Fordwyaeth
Cost: Am ddim
Gall darparu nwyddau a gwasanaethau i’r cadwyni cyflenwi ymddangos yn gymhleth ac anghyfarwydd. Maent yn cynnwys y rhwydwaith cyfan o bobl, sefydliadau, adnoddau a gweithgareddau sy’n ymwneud â chreu a darparu cynnyrch neu wasanaeth, o gyrchu deunyddiau crai i'r cam olaf o gyrraedd dwylo’r cwsmer, gan gynnwys cynllunio, gweithgynhyrchu, logisteg (storio/trafnidiaeth), a dosbarthu, i gyd wedi eu cydlynu i gwrdd ag anghenion yn effeithlon a chost effeithiol. Mae deall sut maent yn gweithio fel busnes newydd a sut i weithio orau oddi mewn iddynt yn hanfodol i lwyddiant.
Ar ôl mynychu’r weminar hon bydd mynychwyr yn deall:
1. Beth yw cadwyni cyflenwi
2. Y manteision o fod yn rhan o gadwyn gyflenwi
3. Yr heriau o weithio oddi mewn i gadwyni cyflenwi
4. Yr hyn mae busnesau angen ei gael ar waith i wneud i Gadwyni Cyflenwi weithio i chi.
Bio’r Cyflwynydd –
Mae gan Gwyn dros dri deg mlynedd o brofiad mewn gweithgynhyrchu a pheirianneg ar draws ystod o fusnesau bach a chanolig, gyda gwybodaeth amlwg mewn rheoli cadwyni cyflenwi, gan gynnwys datblygiad cyflenwyr, rheoli stocrestrau, cydlynu logisteg a chynllunio galw.
Mae ei brofiad yn cynnwys rheoli cydymffurfiaeth gyda safonau ansawdd megis ISO 9001 i gefnogi hygrededd a pharodrwydd cyflenwyr, gan alluogi busnesau i osod eu hunain fel partneriaid dibynadwy oddi mewn i gadwyni cyflenwi cystadleuol.
Mae’n arddangos hyder wrth arwain a chefnogi mentrau strategol ar draws sawl tîm, gan ddefnyddio’r pecyn cymorth gwelliant parhaus Lean Six Sigma ac amrywiol dechnegau ac offer gwella busnes i ddatblygu datrysiadau arloesol ymarferol ar gyfer problemau busnes.
Gyda sylfaen gref mewn technegau rheoli newid a phrosiect, mae Gwyn yn rhagori wrth gyflawni newid trawsnewidiol a rhagoriaeth weithredol.
Mae’r digwyddiad yma yn cael ei gynnal gan Busnes Cymru ar ran Llywodraeth Cymru.
Mae Busnes Cymru yn wasanaeth dwyieithog ac mae ein digwyddiadau a'n gweithdai ar gael yn y Gymraeg a'r Saesneg, ar ôl cofrestru, rhowch wybod i ni beth yw eich dewisiadau iaith.
Gweler yma i weld sut mae Busnes Cymru yn trin eich gwybodaeth . Os ydych yn archebu lle ar ddigwyddiad Busnes Cymru neu Lywodraeth Cymru , mae'n bosibl y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a rowch i gynnig gwasanaethau personol neu leol chi , i roi gwybod i chi am newidiadau i'n gwasanaeth , i ofyn eich barn ac i helpu ni i wella ein gwasanaethau .
Mae wefannau y byddwn yn cysylltu â nhw yn debygol o fod gyda Thelerau ac Amodau sy'n wahanol i'n rhai ni . Peidiwch â chymryd yn ganiataol bod ein Telerau ac Amodau yn berthnasol i wefannau eraill.
Bydd y wybodaeth a ddarparwch fel rhan o'r archeb yn cael ei chadw am hyd at 7 diwrnod ar ôl i'r digwyddiad ddod i ben.
Busnes Cymru
Welsh Government
Sarn Mynach
Llandudno Junction
Conwy
LL31 9RZ
United Kingdom