[ Neidio i Gynnwys ]

Cynllun Hyderus o ran Anabledd

Trosolwg

Cost: Am ddim

Nod y weminar yw eich helpu i lywio’ch taith Cynllun Hyderus o ran Anabledd ac amlinellu’r cymorth sydd ar gael i’ch busnes.

 

Mae’r Cynllun Hyderus o ran Anabledd yn fenter gan lywodraeth y DU sy’n hyrwyddo gweithle cynhwysol. 

Drwy ymuno â’r Cynllun Hyderus o ran Anabledd, byddwch yn cael logo adnabyddus a thystysgrif glodfawr, yn ogystal â bod yn rhan o fudiad sy’n hyrwyddo cynwysoldeb ac amrywiaeth yn y gweithle. 

Mae budd i’r gymuned a gwerth cymdeithasol yn flaenoriaeth yn y broses dendro, bydd angen i chi ddangos eich bod yn rhoi’n ôl i’r gymuned. Bydd mynychu’r weminar hon yn rhoi digonedd o syniadau i chi ynghylch gweithio gyda phobl anabl yn eich cymuned, p’un a yw hynny drwy gynnig profiad gwaith neu gyfleoedd am swydd. 

Gall dangos ymroddiad wella eich ceisiadau tendro, drwy gymryd rhan mewn cynllun a gydnabyddir yn genedlaethol. 

Fel cyflogwr, credwn y byddai eich sefydliad yn ychwanegiad ardderchog i’r digwyddiad. Bydd eich cyfranogiad yn helpu i arddangos diwylliant a gweledigaeth eich cwmni.

 

Pwysig - Mae'r digwyddiad hwn ar gyfer busnesau bach a chanolig eu maint yng nghymru ac mae wedi'i gyfyngu i ddau gynrychiolydd o bob busnes.

 

Caiff y digwyddiad hwn ei gyflwyno gan Busnes Cymru ar ran Llywodraeth Cymru.

 

Dyddiadau

30 Ionawr 2026, 14:00 - 15:00
Digwyddiad ar-lein

Cost: Am ddim

Amodau arbennig

Mae Busnes Cymru yn wasanaeth dwyieithog ac mae ein digwyddiadau a'n gweithdai ar gael yn y Gymraeg a'r Saesneg, ar ôl cofrestru, rhowch wybod i ni beth yw eich dewisiadau iaith.

Termau

Gweler yma i weld sut mae Busnes Cymru yn trin eich gwybodaeth . Os ydych yn archebu lle ar ddigwyddiad Busnes Cymru neu Lywodraeth Cymru , mae'n bosibl y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a rowch i gynnig gwasanaethau personol neu leol chi , i roi gwybod i chi am newidiadau i'n gwasanaeth , i ofyn eich barn ac i helpu ni i wella ein gwasanaethau .

Mae wefannau y byddwn yn cysylltu â nhw yn debygol o fod gyda Thelerau ac Amodau sy'n wahanol i'n rhai ni . Peidiwch â chymryd yn ganiataol bod ein Telerau ac Amodau yn berthnasol i wefannau eraill.

Bydd y wybodaeth a ddarparwch fel rhan o'r archeb yn cael ei chadw am hyd at 7 diwrnod ar ôl i'r digwyddiad ddod i ben.

Trefnydd y digwyddiad

Busnes Cymru
Sarn Mynach
Llandudno Junction
Conwy
LL31 9RZ
United Kingdom: Wales


03000 6 03000
E-bost | Gwefan