[ Neidio i Gynnwys ]

Datblygu Strategaeth Farchnata

Trosolwg

Cost: Am ddim

Gweithdy rhyngweithiol sy’n rhoi’r technegau a’r wybodaeth angenrheidiol i gynrychiolwyr i ffurfio a gweithredu strategaeth farchnata ar gyfer eu sefydliad hwy.

 Ar ddiwedd y rhaglen, bydd gan bob cyfranogwr ddealltwriaeth o:

  • Prif egwyddorion a thechnegau ymchwil i'r farchnad
  • Prif dactegau hyrwyddol sy’n crynhoi’r cymysgedd o weithgareddau hyrwyddo - hysbysebu, gwerthu, cysylltiadau cyhoeddus a gwerthu personol
  • Strategaeth farchnata - y gystadleuaeth, y farchnad, yr amgylchedd allanol.

Byddant hefyd yn cael cyfle i adnabod:

  • Cynulleidfaoedd targed
  • Rhannau o'r farchnad
  • Anghenion cynulleidfa a’r buddion perthnasol
  • Pwyntiau gwerthu unigryw
  • Neges hyrwyddol effeithiol a pherthnasol ar gyfer pob rhan

 

Caiff y digwyddiad hwn ei gyflwyno gan Busnes Cymru ar ran Llywodraeth Cymru.

 

Dyddiadau

11 Mehefin 2025, 09:30 - 12:30
Digwyddiad ar-lein

Cost: Am ddim

17 Gorffennaf 2025, 09:30 - 12:30
Digwyddiad ar-lein

Cost: Am ddim

Amodau arbennig

Mae Busnes Cymru yn wasanaeth dwyieithog ac mae ein digwyddiadau a'n gweithdai ar gael yn y Gymraeg a'r Saesneg, ar ôl cofrestru, rhowch wybod i ni beth yw eich dewisiadau iaith.

Termau

Gweler yma i weld sut mae Busnes Cymru yn trin eich gwybodaeth . Os ydych yn archebu lle ar ddigwyddiad Busnes Cymru neu Lywodraeth Cymru , mae'n bosibl y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a rowch i gynnig gwasanaethau personol neu leol chi , i roi gwybod i chi am newidiadau i'n gwasanaeth , i ofyn eich barn ac i helpu ni i wella ein gwasanaethau .

Mae wefannau y byddwn yn cysylltu â nhw yn debygol o fod gyda Thelerau ac Amodau sy'n wahanol i'n rhai ni . Peidiwch â chymryd yn ganiataol bod ein Telerau ac Amodau yn berthnasol i wefannau eraill.

Trefnydd y digwyddiad

Busnes Cymru
Sarn Mynach
Llandudno Junction
Conwy
LL31 9RZ
United Kingdom: Wales


03000 6 03000
E-bost | Gwefan