[ Neidio i Gynnwys ]

Darganfod eich Gallu Digidol wrth Ddechrau Busnes gyda’r Rhaglen Llythrennedd Digidol a gyflwynir gan Assadaqaat Community Finance (ACF)

Trosolwg

Cost: Am ddim

Mae’r rhaglen hon wedi ei dylunio’n arbennig i fenywod sy’n barod i fentro i’r byd entrepreneuriaeth, a bydd yn eich helpu i wneud y canlynol: ✅ Deall y sefyllfa ddigidol ✅ Gwella eich sgiliau digidol ✅ Defnyddio’r adnoddau cywir i ddatblygu presenoldeb ar-lein cadarn i dyfu busnes

Os ydych chi’n fenyw sydd: ✨ Yn cael trafferth gyda chyfryngau cymdeithasol a digidol i hyrwyddo busnes ✨ Awydd creu presenoldeb ar-lein effeithiol ✨ Yn dyheu i gysylltu ac ymgysylltu gyda chwsmeriaid ar lwyfannau ar-lein

...yna mae’r rhaglen hon yn berffaith i CHI!

Bydd y cwrs yn rhoi sylw i’r pethau canlynol (ymysg pethau eraill):

Sesiwn 1: Cyflwyniad i Strategaeth a Marchnata Digidol (2.5 awr) - 19eg Chwefror 2026

1. Trosolwg o’r Sefyllfa Marchnata Digidol

2. Cydrannau Craidd Fframwaith Strategaeth Ddigidol

3. Datblygu Cynllun Marchnata Digidol Syml

Sesiwn 2: Cyfryngau cymdeithasol i Hyrwyddo Busnes (2.5 awr) - 26ain Chwefror 2026

1. Rôl Cyfryngau Cymdeithasol mewn Busnes Modern

2. Achosion Defnyddio, Cryfderau a Nodweddion Platfformau

3. Creu Llais Brand Cyson Ar Draws Platfformau

Sesiwn 3: Hanfodion E-fasnach (2.5 awr) - 5ed Mawrth 2026

1. Deall y Sefyllfa E-fasnach

2. Cydrannau Allweddol Siop Ar-lein Effeithiol

3. Systemau Talu, Diogelwch ac Arwyddion o Ymddiriedaeth

Sesiwn 4: AI Cynhyrchiol i Greu Cynnwys a Rhoi Hwb i Lefelau Ymgysylltu (2.5 awr) - 12fed Mawrth 2026

1. Trosolwg o Adnoddau AI Cynhyrchiol i Farchnatwyr

2. AI ar gyfer Cynnwys Personol, Elfennau Gweledol, a Thestunau

3. Integreiddio AI i Lif Gwaith Marchnata

Ymunwch â Rhaglen Llythrennedd Digidol ACF heddiw ac enillwch y sgiliau, yr hyder, a’r arweiniad sydd eu hangen arnoch i ffynnu yn y byd digidol ac ehangu eich busnes.

Bio’r Cyflwynydd –

“Mae Dr. Tahir Mushtaq yn Uwch Ddarlithydd Marchnata Digidol ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd ac mae’n ymgynghorydd a hyfforddwr rhyngwladol mewn trawsnewid digidol. Mae’n awdur ar ddau lyfr ar ddysgu a gyfoethogir gan dechnoleg ac mae’n arbenigo mewn marchnata wedi’i arwain gan AI, ymddygiad defnyddwyr digidol, a strategaeth yn seiliedig ar ddata, gan gefnogi unigolion a sefydliadau i ddefnyddio adnoddau digidol yn effeithiol mewn cyd-destun marchnata yn y byd go iawn.”

Mae’r digwyddiad yma yn cael ei gynnal gan Busnes Cymru ar ran Llywodraeth Cymru.

Dyddiadau

19 Chwefror 2026 - 12 Mawrth 2026, 12:00 - 14:30
Digwyddiad ar-lein

Cost: Am ddim

sesiwn 1

Cyflwyniad i Strategaeth a Marchnata Digidol

Dydd Iau

19/02/26

12-2:30pm

sesiwn 2

Cyfryngau cymdeithasol i Hyrwyddo Busnes

Dydd Iau

26/02/26

12-2:30pm

sesiwn 3

Hanfodion E-fasnach

Dydd Iau

05/03/26

12-2:30pm

sesiwn 4

AI Cynhyrchiol i Greu Cynnwys a Rhoi Hwb i Lefelau Ymgysylltu

Dydd Iau

12/03/26

12-2:30pm

Mae archebu lle ar gyfer y digwyddiad hwn ar gau erbyn hyn.

Amodau arbennig

Mae Busnes Cymru yn wasanaeth dwyieithog ac mae ein digwyddiadau a'n gweithdai ar gael yn y Gymraeg a'r Saesneg, ar ôl cofrestru, rhowch wybod i ni beth yw eich dewisiadau iaith.

Termau

Gweler yma i weld sut mae Busnes Cymru yn trin eich gwybodaeth . Os ydych yn archebu lle ar ddigwyddiad Busnes Cymru neu Lywodraeth Cymru , mae'n bosibl y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a rowch i gynnig gwasanaethau personol neu leol chi , i roi gwybod i chi am newidiadau i'n gwasanaeth , i ofyn eich barn ac i helpu ni i wella ein gwasanaethau .

Mae wefannau y byddwn yn cysylltu â nhw yn debygol o fod gyda Thelerau ac Amodau sy'n wahanol i'n rhai ni . Peidiwch â chymryd yn ganiataol bod ein Telerau ac Amodau yn berthnasol i wefannau eraill.

Bydd y wybodaeth a ddarparwch fel rhan o'r archeb yn cael ei chadw am hyd at 7 diwrnod ar ôl i'r digwyddiad ddod i ben.

Trefnydd y digwyddiad

Busnes Cymru
Welsh Government
Sarn Mynach
Llandudno Junction
Conwy
LL31 9RZ
United Kingdom


03000 6 03000
E-bost | Gwefan