Cynlluniau marchnata ar gyfer 2027

Trosolwg

Cost: Am ddim

Blwyddyn Beicio 2027 - Gweminar marchnata

P'un a ydych yn fusnes twristiaeth, yn randdeiliaid, neu'n bartner diwydiant, mae'r weminar hon sydd am ddim yn gyfle gwych i:

  • Fod y cyntaf i glywed am flwyddyn thematig newydd Croeso Cymru, Blwyddyn Beicio.
  • Darganfod sut rydym yn bwriadu gwneud 2027 yn ddathliad o bob math o feicio a phrofiadau ledled Cymru a sut y gall eich busnes gymryd rhan i wneud y mwyaf o gyfleoedd.
  • Dysgu am ein cynlluniau ar gyfer ymgyrch Blwyddyn Beicio 2027, gan gynnwys cyfeiriad creadigol, cynulleidfaoedd targed a chynlluniau'r cyfryngau
  • Clywed sut mae Croeso Cymru yn paratoi ar gyfer y Tour de France Grand Départ yng Nghymru a'r cyfleoedd y mae'n ei gynnig i arddangos Cymru fel cyrchfan twristiaeth, a thyfu pob math o dwristiaeth beicio yn 2027 a'r tu hwnt i hynny.
  • Darganfod yr adnoddau a'r asedau marchnata am ddim sydd ar gael i gefnogi'ch gweithgareddau hyrwyddo eich hun
  • Derbyn yr wybodaeth ddiweddaraf am ymchwil a'r diweddariadau busnes
  • Darganfod sut y gall eich busnes elwa o gynllun Gwobr Croeso i Feicwyr a'r cyllid sydd ar gael

Byddwn hefyd yn cynnal sesiwn holi ac ateb fyw ar ddiwedd y weminar, gan roi cyfle i chi ofyn cwestiynau yn uniongyrchol i dîm Croeso Cymru.

Bydd y weminar hon sydd am ddim, yn cael ei chynnal ar Microsoft Teams ar 26 Tachwedd rhwng 2:00 pm a 3:30 pm. Bydd dolen yn cael ei hanfon atoch cyn y digwyddiad.

Sylwer, bydd y cyfarfod hwn yn cael ei recordio a bydd ar gael i’w gweld ar wefan diwydiant twristiaeth Llywodraeth Cymru:  Digwyddiadau ymgysylltu â'r diwydiant twristiaeth a lletygarwch | Diwydiant

Ymwadiad:
Mae’r weminar hon ar gyfer unigolion yn unig. Peidiwch â defnyddio botiau AI na systemau awtomatig i ymuno â’n cyfarfodydd rhithwyr. Os ydyn ni’n credu bod bot AI yn cael ei ddefnyddio bydd y cyfranogwr yn cael ei dynnu a’i wahodd i ailymuno pan fydd y swyddogaeth AI wedi cael ei diffodd. Bydd recordiad llawn o’r weminar ar gael ar ein gwefan diwydiant ar ôl y digwyddiad.  Mae cymryd rhan yn ddarostyngedig i Hysbysiadau Preifatrwydd y Diwydiant Twristiaeth, sy’n amlinellu sut mae recordiadau o weminarau a data mynychwyr yn cael eu trin yn unol â’r GDPR

Dyddiadau

26 Tachwedd 2026, 14:00 - 15:30
Digwyddiad ar-lein

Cost: Am ddim

Amodau arbennig

Ymwadiad:
Mae’r weminar hon ar gyfer unigolion yn unig. Peidiwch â defnyddio botiau AI na systemau awtomatig i ymuno â’n cyfarfodydd rhithwyr. Os ydyn ni’n credu bod bot AI yn cael ei ddefnyddio bydd y cyfranogwr yn cael ei dynnu a’i wahodd i ailymuno pan fydd y swyddogaeth AI wedi cael ei diffodd. Bydd recordiad llawn o’r weminar ar gael ar ein gwefan diwydiant ar ôl y digwyddiad.  

Mae cymryd rhan yn ddarostyngedig i Hysbysiadau Preifatrwydd y Diwydiant Twristiaeth, sy’n amlinellu sut mae recordiadau o weminarau a data mynychwyr yn cael eu trin yn unol â’r GDPR

Termau

Gweler yma i weld sut mae Busnes Cymru yn trin eich gwybodaeth . Os ydych yn archebu lle ar ddigwyddiad Busnes Cymru neu Lywodraeth Cymru , mae'n bosibl y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a rowch i gynnig gwasanaethau personol neu leol chi , i roi gwybod i chi am newidiadau i'n gwasanaeth , i ofyn eich barn ac i helpu ni i wella ein gwasanaethau .

Mae wefannau y byddwn yn cysylltu â nhw yn debygol o fod gyda Thelerau ac Amodau sy'n wahanol i'n rhai ni . Peidiwch â chymryd yn ganiataol bod ein Telerau ac Amodau yn berthnasol i wefannau eraill.

Bydd y wybodaeth a ddarparwch fel rhan o'r archeb yn cael ei chadw am hyd at 0 diwrnod ar ôl i'r digwyddiad ddod i ben.

Trefnydd y digwyddiad

Croeso Cymru
Welsh Government/Llywodraeth Cymru
Sarn Mynach
Llandudno Junction/Cyffordd Llandudno
Conwy
L31 9RZ
United Kingdom


0300 062 2418
E-bost | Gwefan