Busnes Cymru yn trin eich gwybodaeth . Os ydych yn archebu lle ar ddigwyddiad Busnes Cymru neu Lywodraeth Cymru , mae'n bosibl y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a rowch i gynnig gwasanaethau personol neu leol chi , i roi gwybod i chi am newidiadau i'n gwasanaeth , i ofyn eich barn ac i helpu ni i wella ein gwasanaethau .
Mae wefannau y byddwn yn cysylltu â nhw yn debygol o fod gyda Thelerau ac Amodau sy'n wahanol i'n rhai ni . Peidiwch â chymryd yn ganiataol bod ein Telerau ac Amodau yn berthnasol i wefannau eraill.
Bydd y wybodaeth a ddarparwch fel rhan o'r archeb yn cael ei chadw am hyd at 7 diwrnod ar ôl i'r digwyddiad ddod i ben.
Busnes Cymru
Sarn Mynach
Llandudno Junction
Conwy
LL31 9RZ
United Kingdom: Wales