[ Neidio i Gynnwys ]

Deall AD sylfaenol

Trosolwg

Cost: Am ddim

Mae’r weminar hon wedi’i dylunio i roi sylfaen gadarn i berchnogion busnes ynghylch hanfodion adnoddau dynol, gan eich helpu i reoli eich pobl yn fwy hyderus gan gydymffurfio.

Byddwn yn eich tywys drwy’r meysydd allweddol y dylai pob cyflogwr ei ddeall - o recriwtio a chynefino i reoli perfformiad, ymdrin ag absenoldebau a deall hawliau cyflogwr. Byddwch hefyd yn dysgu am bolisïau hanfodol, cyfrifoldebau cyfreithiol a phryd i geisio cymorth ychwanegol.

Yn berffaith ar gyfer y rheiny sy’n newydd i AD neu gynnal busnes heb dîm AD ymroddedig, bydd y sesiwn hon yn eich arfogi gyda gwybodaeth ac offer ymarferol i greu gweithle cadarnhaol sy’n cydymffurfio’n gyfreithiol.

 

Pwysig - Mae'r digwyddiad hwn ar gyfer busnesau bach a chanolig eu maint yng nghymru ac mae wedi'i gyfyngu i ddau gynrychiolydd o bob busnes.

 

Caiff y digwyddiad hwn ei gyflwyno gan Busnes Cymru ar ran Llywodraeth Cymru.

 

Dyddiadau

28 Ionawr 2026, 10:30 - 11:30
Digwyddiad ar-lein

Cost: Am ddim

26 Chwefror 2026, 10:00 - 11:30
Digwyddiad ar-lein

Cost: Am ddim

26 Mawrth 2026, 10:00 - 11:30
Digwyddiad ar-lein

Cost: Am ddim

20 Ebrill 2026, 10:00 - 11:30
Digwyddiad ar-lein

Cost: Am ddim

Amodau arbennig

Mae Busnes Cymru yn wasanaeth dwyieithog ac mae ein digwyddiadau a'n gweithdai ar gael yn y Gymraeg a'r Saesneg, ar ôl cofrestru, rhowch wybod i ni beth yw eich dewisiadau iaith.

Termau

Gweler yma i weld sut mae Busnes Cymru yn trin eich gwybodaeth . Os ydych yn archebu lle ar ddigwyddiad Busnes Cymru neu Lywodraeth Cymru , mae'n bosibl y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a rowch i gynnig gwasanaethau personol neu leol chi , i roi gwybod i chi am newidiadau i'n gwasanaeth , i ofyn eich barn ac i helpu ni i wella ein gwasanaethau .

Mae wefannau y byddwn yn cysylltu â nhw yn debygol o fod gyda Thelerau ac Amodau sy'n wahanol i'n rhai ni . Peidiwch â chymryd yn ganiataol bod ein Telerau ac Amodau yn berthnasol i wefannau eraill.

Bydd y wybodaeth a ddarparwch fel rhan o'r archeb yn cael ei chadw am hyd at 7 diwrnod ar ôl i'r digwyddiad ddod i ben.

Trefnydd y digwyddiad

Busnes Cymru
Sarn Mynach
Llandudno Junction
Conwy
LL31 9RZ
United Kingdom: Wales


03000 6 03000
E-bost | Gwefan