Darparu Cyrsiau Ar-lein a Gwasanaethau Rhithwir- CCIF (Ar-Lein)
Trosolwg
Cost: Am ddim
Allech chi ddarparu'ch gwasanaeth wyneb yn wyneb o bell? Oes gennych chi syniad gwych ar gyfer cwrs ar-lein? Os nad ydych yn siŵr ble i ddechrau, y gweminar am ddim hwn sydd ei angen arnoch chi.
Byddwn yn dangos ffyrdd hawdd i chi ddarparu'ch gwasanaethau’n rhithwir fel y gallwch gadw mewn cysylltiad â chwsmeriaid a chael arian yn y banc
Byddwn yn trafod:
- Sut i hyrwyddo'ch cyrsiau/gwasanaethau ar-lein newydd
- Sut i redeg eich sesiynau byw – 1:1 neu grŵp
- Platfformau ar-lein ar gyfer rheoli cyrsiau ar alw
- Sut i gymryd archebion a thaliadau
- Sut i reoli'ch cwsmeriaid a'u cadw'n hapus
Beth fyddwn ni'n ei ddarparu?
- Gweithdai busnes am ddim: dysgwch ffyrdd ymarferol o wneud y gorau o offer a thechnolegau ar-lein ar gyfer llwyddiannau cyflym a gwelliannau mawr.
- Cymorth 1:1 wedi’i deilwra: cael sesiwn gyngor un-i-un gydag Ymgynghorydd Busnes Digidol i drafod anghenion eich busnes a chael cynllun wedi’i deilwra.
- Adolygiad gwefan: cael adolygiad o'ch gwefan am ddim i ddod o hyd i feysydd y gallech eu gwella i gynyddu eich amlygrwydd ar-lein ac ymwybyddiaeth cwsmeriaid.
Cofrestrwch ar gyfer y digwyddiad rhad ac am ddim hwn nawr!
Neu cadwch le drwy ffonio 03332 408329.
Dyddiadau
Termau
Gweler yma i weld sut mae Busnes Cymru yn trin eich gwybodaeth . Os ydych yn archebu lle ar ddigwyddiad Busnes Cymru neu Lywodraeth Cymru , mae'n bosibl y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a rowch i gynnig gwasanaethau personol neu leol chi , i roi gwybod i chi am newidiadau i'n gwasanaeth , i ofyn eich barn ac i helpu ni i wella ein gwasanaethau .
Mae wefannau y byddwn yn cysylltu â nhw yn debygol o fod gyda Thelerau ac Amodau sy'n wahanol i'n rhai ni . Peidiwch â chymryd yn ganiataol bod ein Telerau ac Amodau yn berthnasol i wefannau eraill.
Trefnydd y digwyddiad

Busnes Cymru
Welsh Government
Sarn Mynach
Llandudno Junction
Conwy
LL31 9RZ
United Kingdom