[ Neidio i Gynnwys ]

DA Ymarferol i Fusnesau Bach a Chanolig Cymru – Gwefanar Mabwysiadu DA (AI)

Trosolwg

Cost: Am ddim

Crynodeb Dysgwch sut i gymryd eich camau hyderus cyntaf gydag DA.

Mae'r weminar ymarferol hon wedi'i chynllunio ar gyfer BBaChau Cymru sydd yn chwilfrydig am DA ond heb fod yn siŵr ble i ddechrau, ac am ddechrau ei roi ar waith yn eu busnes.

Mae'r sesiwn hon yn ymdrin â'r offer DA gorau sydd ar gael am ddim ac am gost isel, enghreifftiau busnes go iawn, a sut i fabwysiadu DA yn ddiogel ac yn foesegol.

Bydd y weminar yn cael ei chyflwyno mewn partneriaeth ag Evolvity.

Caiff y digwyddiad hwn ei ddarparu gan Busnes Cymru ar ran Llywodraeth Cymru.

Beth fydd cynnwys y cwrs?

(1) Dechrau gydag AI - y camau ymarferol cyntaf ar gyfer eich busnes.

(2) Yr offer AI gorau am ddim ac am bris isel i BBaChau Cymru ar hyn o bryd.

(3) Enghreifftiau go iawn - sut mae busnesau yn arbed amser gydag AI heddiw.

(4) Aros yn ddiogel - preifatrwydd data, diogelwch, a mabwysiadu AI moesegol.

(5) Camau nesaf: cymorth AI parhaus drwy Busnes Cymru.

Ar gyfer pwy mae'r digwyddiad?

Perchnogion BBaChau Cymru, rheolwyr, a masnachwyr unigol sy'n chwilfrydig am DA ond heb fod yn siŵr ble i ddechrau. 

Nid oes angen cefndir technegol - dewch â'ch heriau busnes a pharodrwydd i archwilio.

Pwysig - Mae'r digwyddiad hwn ar gyfer busnesau bach a chanolig yng Nghymru ac mae'n gyfyngedig i ddau gynrychiolydd fesul busnes.

Caiff y digwyddiad hwn ei ddarparu gan Busnes Cymru ar ran Llywodraeth Cymru.

 

Dyddiadau

25 Mehefin 2026, 12:30 - 14:00
Digwyddiad ar-lein

Cost: Am ddim

Amodau arbennig

Mae Busnes Cymru yn wasanaeth dwyieithog ac mae ein digwyddiadau a'n gweithdai ar gael yn y Gymraeg a'r Saesneg, ar ôl cofrestru, rhowch wybod i ni beth yw eich dewisiadau iaith.

Termau

Gweler yma i weld sut mae Busnes Cymru yn trin eich gwybodaeth . Os ydych yn archebu lle ar ddigwyddiad Busnes Cymru neu Lywodraeth Cymru , mae'n bosibl y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a rowch i gynnig gwasanaethau personol neu leol chi , i roi gwybod i chi am newidiadau i'n gwasanaeth , i ofyn eich barn ac i helpu ni i wella ein gwasanaethau .

Mae wefannau y byddwn yn cysylltu â nhw yn debygol o fod gyda Thelerau ac Amodau sy'n wahanol i'n rhai ni . Peidiwch â chymryd yn ganiataol bod ein Telerau ac Amodau yn berthnasol i wefannau eraill.

Bydd y wybodaeth a ddarparwch fel rhan o'r archeb yn cael ei chadw am hyd at 7 diwrnod ar ôl i'r digwyddiad ddod i ben.

Gwybodaeth Ychwanegol

Trefnydd y digwyddiad

Busnes Cymru
Sarn Mynach
Llandudno Junction
Conwy
LL31 9RZ
United Kingdom: Wales


03000 6 03000
E-bost | Gwefan