Fordwyaeth
Cost: Am ddim
Pwysig - Mae'r digwyddiad hwn ar gyfer busnesau bach a chanolig eu maint yng nghymru ac mae wedi'i gyfyngu i ddau gynrychiolydd o bob busnes
Crynodeb
Ydych chi am ysgogi eich busnes i fod yn fwy cystadleuol? Wrth ymuno â'r gweithdy hwn fe gewch eich cyfarparu â’r offer a'r mewnwelediadau sydd eu hangen arnoch i ragori yn y dirwedd gystadleuol sydd ohoni heddiw gan ddefnyddio’r fethodoleg Chwe Sigma Darbodus.
Mae Chwe Sigma Darbodus yn fethodoleg brofedig ar gyfer gwella prosesau a sefydliadau mewn modd cynaliadwy.
Mae'n cynnig dull sy’n galluogi sefydliadau i gyflawni canlyniadau pendant a mesuradwy mewn modd strwythuredig gan ddefnyddio'r camau isod:
Mae’r dull Chwe Sigma Darbodus yn helpu busnesau i wella'r ffordd y maent yn gweithio ac ansawdd eu cynhyrchion a'u gwasanaethau. Darparu mwy o werth i gwsmeriaid, er mwyn gwneud prosesau'n fwy cyson ac effeithlon, gan leihau gwallau a gwella perfformiad cyffredinol.
Er mwyn gwella eich gweithrediadau busnes, mae'n hanfodol dechrau trwy ddeall beth sy'n wirioneddol bwysig i'ch cwsmeriaid ac integreiddio'r blaenoriaethau hynny yn eich prosesau. Drwy wneud hynny, gallwch leihau costau, cynyddu boddhad cwsmeriaid, a lleihau amseroedd dosbarthu. Mae'r dull hwn yn bwerus oherwydd mae’n gwneud y mwyaf o wybodaeth a phrofiad presennol y gweithwyr yn eich prosesau cyfredol. Mae hefyd yn grymuso eich staff trwy alinio strategaeth y cwmni ag arferion o ddydd i ddydd, gan sicrhau bod pawb yn cydweithio'n effeithiol er budd y busnes a'i gwsmeriaid.
Beth fydd cynnwys y cwrs?
Sicrhewch eich lle heddiw a dechreuwch eich taith tuag at weithrediadau llyfnach, mwy o gynhyrchiant, a thwf parhaol.
Archebwch eich lle nawr.
Ar gyfer pwy mae'r gweithdy hwn?
Mae'r gweithdy hwn wedi'i deilwra ar gyfer busnesau bach a chanolig sydd wedi eu sefydlu a rhai sy’n tyfu mewn sectorau allweddol, gan gynnwys y diwydiant Bwyd a Diod, Cyfanwerthu a Dosbarthu, Cyllid a Gwasanaethau Busnes.
P'un a ydych chi'n weithiwr proffesiynol profiadol sy'n dymuno gwella'ch sgiliau neu'n arweinydd busnes sy'n ymdrechu am ragoriaeth weithredol, y gweithdy hwn yw eich porth i ddatgloi potensial llawn Chwe Sigma Darbodus.
Cefndir y siaradwr
Mae Rik Sellwood yn arbenigwr yn y maes Chwe Sigma Darbodus sydd wedi gweithio ar draws ac wedi arwain mewn nifer o ddiwydiannau a chwmnïau o wahanol feintiau. Mae'n swyddog proffesiynol hynod gymwys, profiadol gydag arddull ddeniadol a gwybodus. Mae Rik yn ceisio hybu dealltwriaeth a rhannu gwybodaeth gydag enghreifftiau ac ymarferion perthnasol i'ch helpu ar eich taith i fusnes mesuradwy mwy effeithlon ac effeithiol.
Gweler yma i weld sut mae Busnes Cymru yn trin eich gwybodaeth . Os ydych yn archebu lle ar ddigwyddiad Busnes Cymru neu Lywodraeth Cymru , mae'n bosibl y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a rowch i gynnig gwasanaethau personol neu leol chi , i roi gwybod i chi am newidiadau i'n gwasanaeth , i ofyn eich barn ac i helpu ni i wella ein gwasanaethau .
Mae wefannau y byddwn yn cysylltu â nhw yn debygol o fod gyda Thelerau ac Amodau sy'n wahanol i'n rhai ni . Peidiwch â chymryd yn ganiataol bod ein Telerau ac Amodau yn berthnasol i wefannau eraill.
Busnes Cymru
Sarn Mynach
Llandudno Junction
Conwy
LL31 9RZ
United Kingdom: Wales