Fordwyaeth
Cost: Am ddim
Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn cynnal adolygiad o Wasanaethau Addysg a Hyfforddiant Iechyd Proffesiynol a ddarperir i GIG Cymru ac yn ceisio sefydlu Cytundeb Fframwaith aml-ddarparwr i gomisiynu a chaffael rhaglenni addysg
ar gyfer therapïau iechyd meddwl/ymyriadau seicolegol i gwmpasu gofynion addysg eang ac amrywiol staff GIG Cymru a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru.
Beth fydd y digwyddiad yn ei gwmpasu?
Paratoi tendr - gan gynnwys c ofrestru ar GwerthwchiGymru ac eDendroCymru, deall yr holiadur dewis ac awgrymiadau tendro.
Ar gyfer pwy mae'r gweithdy hwn?
Pob darparwr sydd â diddordeb mewn gwneud cais am rhaglenni addysg ar gyfer therapïau iechyd meddwl/ymyriadau seicolegol.
Digwyddiad wyneb yn wyneb yn Nhŷ Dysgu Cefn Coed, Nantgarw, Caerdydd, CF15 7QQ.
Bydd cyfleusterau i ymuno ar-lein hefyd ar gael.
Caiff y digwyddiad hwn ei gyflwyno gan Busnes Cymru ar ran Llywodraeth Cymru.
Mae Busnes Cymru yn wasanaeth dwyieithog ac mae ein digwyddiadau a'n gweithdai ar gael yn y Gymraeg a'r Saesneg, ar ôl cofrestru, rhowch wybod i ni beth yw eich dewisiadau iaith.
Gweler yma i weld sut mae Busnes Cymru yn trin eich gwybodaeth . Os ydych yn archebu lle ar ddigwyddiad Busnes Cymru neu Lywodraeth Cymru , mae'n bosibl y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a rowch i gynnig gwasanaethau personol neu leol chi , i roi gwybod i chi am newidiadau i'n gwasanaeth , i ofyn eich barn ac i helpu ni i wella ein gwasanaethau .
Mae wefannau y byddwn yn cysylltu â nhw yn debygol o fod gyda Thelerau ac Amodau sy'n wahanol i'n rhai ni . Peidiwch â chymryd yn ganiataol bod ein Telerau ac Amodau yn berthnasol i wefannau eraill.
Busnes Cymru
Sarn Mynach
Llandudno Junction
Conwy
LL31 9RZ
United Kingdom: Wales