Fordwyaeth
Cost: Am ddim
Prynodd system y Cenhedloedd Unedig nwyddau a gwasanaethau gwerth $22.7 biliwn yn 2025, gan eu caffael gan gyflenwyr mewn 227 o wledydd a thiriogaethau ar draws sectorau amrywiol – o ofal iechyd a gwyddorau bywyd i dechnoleg, peirianneg, addysg, gwasanaethau proffesiynol, logisteg, ynni, adeiladu a chynaliadwyedd. Ar hyn o bryd, mae'r DU yn ail yn y tabl cynghrair o wledydd sy'n cyflenwi nwyddau a gwasanaethau.
Bydd y digwyddiad hwn yn cyflwyno busnesau Cymru i'r cyfleoedd masnachol sylweddol sydd ar gael drwy'r CU a'r sector dyngarol a datblygu ehangach. Mae'r sefydliadau hyn yn prynu popeth o dechnolegau arloesol a gwasanaethau ymgynghori i offer arbenigol, atebion seilwaith ac arbenigedd proffesiynol.
Yn ystod y seminar, byddwch yn dysgu:
• Pam mae sefydliadau rhyngwladol yn gallu bod yn gwsmeriaid gwerthfawr i fusnesau yn y DU
• Sut mae proses gaffael yr CU yn gweithio ac ymhle y mae cyfleoedd yn cael eu hysbysebu
• Pa gynhyrchion a gwasanaethau y mae'r galw mwyaf amdanynt
• Sut i gofrestru fel cyflenwr a rhoi eich busnes mewn sefyllfa i lwyddo
• Syniadau ymarferol ar gyfer cystadlu am dendrau rhyngwladol ac ennill contractau dramor
• Cewch glywed am brofiad cwmni o Gymru o lygad y ffynnon.
Byddwch yn clywed yn uniongyrchol gan gynghorwyr masnach o ganolfannau caffael allweddol yr CU, a rhai rhyngwladol, sy'n cefnogi cwmnïau'r DU sy’n chwilio am gyfleoedd gyda phrosiectau amlwladol sy’n derbyn cymorth gan yr CU ledled y byd.
Ar ôl y seminar, bydd y rhai sy'n bresennol yn cael cyfle i drefnu cyfarfod un-i-un i drafod eu busnes, archwilio cyfleoedd perthnasol a chael arweiniad pwrpasol ar y camau nesaf.
P'un a ydych yn newydd i brosesau caffael y Cenhedloedd Unedig neu'n ceisio ehangu eich cyrhaeddiad allforio, bydd y digwyddiad hwn yn eich helpu i ddeall sut i wneud busnes gyda'r Cenhedloedd Unedig a manteisio ar gyfleoedd caffael.
Mae lleoedd yn brin, felly cofrestrwch nawr i sicrhau lle.
Mae'n agored i bob busnes yng Nghymru sydd am ddatblygu’n rhyngwladol. Nid yw'n berthnasol i gyfryngwyr na chyflenwyr gwasanaethau masnach ryngwladol
Gweler yma i weld sut mae Llywodraeth Cymru yn trin eich gwybodaeth . Os ydych yn archebu lle ar ddigwyddiad Busnes Cymru neu Lywodraeth Cymru , mae'n bosibl y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a rowch i gynnig gwasanaethau personol neu leol chi , i roi gwybod i chi am newidiadau i'n gwasanaeth , i ofyn eich barn ac i helpu ni i wella ein gwasanaethau .
Mae wefannau y byddwn yn cysylltu â nhw yn debygol o fod gyda Thelerau ac Amodau sy'n wahanol i'n rhai ni . Peidiwch â chymryd yn ganiataol bod ein Telerau ac Amodau yn berthnasol i wefannau eraill.
Bydd y wybodaeth a ddarparwch fel rhan o'r archeb yn cael ei chadw am hyd at 7 diwrnod ar ôl i'r digwyddiad ddod i ben.
EET
Swyddfeydd Llywodraeth Cymru / Welsh Government Offices
Parc Cathays / Cathays Park
Caerdydd / Cardiff
CF10 3NQ
United Kingdom: Wales